
MDes
Ffilm a Ffotograffiaeth
cyfleusterau cyfoes
ar y campws gan gynnwys stiwdio ffotograffig
ymysg y 10 codwr
mwyaf yn y Guardian University Guide 2019
teithiwch
cyfleoedd i astudio dramor
Côd UCAS: 43J1
BL Mynediad: 2019 2020
Tariff UCAS: 120
Hyd y Cwrs: 4 blynedd (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Yn y sector deinamig cystadleuol hwn bydd ein cwrs MDes Ffilm a Ffotograffiaeth yn rhoi mantais i chi.
Yn cwmpasu'r ystod lawn o greadigrwydd delweddau llonydd a symudol, byddwch yn datblygu profiad yn y sgiliau technegol fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn yr yrfa hon gan gynnwys gwaith lleoliad a stiwdio ar gyfer drama, dogfen, hysbysebu, cyfryngau cerddorol, tirlun, darlun, symudiad, delweddau digidol a phynciau cysylltiedig eraill megis sgrîn werdd, effeithiau gweledol, technegau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
Yn ystod y cwrs byddwch yn cael cyfleoedd i ymgymryd â briffiau 'byw' ac i weithio ar y cyd fydd yn eich galluogi i ddysgu sut i ymaddasu i wahanol ffyrdd o weithio ac i gyfuno eich gwybodaeth i ddatrys problemau a mynegi eich syniadau.
Gallwch hefyd ddysgu'r pwnc hwn fel BA (Anrh) Dylunio: Ffilm a Ffotograffiaeth
