BSc (Anrh) Technoleg
Cerddoriaeth (gyda blwyddyn sylfaen)
Côd UCAS: W370
BL Mynediad: 2021
Tariff UCAS: 48
Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae defnydd ymarferol o stiwdio recordio 24/7 y Brifysgol wrth wraidd y cwrs hwn sy’n eich galluogi i gwblhau eich cynhyrchiad proffesiynol eich hun.
Mae'r cwrs technoleg cerddoriaeth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr a allai fod o gefndir perfformio ac sy'n dymuno datblygu eu set sgiliau drwy gaffael lefel uchel o werthfawrogiad technegol fel modd o gynyddu eu potensial gyrfaol a phroffesiynol.
Mae’n ymdrin ag ystod o dechnolegau ac yn cynnwys datblygu eich portffolio eich hun o ddarnau cynhyrchu a chael mynediad i lawer o’r lleoliadau cerdd yn y cyffiniau.
Mae'r cwrs, sydd wedi'i seilio ar ddefnydd ymarferol o stiwdios sain arloesol y Brifysgol ac sy'n defnyddio’r cyfleusterau sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan y Diwydiannau Creadigol, yn edrych ar dechnolegau cyfredol a datblygol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu sain, a sut y gellir defnyddio'r rhain i greu cerddoriaeth a sain ar gyfer sawl defnydd.
*Mae'r cwrs yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yng Nghymru ac yn y pump cyntaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn y Complete University Guide 2021.
*Mae'r cwrs yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yn y DU ar gyfer cefnogaeth academaidd ac yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer boddhad gydag addysgu (dadansoddiad PGW o ddata Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2020 heb ei gyhoeddi).
Mae yna gyfleoedd hefyd i fyfyrwyr gael profiad gwaith mewn sain byw a chynhyrchu digwyddiadau ar raddfa fawr pan ddaw gŵyl gerddoriaeth Focus Cymru, y mae'r brifysgol yn bartner iddi, i Wrecsam bob gwanwyn. Mae'r digwyddiad yn ŵyl aml-leoliad sy'n gosod chwyddwydr y diwydiant cerddoriaeth yn gadarn ar y doniau sy'n dod i'r amlwg sydd gan Gymru i'w cynnig i'r byd ac yn denu mwy na 200 o fandiau ar draws 20 o lwyfannau.
Gallwch hefyd ddewis astudio'r cwrs hwn fel gradd safonol dros dair blynedd heb flwyddyn sylfaen BSc (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth Cod UCAS:J931
CWRDD Â'R STAFF
Profi Cyn Gwneud Cais!
Ansicr ynglŷn â chychwyn gradd isradd? Gwyddom mai cam mawr yw astudio llawn amser, felly beth am roi cynnig ar ein cyrsiau byr a dosbarthiadau nos? Maent wedi'u teilwra i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau allweddol rydych eu hangen i symud ymlaen â gyrfa'ch breuddwydion.
Profi rŵanCadwch lle nawr
