Wedi'i seilio ar gyfuniad o astudiaethau academaid a phrofiad gwaith, mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ychwanegu at eich gwybodaeth, eic sgiliau a’ch profiad o weithio mewn lleoliadau addysgol.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Mae Blwyddyn 1 yn cynnig i fyfyrwyr gyflwyniad eang i rai o'r prif ddisgyblaethau sy'n sail i astudiaethau addysg a phlentyndod. Yr athroniaeth allweddol yw bod rhaid i ymarferwyr ddeall camau datblygu ac anghenion plant a phobl ifanc er mwyn i blant ddysgu.
Modiwlau:
- Datblygiad Plant a Phobl Ifanc
- Datblygu Llythrennedd a Rhifedd
- Diogelu Plant a Phobl Ifanc
- Chwarae
- Adeiladweithiau Plentyndod ac Addysg Plentyndod
- Datblygiad Academaidd ac Ymarfer Adfyfyriol
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Mae Blwyddyn 2 yn adeiladu ar y modiwlau a astudiwyd yn lefel 4, gan ystyried gwahanol bynciau o'r cwricwlwm cenedlaethol, yn ogystal ag archwilio'n fwy trylwyr rai o'r ffactorau cymdeithasol ac emosiynol sy'n effeithio ar ddysgu plant a phobl ifanc.
Modules:
- Cynhwysiad ac Amrywiaeth
- Sgiliau ar gyfer y Gweithle
- Iechyd a Lles Plant a'r Glasoed
- Cwricwlwm (3-7 mlwydd oed)
- Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddwl Creadigol
- Dulliau Ymchwil
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Mae blwyddyn 3 yn adeiladu ar ddysgu blaenorol, ac mae'n gofyn am astudiaeth fwy annibynnol ac yn cynnwys myfyrwyr yn dewis eu pwnc plentyndod/addysg eu hunain i gynnal prosiect ymchwil ar raddfa fach arno mewn lleoliad plant/addysg.
Modiwlau:
- Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol
- Technegau Dysg ac Addysgu
- Cwricwlwm (7-14 mlwydd oed)
- Anghenion Addysgol Arbennig
- Erthygl Ymchwil
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BA (Anrh) Astudiaethau Addysg a Phlentyndod
Cod UCAS: X310
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol (gradd c / 4 neu uwch).
Ar ben yr uchod, mae gofyn bod gan ymgeiswyr i'r cwrs hwn:
- Saesneg TGAU (Gradd C ac uwch), Mathemateg TGAU neu Wyddoniaeth (Gradd C neu uwch)
- Profiad o weithio gyda phlant/teuluoedd yn y DU
Cyn y cynigir lle i chi ar y cwrs hwn bydd gofyn ichi gwblhau cliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (CRB gynt) a thalu'r ffi briodolm fel y gellir gwirio'ch addasrwydd i weithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Os byddwch chi astudio mewn gwlad arall yn Ewrop, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Defnyddir ystod o ddulliau asesu sy'n cynnwys: traethodau; adroddiadau; astudiaethau achos; arsylwadau; micro-addysgu; dylunio a gwneud gweithgareddau; portffolios; cynlluniau gwers a gwerthusiadau; cyflwyniadau; cynnig ymchwil; erthygl mewn cyfnodolyn; posteri cynhadledd.
Mae'r strategaethau asesu amrywiol hyn yn helpu unigolion i ddatblygu'r ystod o sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i weithio mewn lleoliadau addysg a'r plentyn.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflenwi gan staff cefnogol, profiadol a chymwys sy'n dod o ystod o gefndiroedd ym maes addysg, plant a'r gymuned.
Mae tîm y rhaglen yn chwilio'n gyson am ffyrdd i gynnig cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr, gan gysylltu arbenigedd a diddordebau'r staff. Er enghraifft, mae gweithdai / digwyddiadau hyfforddiant ychwanegol wedi cael eu cynnwys: cefnogi plant â cholled a galar; amddiffyn plant; dysgu awyr agored; paratoi am yrfa (gan gynnwys cyngor ar gyfer mynediad i TAR). Mae'r staff yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil, cyhoeddi a gwaith arholi allanol mewn prifysgolion eraill.
Mae gan y rhaglen system diwtorial effeithiol, gan gynnwys tiwtor personol a enwir ar gyfer myfyrwyr ym mhob blwyddyn astudi.
- Blwyddyn 1 (Lefel 4) (12 o oriau cyswllt modiwl yr wythnos; tiwtorial o 1 awr yr wythnos; 12 awr yr wythnos o astudio preifat ar gyfarteledd)
- Blwyddyn 2 (Lefel 5) (hyd at 12 o oriau cyswllt modiwl yr wythnos; tiwtorial o 1 awr yr wythnos; 12 awr yr wythnos o astudio preifat ar gyfarteledd)
- Blwyddyn 3 (Lefel 6) (up to 9 o oriau cyswllt modiwl yr wythnos; tiwtorial o 1 awr yr wythnos; 15 awr yr wythnos o astudio preifat ar gyfarteledd)
Mae lleoliad yn rhan o'r rhaglen ar bob lefel o astudio: Blwyddyn 1 (20 diwrnod); Blwyddyn 2 (25 diwrnod); Blwyddyn 3 (20 diwrnod). Disgwylir ichi adlewyrchu oriau gwaith y staff yn y lleoliad y byddwch yn ei fynychu.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae yna nifer gynyddol o yrfaoedd mewn lleoliadau addysg a chymuned, a chyfleoedd ar gyfer astudiaeth bellach, gan gynnwys:
- Tystysgrif Ôl-raddedig Cynradd mewn Addysg (TAR)
- Darlithydd Addysg Uwch/Bellach (PcET)
- Rhaglenni Meistr
- Cynorthwy-ydd Addysgu
- Addysg Arbennig
- Gweithiwr Ieuenctid Addysgol
- Athro-Saesneg fel Iaith Dramor
- Gweithiwr Cymorth Bugeiliol / Ymddygiadol
- Ymarferydd Hybu Iechyd
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.