BA (Anrh) Dylunio Sain (gyda blwyddyn sylfaen)

mynediad 24/7
i stiwdio recordio
lleoliadau
profiad gwaith ar gael
safle proffesiynol
yng Nghanolfan Diwydiannau Creadigol, cartref BBC Cymru
Côd UCAS: SDFY
BL Mynediad: 2021
Tariff UCAS: 48
Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Mae'r cwrs, sydd â ffocws ar edrych ar dechnolegau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i ddylunio sain cyfoes, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol mewn sain ar gyfer ffilm a theledu, sain gêmau cyfrifiadurol, sain theatr a gosodiadau clywedol / gweledol.
Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ar draws ystod o sgiliau mewn cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ar ôl cynhyrchu.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddefnyddio stiwdio recordio Wal ac ystafelloedd ôl- gynhyrchu sain y Brifysgol Wall, sydd ar gael i fyfyrwyr 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae wedi'i gynllunio i addysgu a datblygu sgiliau ar draws disgyblaethau ac mae'n cynnwys ystod eang o dechnolegau a fydd yn helpu i ddatblygu eich portffolio eich hun.
Yn ogystal â'r stiwdios recordio, mae'r cwrs yn seiliedig ar ddefnydd ymarferol o Ganolfan Diwydiannau Creadigol y Brifysgol aa'i hystod eang o gyfleusterau. Mae'r ganolfan yn gartref i BBC Cymru yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gallwch hefyd ddewis astudio’r cwrs hwn fel gradd dros dair blynedd (heb flwyddyn sylfaen) BA (Anrh) Dylunio Sain cod UCAS: SO19
CWRDD Â'R STAFF
Profi Cyn Gwneud Cais!
Ansicr ynglŷn â chychwyn gradd isradd? Gwyddom mai cam mawr yw astudio llawn amser, felly beth am roi cynnig ar ein cyrsiau byr a dosbarthiadau nos? Maent wedi'u teilwra i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau allweddol rydych eu hangen i symud ymlaen â gyrfa'ch breuddwydion.
Profi rŵanCadwch lle nawr
