-
PRIF NODWEDDION Y CWRS
-
- Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio.
- Rhaglen radd sydd â chymeradwyaeth broffesiynol, a chynnwys cwrs sydd wedi'i alinio â Safonau Galwedigaethol a Phroffesiynol Cenedlaethol yn y sector.
- Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol Parhaus trwy gyfleoedd hyfforddi ychwanegol a rhwydweithio proffesiynol ar gwrs sydd â chysylltiadau cryf â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant lleol.
- Dysgu a chael profiad gyda 800 awr o ymarfer gwaith maes dan oruchwyliaeth, gyda lleoliad bob blwyddyn astudio. Gall hyn fod mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, datblygiad cymunedol, a gwaith chwarae naill ai yn y DU neu’n rhyngwladol.
- Dechrau’r flwyddyn academaidd gyda phrofiad dysgu oddi ar y campws gyda phrosiect partner i weld sgiliau gwaith ieuenctid ar waith.
- Datblygu sgiliau mewn gwaith tîm, cyfathrebu cadarnhaol, gweithio gyda grwpiau ac unigolion, arfer adyfyriol ac arwain eraill
- Datblygu gwybodaeth a sgiliau craidd ar gyfer ymarfer gwaith ieuenctid ac addysg anffurfiol y gellir eu trosglwyddo i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn ystod o wahanol leoliadau.
- 1af yng Nghymru ar gyfer cymuned dysgu yn Arolwg Ceneldaethol o Fyfyrwyr 2019 (Dadansoddiad PGW o'r arolwg).
-
BETH FYDDWCH YN EI ASTUDIO?
-
Mae hwn yn gwrs ar gyfer pobl sy'n dymuno gweithio o fewn addysg anffurfiol, gan archwilio theori ieuenctid a cymuned a datblygu eich ymarfer o ran gweithio gyda phobl ifanc trwy gyfranogi, grymuso a phartneriaeth.
Mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau gwaith ieuenctid a chymuned yn rhyngwladol yn Ewrop a thu hwnt; gan gymryd i ystyriaeth effaith globaleiddio a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn polisi ac ymarfer ieuenctid Ewropeaidd a byd-eang.
Blwyddyn 1 (Blwyddyn Sylfaen)
Bydd ein blwyddyn sylfaen Addysg yn cyflwyno myfyrwyr i ddamcaniaethau Datblygiad Plant a sut y gallant gael eu defnyddio a'u dangos mewn ymarfer. Caiff myfyrwyr drosolwg o'r cysyniad o iechyd a lles yn y blynyddoedd cynnar a phwysigrwydd darparu amgylchedd iach a diogel ar gyfer plant. Byddwch yn datblygu sylfaen ddamcaniaethol a phrofiadol o'r sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Modiwlau
- Y Sgiliau sydd arnoch eu hangen - Nod y modiwl hwn yw sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol allweddol sydd eu hangen i astudio’n llwyddiannus mewn Addysg Uwch. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol, deallusol a chyfathrebu angenrheidiol er mwyn caniatáu i chi ddatblygu trwy’r Radd Anrhydedd ac i baratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth ac astudio pellach.
- Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn Ymarferol 1 - Nod y modiwl yw rhoi trosolwg i fyfyrwyr gwaith ieuenctid a chymuned o arfer a theori gwaith ieuenctid. Mae’n gyfle i fyfyrwyr gymhwyso dysgu o’r dosbarth i amgylchedd ymarfer; gan ganolbwyntio ar theori gwaith ieuenctid ac arfer myfyriol, gan sicrhau eu bod yn gweithio tuag at ddiogelu eu hunain ac eraill. Mae i’r modiwl hwn 50 awr o weithgarwch lleoliadau.
- Datblygiad Pobl Ifanc - Mae’r modiwl hwn yn ystyried cysyniadau glaslecyndod a datblygiad corfforol, emosiynol a seicolegol; yn dadansoddi sut mae hyn yn effeithio ar fywydau pobl ifanc, a rôl y gweithiwr ieuenctid a chymuned o ran cefnogi pobl ifanc pan fyddant yn troi’n oedolion.
- Astudiaethau Cyd-destunol - Nod y modiwl hwn yw cyflwyno ystod eang o faterion cyfoes i fyfyrwyr er mwyn ysgogi trafod a dadlau. Bydd yn galluogi myfyrwyr i gysylltu maes eu diddordeb i’r materion sy’n cael eu cyflwyno.
- Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn Ymarferol 2 - Gan adeiladu ar ddysgu o Ymarfer Gwaith Ieuenctid a Chymuned 2, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth uwch a sgiliau i ymarfer gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth am bwysigrwydd sgwrsio a thrafodaethau’n ymwneud â meithrin cydberthnasau proffesiynol, y gallu i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau gwaith grŵp, a chydnabod y ffactorau sy’n achosi ymddygiad heriol. Mae’r modiwl hon yn cynnwys 50 awr o weithgarwch mewn lleoliadau.
- Ymarfer Gwrth-wahaniaethol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned - Mae’r modiwl hwn yn helpu’r myfyriwr i fyfyrio ynghylch ei werthoedd ei hun mewn perthynas ag arfer gwrth-wahaniaethol mewn gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd yn ymdrin â sut mae rhagfarn a gwahaniaethu’n effeithio ar gyflwyno gwaith ieuenctid a chymuned a’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn y gymdeithas.
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn astudio gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid a chymuned, sgiliau creadigol a gwaith grŵp, ac yn datblygu gwybodaeth a gweithio amlddisgyblaethol.
Modiwlau
- Lleoliad 1 - Paratoi ar gyfer Arfer Proffesiynol, mae'r lleoliad gwaith maes cyntaf yn helpu myfyrwyr i sefydlu sylfeini sylfaenol ymarfer gwaith ieuenctid a chymuned da ac ymgorffori sgiliau meddwl adfyfyriol.
- Gwerthoedd ac Egwyddorion Gwaith Ieuenctid a Chymuned - Astudio egwyddorion craidd gwaith ieuenctid a chymuned. Deall y gwerthoedd sy’n ofynnol ar gyfer addysg anffurfiol, yn enwedig gan gydnabod a deall ymarfer gwrth-ormesol, yn enwedig. Bydd myfyrwyr yn dechrau archwilio a datblygu eu hunaniaeth broffesiynol.
- Gweithio'n greadigol gyda Grwpiau - Modiwl cyffrous sy'n dod â theori gwaith grŵp ac ymarfer creadigol ynghyd.
- Cydweithio i Ddiogelu Eraill - Archwilio rôl y gweithiwr ieuenctid a chymuned o ran diogelu pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed, a sut i weithio'n effeithiol mewn lleoliadau amlasiantaethol.
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar y dysgu hwn, gan archwilio gwleidyddiaeth a pholisi cymdeithasol, dadansoddi addysg anffurfiol, a datblygu sgiliau mewn ymchwil gymdeithasol, gwaith ieuenctid rhyngwladol, arweinyddiaeth, a goruchwylio eraill.
Modiwlau
- Lleoliad 2 – Integreiddio Ymarfer Proffesiynol - Mae'r ail leoliad gwaith maes yn lleoliad bloc, sy'n galluogi myfyrwyr i gael eu mewnblannu ym maes gwaith ieuenctid a chymuned a datblygu eu sgiliau mewn ymarfer. Gall hyn fod yn lleoliad yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd.
- Safbwyntiau Gwleidyddiaeth a Chymdeithasegol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned - Dynodi a dadansoddi’r modd y gall agendâu gwleidyddol a pholisïau cymdeithasol lunio cyd-destun ymarfer, ac adnabod gwahanol safbwyntiau gwleidyddol ynghylch polisi cymdeithasol a lles.
- Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol - Cyfle i archwilio manteision gwaith ieuenctid rhyngwladol a dysgu rhyngddiwylliannol i bobl ifanc. Nodi gwahanol ymarferion gwaith ieuenctid ledled y byd, a rôl y gweithiwr ieuenctid a chymuned o ran deall eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain a helpu eraill i ddeall eu hunaniaeth nhw.
- Dulliau Ymchwil - Adnabod yr hyn a olygir gan ymchwil gymdeithasol, a sut y gellir ei chymhwyso i ymchwilio i faes ymarfer neu fater cymdeithasol mewn gwaith ieuenctid a chymuned.
Blwyddyn 4: (Lefel 6)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, ac yn datblygu gwerthoedd sy'n dangos eich gallu i ddod yn ymarferydd proffesiynol.
Modiwlau
- Lleoliad 3 – Arwain mewn Ymarfer Proffesiynol – cyfle i fyfyrwyr roi eu sgiliau arwain a goruchwylio ar waith mewn lleoliad gwaith ieuenctid a chymuned.
- Prosiect Ymchwil - Â chefnogaeth goruchwyliwr prosiect ymchwil, bydd myfyrwyr yn cynnal darn o ymchwil unigryw i faes sy'n gysylltiedig â gwaith ieuenctid a chymuned a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar ymarfer a pholisi.
- Rheoli mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid a Chymuned Cyfoes - Nodi a gwerthuso'n feirniadol modelau o arweinyddiaeth mewn cyd-destunau gwaith ieuenctid a chymuned, gan ddadansoddi'r sgiliau sydd eu hangen i arwain mewn ymarfer cyfoes a gofynion gweithio mewn amgylcheddau ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- Goruchwyliaeth Broffesiynol - Bydd myfyrwyr yn deall pwysigrwydd goruchwyliaeth broffesiynol mewn cefnogi a datblygu staff a gwirfoddolwyr ac yn datblygu sgiliau i weithredu hyn mewn ymarfer.
- Dadansoddiad Beirniadol o Addysg mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned – Wedi'i osod o fewn cyd-destun polisi gwaith ieuenctid cyfredol mae'r modiwl hwn yn archwilio'n drylwyr egwyddorion a gwerthoedd craidd addysg anffurfiol gan ddadansoddi'n feirniadol cysyniadau deialog, cyfranogiad, grymuso, partneriaeth ac ymarfer gwrth-ormesol. Bydd myfyrwyr yn cwblhau'r modiwl hwn ar ôl datblygu eu hunaniaeth broffesiynol fel addysgwr anffurfiol.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
GOFYNION MYNEDIAD A GWNEUD CAIS
-
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Cod UCAS: 4KWS
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.
Bydd pob ymgeisydd a ystyrir yn addas yn cael cyfweliad, a bydd y rheiny gydag anableddau neu o gyrsiau mynediad perthnasol neu gyrsiau gwaith ieuenctid Lefel 3 yn cael cyn cynnig cyfweliad yn awtomatig.
Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y graddau hyn, gofynnir i chi gwblhau ffurflen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio eich bod yn addas i weithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed.
Os ydych wedi astudio mewn gwlad arall yn Ewrop, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
-
Asesu
-
Mae’r dulliau asesu yn cynnwys tasgau wrth ymarfer, adroddiadau, traethodau a chyflwyniadau. Bydd angen i chi gyflwyno traethawd estynedig fel rhan o’ch asesiad terfynol.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan ddefnyddio ystod o ddulliau cynhwysol a rhyngweithiol sy'n modelu gwerthoedd ac egwyddorion y sector, mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar-lein a wyneb-yn-wyneb, darlithoedd, gwaith mewn grwpiau bach, tiwtorialau unigol a sesiynau goruchwylio, dysgu cyfunol a dysgu ar-lein, astudiaeth annibynnol dan gyfarwyddyd, a gweithgareddau seiliedig ar waith yn y lleoliad.
Drwy gydol y rhaglen radd lawn byddwch yn cymryd rhan mewn 3,600 awr o ddysgu (1200 y flwyddyn academaidd i fyfyriwr llawn amser), bydd hyn fel arfer yn cynnwys cyfanswm o 800 awr mewn lleoliad dros dair blynedd, a bydd yr oriau sy'n weddill yn cael eu dosbarthu rhwng gweithgareddau dysgu ar yr amserlen ac astudiaeth bersonol dan arweiniad.
Fel arfer, bydd sesiynau a addysgir yn cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod yr wythnos ymhob trimester, gyda'r dyddiau eraill yn cael eu neilltuo ar gyfer gwaith lleoliadau a/neu astudiaeth bersonol. Bydd cyfle am leoliad bloc ar Lefel 5. Mae'r dulliau asesu a ddefnyddir ar draws y modiwlau yn cynnwys: traethodau, tasgau ysgrifennu adfyfyriol, cyflwyniadau unigol a grŵp, portffolios seiliedig ar ymarfer, adroddiadau prosiect, ac adroddiadau ymchwil.
-
RHAGOLYGON GYRFAOL
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i ganfod beth yw'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae llawer o raddedigion y cwrs yn mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd gydag awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a chymunedol a darparwyr addysg ledled Cymru a Lloegr ac yn rhyngwladol.
Mae ein graddedigion wedi cael eu cyflogi yn y Cyngor Prydeinig, lleoliadau gwaith ieuenctid a chymuned traddodiadol, gwaith chwarae, gwaith gyda gofalwyr ifanc, gwaith gyda troseddwyr ifanc, lleoliadau tai lle ceir cymorth a gwaith alcohol a chyffuriau i enwi ond ychydig.
Bydd eich cyflogadwyedd yn cael ei hybu gan y profiadau, y cysylltiadau a’r cyfleoedd a ddarperir trwy ymgymryd â thri lleoliad gwaith maes mewn nifer o asiantaethau cyflogi.
-
FFIOEDD A CHYLLID
-
Nid oes rhaid i chi dalu'ch ffioedd addysgu ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd addysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hynny.
-
Manyleb y Rhaglen
-
Gallwch weld manyleb lawn y rhaglen yma.
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.