Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau rhagarweiniol sydd wedi ei dylunio i ddarparu'r sgiliau ar gyfer astudio ym mhrifysgol o fewn meysydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Byddwch yn ymgysylltu'n greadigol a dychmygol gyda modelau presennol ac yn cynhyrchu'ch ysgrifennu gwreiddiol eich hun.
Modiwlau
- Cyflwyniad i Genre - Craidd (20 credid)
- Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol - Craidd (20 credid)
- Ysgrifennu Bywyd - Dewis (20 credid)
- Sgiliau Personol, Proffesiynol ac Academaidd - Craidd (20 credid)
- Meddwl Beirniadol - Craidd (20 credid)
- Cyflwyniad i Ysgrifennu i Blant - Opsiwn (20 credid)
- Iaith Ysgrifennu Creadigol - Craidd (20 credid)
- Testun i Sgrin - Opsiwn (20 credid)
Bydd modiwlau 20 credid lefel 4 gyda 326 awr o addysgu wedi'i amserlennu, a 164 o astudiaeth annibynnol o dan arweiniad a bydd asesiad drwy bortffolio 4000 gair neu waith cwrs cyfwerth.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Byddwch yn datblygu'n bellach sgiliau darllen agos a dadansoddiad. Byddwch yn ymarfer nifer o wahanol fathau o ysgrifennu ac yn datblygu defnydd soffistigedig o iaith, yn cymhwyso ymchwil a sgiliau llyfryddol lle bo angen ac yn adfyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer creadigol eich hunan. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o brif 'genrau' llenyddol gan gynnwys rhyddiaith, barddoniaeth a drama ac ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys ffilm, radio a'r llwyfan.
Modiwlau
- Ysgrifennu Rhamantus ac Oes Fictoria - Craidd (20 credid)
- Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Oedolion - Opsiwn (20 credid)
- Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol - Opsiwn (20 credid)
- Y Stori Fer - Opsiwn (20 credid)
- Ysgrifennu Arbrofol - Craidd (20 credid)
- Ysgrifennu Nofelau Trosedd ac Ias a Chyffro - Opsiwn (20 credid
- Prosiect Annibynnol - Opsiwn (20 credid)
- Dulliau Ymchwil - Craidd (20 credid)
Bydd modiwlau 20 credid lefel 5 Ysgrifennu Creadigol gyda 30 awr o addysgu wedi'i amserlennu, a 170 o astudiaeth annibynnol o dan arweiniad. Bydd asesiad drwy 4000 gair o waith ysgrifenedig neu gyflwyniad a chynnig 2000 mewn achos y modiwl Dulliau Ymchwil. Bydd y ddau fodiwl craidd yn semester 1 Ysgrifennu Rhamantus ac Oes Fictoria ac Ysgrifennu Arbrofol yn cael eu hasesu gydag arholiad 2 awr a darn o waith cwrs 2000 gair.
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o ofynion technegol nifer o ffurfiau o ysgrifennu; yn datblygu dealltwriaeth o brosesau a dulliau golygyddol; yn parhau i brofi amrywiaeth o ffurfiau o ysgrifen ac yn datblygu gafael o hanes llenyddol a dulliau beirniadol.
Modiwlau
- Traethawd Hir - Opsiwn (40 credid)
- Y Prosiect Estynedig - Craidd (40 credid)
- Y Nofel Gyfoes - Opsiwn (20 credid)
- Shakespeare - Opsiwn (20 credid)
- Ysgrifennu ar gyfer Plant (Ymarfer Estynedig) - Opsiwn (20 credid)
- Ffuglen Gwyddoniaeth - Opsiwn (20 credid)
- Ysgrifennu Ol-Ryfel - Opsiwn (20 credid)
- Y Nofel Raffig - Opsiwn (20 credid)
- Rhywedd, Rhywioldeb ac Ysgrifennu - Opsiwn (20 credid)
Bydd pob modiwl 20 credid lefel 6 gyda 24 awr o addysgu wedi'i amserlennu a 174 awr o astudiaeth annibynnol dan arweiniad a dyblwyd hyn ar gyfer modiwlau 40 credid. Aseswyd pob modiwl 20 credid drwy bortffolio o waith neu brosiect cyfwerth a 4000 gair. Bydd y Prosiect Estynedig a'r traethawd hir yn cael ei asesu gan brosiectau 8,000 gair. Aseswyd y modiwl Shakespeare drwy 4000 o waith cwrs ac aseswyd Ysgrifennu Ol-Ryfel a'r Nofel Gyfoes drwy arholiad 2 awr a 2000 gair o waith cwrs.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BA (Anrh) Ysgrifennu Creadigol a Saesneg
Côd UCAS: WQ83
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG lefel A neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 eu hystyried hefyd. Byddai o fantais, ond nid yw'n angenrheidiol pe baech wedi astudio Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewiswch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
Unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich cais cewch eich gwahodd i gwrdd â thîm y cwrs a thrafod astudio Saesneg ym Mhrifysgol Glyndwr. Gallwch hefyd ddewis fynychu un o Ddyddiau Agored y Brifysgol.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Myfyrwyr Rhyngwadol - BA (Anrh) Ysgrifennu Creadigol a Saesneg
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewis eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
Gwaith cwrs yw'r math pwysicaf o asesiad yn y disgyblaethau Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Bydd aseiniadau Saesneg yn ddadansoddol ac ar gyfer Ysgrifennu Creadigol ansawdd y cynnyrch ysgrifenedig gorffenedig sy'n cyfrif - yn nhermau creadigrwydd, gwreiddioldeb, a hyfedredd yn nefnydd yr iaith. Yn ogystal, bydd disgwyl i chi ddangos tystiolaeth o brosesau creadigol a thechnegol, gwybodaeth o ystyriaethau darllenydd neu gleient yn ychwanegol i fyfyrdod hunan-feirniadol ar adegau amrywiol o'r broses ysgrifennu. Bydd y rhan fwyaf o asesiad yn cymryd ffurf portffolios o gynnyrch ysgrifenedig gorffenedig ynghyd ag adroddiadau beirniadol o'r ymarferion a phrosesau yn arwain at y cyflwyniad terfynol o'r gwaith ysgrifenedig.
Mae'r dulliau addysgu wedi eu dylunio i ffocysu eich sylw ar eich datblygiad creadigol a thechnegol fel ysgrifenwyr, i ddatblygu sgiliau a hyder mewn myfyrdod beirniadol fel sail ar gyfer gwella drafftiau, a lled o arbenigedd fel cynhyrchydd yn ogystal â beirniad llenyddiaeth a thestun yn gyffredinol.
O fewn y modiwlau sy'n canolbwyntio ar destun, y bwriad yw datblygu'ch gwybodaeth, gallu dadansoddol, sgiliau ymchwil, a hyder yn eich ysgrifennu eich hun. Mae'r ddarlith yn darparu'r wybodaeth pwnc, y dulliau beirniadol tuag at ddehongli testunau llenyddol a'r arweiniad ar gyfer trafodaeth a datblygiad gwahanol arddulliau ysgrifennu. Mae cynnwys y darlithoedd a seminarau'n cael eu pennu gan lefel y modiwl, gyda modiwlau lefel 4 yn rhagarweiniol ar y cyfan tra bydd modiwlau lefel 5 a 6 yn canolbwyntio ar astudiaethau mwy trylwyr o awduron a chyfnodau llenyddol. Mae'r modiwl lefel 4 Sgiliau Personol, Proffesiynol ac Academaidd yn eich cyfarparu gydag amryw o sgiliau a dulliau i'ch galluogi i ddod yn ddysgwyr effeithiol ac sy'n eich paratoi ar gyfer eich astudiaethau pwnc.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae Ysgrifennu Creadigol a Saesneg yn ymgorffori ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy iawn ac mae ennill gradd mewn Ysgrifennu Creadigol a Saesneg yn dangos lefel uchel o gymhwysedd mewn graddedigion. Gall myfyrwyr ddewis estyn eu sgiliau ym mhellach drwy ymgymryd ag astudiaeth bellach ar lefel Meistr neu gwrs galwedigaethol megis dysgu neu reoli gwybodaeth.
Mae graddedigion Ysgrifennu Creadigol a Saesneg yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol, yn dysgu ar amryw o lefelau, yn ysgrifennu neu wneud gwaith golygyddol, gweithio mewn cyhoeddi, marchnata, hysbysebu neu unrhyw broffesiwn sydd angen sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, rheoli symiau enfawr o wybodaeth gymhleth a chyflwyno gwybodaeth i anghenion penodol.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.