Blwyddyn 1 (Blwyddyn Sylfaen)
Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i ystod o gysyniadau a dulliau gwyddonol sy'n sail i'r gwyddorau biolegol. Fe gewch hyfforddiant trylwyr mewn sgiliau labordy a bydd yn datblygu eich sgiliau dadansoddol a mathemategol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd eu hunain mewn gwyddoniaeth, gyda chronfa sylfaenol o wybodaeth sy'n rhychwantu'r prif feysydd gwyddonol.
Modiwlau
- Cyflwyniad i'r biowyddorau - Cyflwyniad i'r cysyniadau a'r dulliau gwyddonol sy'n sail i'r gwyddorau biolegol, gan gynnwys bioleg organeb gyfan a bioleg y gell. Mae'r pynciau yn cynnwys: strwythur celloedd a'r biocemegion sy'n cael eu defnyddio yn y prosesau sy'n cael eu cyflawni yn y celloedd; DNA, proteinau a phrosesau resbiradaeth a ffotosynthesis. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i anatomeg mewn planhigion ac anifeiliaid ac maen nhw hefyd yn astudio geneteg.
- Sgiliau Labordy a Maes mewn Bioleg (Biowyddorau) - Byddwch yn cael hyfforddiant trylwyr mewn sgiliau labordy sy'n cynnwys ymdriniaeth o'r dull arbrofol, iechyd a diogelwch, ysgrifennu asesiadau risg, defnyddio offer labordy gan gynnwys microsgopau. Mae myfyrwyr hefyd yn archwilio cysyniadau ecoleg a gwaith maes, gan gynnwys adnabod planhigion ac anifeiliaid yn y gwyllt, gan ddefnyddio technegau ar gyfer arolygu cynefinoedd a datblygu sgiliau maes personol.
- Cyflwyniad i Ddylunio Arbrofol a Dadansoddi Mathemategol (Biowyddorau) - Sgiliau gwyddonol a mathemategol hanfodol, gan gynnwys ystyried moeseg mewn gwyddoniaeth a'r athroniaeth sy'n sail i'r dull arbrofol. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu a defnyddio sgiliau drwy ddadansoddi a thrafod ac i ddatblygu gwybodaeth a phrofiad o ddylunio arbrofol, casglu data, dadansoddi, tebygolrwydd ac ystadegau rhagarweiniol.
- Cyflwyniad i Wyddoniaeth - Bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth gefndirol sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr yn eu hastudiaethau gradd lawn yn y meysydd perthnasol. Bydd yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd eu hunain mewn gwyddoniaeth, yn cyflwyno cronfa sylfaenol o wybodaeth yn y prif feysydd gwyddonol, yn datblygu sgiliau a gallu i ddefnyddio cysyniadau gwyddonol i ddatrys problemau a galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn dylanwadu ar ac yn cael eu dylanwadu gan y gymdeithas gyfoes.
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch - Datblygu sail addas mewn sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol sydd angen ar gyfer astudiaeth llwyddiannus ar lefel assysg uwch a symud ymlaen trwy'r rhaglenni anrhydedd ac yna cyflogaeth a/neu astudiaeth pellach.
- Astudiaethau Cyd-destunol - Nod y modiwl hwn yw'ch cyflwyno i amrywiaeth o faterion cyfoes. Bydd yn eich galluogi i gysylltu'ch maes diddordeb gyda'r materion cyflwynwyd a symbylu trafodaeth iach ac ymarfer myfyriol ymysg eich grwpiau pwnc.
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Yn ystod yr ail flwyddyn gyntaf bydd myfyrwyr yn cyfuno damcaniaeth ac ymarfer. Byddant yn edrych ar ymddygiad ceffylau a sut y mae ceffylau'n dysgu. Byddant yn cwestiynau moeseg ein diwydiant a chael y sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith, a gofynnir iddynt hyd yn oed ar ddechrau eu taith academaidd i ganolbwyntio ar eu llwybr gyrfaol.
Modiwlau
- Cysyniadau Biolegol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o brif egwyddorion bioleg anifeiliaid, pathogenau biolegol, sgiliau labordy a strwythur a swyddogaeth anatomegol. Ymdrinnir â tharddiad a dosbarthiad bywyd ynghyd a strwythur a swyddogaeth meinweoedd a chelloedd. Cyflwynir hefyd a phrif organau a systemau cyrff anifeiliaid.
- Rheoli Stablau (1): Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod dysgwyr yn gweithio'n ddiogel ac yn fedrus gyda cheffylau. ae'n ymdrin â gofal a bwydo arferol ceffylau ynghyd â dewis a ffitio offer a harneisiau. Bydd paratoi ceffylau i deithio a chystadlu hefyd yn cael eu cynnwys.
- Ymarfer Proffesiynol:Astudir ystod o gyfleoedd gyrfaol a heriau sy'n gysylltiedig â chael gwaith yn y sector ceffylau yn y modiwl hwn. Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a cymwyseddau mewn lleoliad gwaith o'u dewis.
- Datblygiad Academaidd a Phersonol: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod dysgwyr yn gyfarwydd â diwylliant Addysg Uwch, adeiladu ar y sgiliau allweddol (rhesymegol, mathemategol a beirniadol) angenrheidiol i astudio'n llwyddiannus mewn Addysg Uwch.
- Moeseg a Lles: Nod y modiwl hwn yw archwilio materion cyfoes ym maes lles ceffylau ac anifeililaid ac i gyflwyno myfyrwyr i ystod o faterion moesegol perthnasol. Beirniedir gwahanol faterion cyfoes ym maes ceffylau yn ystod y modiwl. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i gyflwyno eu gweithdai a'u seminarau eu hunain.
- Ymddygiad a Gwybyddiaeth Ceffylau: Bydd myfyrwyr yn archwilio'r cysylltiad rhwng amgylchedd a phatrymau ymddygiad ceffylau, a chysylltu gwybyddiaeth ceffylau i arferion rheoli. Astudir esblygiad, datblygiad ymddygiadol, a dofi ceffylau ac effeithiau arferion trin ceffylau modern ar geffylau. Bydd dealltwriaeth o ddamcaniaethau dysgu hefyd ynn rhan sylweddol o gyflenwi'r modiwl.
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Mae'r drydedd flwyddyn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr adeiladu ar bynciau'r flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn a rhoi dysgu ar waith. Archwilir effeithiau rheoli a hyfforddi ar y ceffyl drwy astudio anatomeg, ffisioleg a ffitrwydd. Edrychir ar deiet ceffylau ac archwilir i sut mae ceffylau'n dysgu. Datblygir sgiliau academaidd y flwyddyn hon drwy gychwyn y broses ymchwil.
Modiwlau
- Anatomeg a Ffisioleg: Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr â gwybodaeth ymarferol am anatomeg dopograffig a ysgerbydol a'u galluogi i adnabod nodau anatomegol. Byddwch yn dysgu i gysylltu adeiledd anatomegol i swyddogaeth a datblygu'ch sgiliau labordy ymarferol ymhellach.
- Dysgu a Hyfforddi: Nod y modiwl hwn yw atgyfnerthu yr egwyddorion damcaniaeth dysgu sy'n cael eu defnyddio gyda cheffylau, i gysylltu dysgu ceffylau i arferion hyfforddi ac i werthuso dulliau hyfforddi ceffylau ac offer traddodiadol a chyfoes. Bydd yr addysgu damcaniaethol ac ymarferol yn ymdrin â phynciau gan gynnwys dysgu a deallusrwydd ceffylau, dulliau o hyfforddi ceffylau, a delio â phroblemau'n gysylltiedig â hyfforddi ceffylau.
- Rheoli Stablau (2): Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar y rheolaeth stablau yr ymdriniwyd ag ef ar lefel pedwar, ac mae'n cynnwys paratoi ceffylau at ddisgyblaethau amrywiol, offer ffario sylfaenol a gofalu am garnau. Mae'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddysgu i arwain ceffyl ar lein cebystr.
- Maeth ac Arfer Bwydo: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddadansoddi'r strwythur, rôl a gwerth i'r corff cydrannau maethlon bwyd ceffylau. Byddwch yn dysgu sut i dadansoddi'n feirniadol cyfansoddiad bwyd ceffylau a rôl gwahanol fwydydd yn neiet y ceffyl. Cewch chi'ch dysgu hefyd sut i gyfrif dognau bwyd i geffyl o wahanol oedrannau ac i lefelau gwahanol o 'waith'.
- Methodolegau ymchwil: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall rôl ymchwil berthnasol o fewn maes astudiaethau ceffylau. Yn ychwanegol at hyn bydd yn eich galluogi i gynllunio prosiect ymchwil yn eich maes astudio, i ddiffinio paramedrau ymchwil, asesu methodolegau priodol, a chyflwyno eich canfyddiadau. Byddwch yn dysgu sut i archwilio ac asesu pa mor briodol y mae gwahanol fethodolegau ymchwil i wahanol briffiau ymchwil a dod yn ymwybodol o faterion moesegol a gwleidyddol mewn ymchwil gymdeithasol.
- Iechyd a Ffitrwydd Ceffylau: Bydd myfyrwyr yn asesu cydffurfiad, iechyd a Iechyd a Ffitrwydd Ceffylau: Bydd myfyrwyr yn asesu cydymffurfiad ceffylau, iechyd a chlefyd yn y modiwl hwn. Bydd dulliau o gael ceffylau'n heini a'u hymateb ffisiolegol i ymarfer corff hefyd yn cael eu cynnwys. Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno trwy ddamcaniaeth ac ymarfer.
Blwyddyn 4 (Lefel 6)
Mae'r flwyddyn olaf yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gwblhau eu darn unigryw o ymchwil eu hunain, sy'n eu galluogi i ganolbwyntio ar bwnc o'u dewis. Canolbwyntir ar iechyd, atgenhedlu a lles ceffylau yn y flwyddyn olaf hon, ynghyd â dulliau o addasu ymddygiad. Mae datblygiad gyrfaol hefyd yn thema ganolog, a disgwylir i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf gwblhau gweithgareddau datblygiad proffesiynol ychwanegol ochr yn ochr ô'u gradd i wella eu cyfleoedd i gael gwaith.
Modiwlau
- Atgenhedlu Ceffylau a Rheoli Anifeiliaid Ifanc: Bydd myfyrwyr yn edrych ar anatomeg a ffisioleg atgenhedlu yn y gaseg a'r march, ac yn archwilio effaith technegau atgenhedlu modern ar lwyddiant atgenhedlu. Ymdrinnir â dulliau o drin a hyfforddi ceffylau ifanc hefyd.
- Sgiliau Ymchwil Cymhwysol a Datblygiad Proffsiynol: Nod y modiwl yw arfogi myfyrwyr â'r sgiliau sydd eu hangen i werthuso cynllun ymchwil yn feirniadol fel y bo'n gymwys i wyddor a rheoli lles ceffylau, i ddethol a chyfiawnhau dulliau priodol i gasglu a dadansoddi data, ac i fyfyrio'n feirniadol ar ddatblygiad personol dros hyd y rhaglen astudio wrth baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn astudio'r broses ymchwil, a'r dadansoddiad ystadegol sy'n berthnasol i'w maes astudio. Byddant hefyd yn defnyddio'r pecyn ystadegol SPSS.
- Prosiect Ymchwil: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwerthuso ymchwil, a bydd yn tywys myfyrwyr wrth iddyn nhw gwblhau astudiaeth ar faes arbenigol sy'n seiliedig ar ymchwil ac yn gysylltiedig â gwyddor a rheoli lles ceffylau
- Addasu Ymddygiad Anifeiliaid: Nod y modiwl yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r angen am ymagwedd systematig at ddeall achoseg problemau ymddygiad a welir mewn ceffylau. Bydd yn ehangu eu dealltwriaeth o sut i ddadansoddi problemau ymddygiad mewn ceffylau a gwerthfawrogi cyfyngiadau technegau diagnostig perthnasol. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i awgrymu datrysiadau priodol i broblemau ymddygiad.
- Straen a Lles Anifeiliaid: Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i edrych ar sut y gellir rheoli straen mewn ystod amgylcheddau a sefyllfaoedd. Mae hefyd yn ceisio darparu dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r addasiadau ffisiolegol ac ymddygiadol sydd gan geffylau sy'n deillio o'r defnydd a hwsmonaeth fodern.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BSc (Anrh) Gwyddor a Rheoli Lles Ceffylau (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Côd UCAS: 758D
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 o bwyntiau Tariff UCAS ond mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol yn ogystal â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.
Mae'r gofynion mynediad ar gyfer arweiniad cyffredinol. Mae cymwysterau amgen a phrofiad yn cael eu hystyried, Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei deilyngdod unigol.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen hon.
Myfyrwyr Rhyngwladol - BSc (Anrh) Gwyddor a Rheoli Lles Ceffylau (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewiswch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
Mae'r modiwl yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd damcaniaethol, trafodaethau seminar, darlithoedd gwadd, ymweliadau addysgiadol a gwaith ymarferol. Rhyng darlithoedd disgwylir i fyfyrwyr ddarllen am eu pynciau drwy ddefnyddio'r rhestrau darllen manwl a gyhoeddir yng Nghanllawiau'r Modiwlau. Asesir pob modiwl mewn amryw o ffyrdd.
Mae'r dulliau asesu'n cynnwys traethodau academaidd, posteri ymchwil, cyflwyniadau, trafodaethau seminar ac asesiadau ymarferol. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol ddulliau asesu'n cael ei benderfynu gan wahanol nodau a chanlyniadau dysgu'r modiwlau.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Bydd y radd yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys lles ceffylau a gwaith adsefydlu, hyfforddi ceffylau, hyfforddi marchogion neu reoli iard geffylau. Byddwch chi hefyd yn cael eich paratoi i weithio mewn gyrfa sy'n gysylltiedig â'r diwydiant ceffylau, er enghraifft ymchwil a gwaith fel ymgynghorydd neu astudio ôlraddedig. Yn ogystal â gweithio yn y meysydd hyn mae myfyrwyr wedi sefydlu eu busnesau eu hunain.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid myfyrwyr. Byddwch chi hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hynny.
Gallwch chi wedi manyleb gyflawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.