BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol
a Diwylliannol gyda
Blwyddyn Sylfaen

lleoliadau
gwaith ar gael
yn 10 cyntaf
y DU am foddhad myfyrwyr*
1af yng Ngymru
am foddhad myfyrwyr*
Côd UCAS: SHFY
BL Mynediad: 2021
Tariff UCAS: 48
Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Bydd astudio Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cyflwyno themâu fel teulu, ffasiwn, trosedd, celf, gwleidyddiaeth a phropaganda i chi – o gyfnod y Rhufeiniaid i’r oes fodern.
*Mae ein maes pwnc hanes wedi ei raddio'n gyntaf yng Nghymru ac yn y 10 cyntaf yn y DU am foddhad myfyrwyr, Complete University Guide 2021.
*Mae ein maes pwnc hanes wedi ei raddio'n gyntaf yn y DU am foddhad cyffredinol, Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020.
Ochr yn ochr ag addysgu rheolaidd yn y dosbarth, mae ymweliadau hefyd â thai gwledig, archifau hanesyddol a safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol. Mae’r rhain yn cynnig elfen ymarferol gref yn ymwneud â’r radd ac maent yn annog cysylltiad ag ystod eang o ffynonellau a phrofiadau. Rydym hefyd yn cynnig modiwl lleoliad gwaith mewn lleoliad hanesyddol o’ch dewis.
Mae ein gradd wedi’i chynllunio i fod yn amrywiol ac yn bleserus, gyda ffocws ar elfennau ymchwiliol a dadansoddol astudio hanesyddol. Mae’r ffocws hwn yn arwain at ystod eang o yrfaoedd. Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio fel athrawon, awduron, dadansoddwyr ariannol, ac aelodau’r proffesiwn cyfreithiol.
Bydd y Flwyddyn Sylfaen mewn Dyniaethau yn cyflwyno myfyrwyr i ystod amrywiol o themau a gweithgareddau o'r disgybliaethau Hanes, Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Theatr a Chyfryngau.
I've checked the spreadsheet and there are two days that I took in February, 19 and 20, missing from the spreadsheet.