GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais - Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer mynediad mis Medi 2019.

WGU Logo
WGU ten years

BSc (Anrh) Gwyddor Anifeiliaid gyda Blwyddyn Sylfaen

Gwyddor Anifeiliaid gyda Blwyddyn Sylfaen

lleoliad gwledig

Astudiwch ar ein campws gwledig yn Llaneurgain


mynediad

at fferm bridiau prid, uned anifeiliaid, cyfleustra ceffylau a choetir


Diwydiant

cysylltiadau, ymweliadau a chyfleoedd


Côd UCAS: ASFY

BL Mynediad: 2019 2020

Tariff UCAS: 48

Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)

Cod y Sefydliad: G53

Lleoliad: Wrecsam

Mae'r rhaglen BSc (Anrh) Gwyddor Anifeiliaid gyda blwyddyn sylfaen yn gwrs eang ei gwmpas sydd wedi ei ddylunio i'ch arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i nifer o alwedigaethau amrywiol o fewn y sector anifeiliaid.

 

Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth yn themâu craidd ymddygiad, lles a chadwraeth anifeiliaid. Yn lefel 6 bydd myfyrwyr yn dylunio a gweithredu eu prosiect ymchwil eu hunain, sy'n eu galluogi i arbenigo mewn maes o'u dewis, Mae datblygiad personol a phroffesiynol yn rhan anhepgor o'r cwrs er mwyn cynyddu cyflogadwyedd myfyrwyr yn y diwydiant ac i'ch galluogi i ganolbwyntio ar y llwybr gyrfaol o'ch dewis.

 

Mae'r cwrs hwn ar ein campws gwledig yn Llaneurgain, sydd yng nghefn gwlad drawiadol Gogledd Cymru, â mynediad i fferm fridiau prin, uned geffylau a choetiroedd. Mae ymweliadau oddi ar y campws i elusennau anifeiliaid, canolfannau bywyd gwyllt a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig â'r diwydiant yn rhan o'r cwrs. **Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei ddysgu yn ein campws Wrecsam, gydag astudiaethau Lefel 4 (blwyddyn 2) yn symud i'n campws Llaneurgain.

 

367 x 83


CWRDD Â'R STAFF


Profi Cyn Gwneud Cais!

Ansicr ynglŷn â chychwyn gradd isradd? Gwyddom mai cam mawr yw astudio llawn amser, felly beth am roi cynnig ar ein cyrsiau byr a dosbarthiadau nos? Maent wedi'u teilwra i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau allweddol rydych eu hangen i symud ymlaen â gyrfa'ch breuddwydion. 

Profi rŵan
Top