GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Edrychwch ar ein cyrsiau bywiog ar gyfer mynediad mis Medi 2020.

WGU Logo
WGU ten years

BSc (Anrh) Technoleg Sain (gyda blwyddyn sylfaen)

Technoleg Sain (gyda blwyddyn sylfaen)

Côd UCAS: PW33

BL Mynediad: 2020

Tariff UCAS: 48

Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)

Cod y Sefydliad: G53

Lleoliad: Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs ymarferol hwn yn eich hyfforddi mewn sain byw sy'n gallu arwain at yrfa gyffrous mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys y theatr, gwyliau cerddoriaeth a radio. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr nad ydynt o reidrwydd yn gerddorion neu berfformwyr ac y mae'n well ganddynt yr heriau o ddefnyddio technoleg i alluogi perfformiad.

Mae’r cwrs hwn wedi’i seilio ar eddrych ar dechnolegau cyfredol a datblygol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu sain, a sut y gellir defnyddio'r rhain i greu cerddoriaeth a sain ar gyfer sawl defnydd.  Er mwyn cyflawni hyn mae gennym amrediad o stiwdios a mannau perfformio o ansawdd uchel ar y campws sy'n gweithredu fel catalyddion ar gyfer defnyddio technoleg yn greadigol.

Yn ogystal â'r lle yn y stiwdios, mae'r cwrs hefyd yn defnyddio cyfleusterau'r Ganolfan y Diwydiannau Creadigol i'r eithaf.

 

Gallwch hefyd ddewis astudio’r cwrs hwn fel gradd dros dair blynedd (heb flwyddyn sylfaen) BSc (Anrh) Technoleg Sain  Cod UCAS:HWP3

 

 


CWRDD Â'R STAFF


Profi Cyn Gwneud Cais!

Ansicr ynglŷn â chychwyn gradd isradd? Gwyddom mai cam mawr yw astudio llawn amser, felly beth am roi cynnig ar ein cyrsiau byr a dosbarthiadau nos? Maent wedi'u teilwra i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau allweddol rydych eu hangen i symud ymlaen â gyrfa'ch breuddwydion. 

Profi rŵan
Canfyddwch mwy yn ein diwrnod agored nesaf
Cadwch lle nawr
Open Day
Top