BA (Anrh) Astudiaethau
Addysg
a Phlentyndod (gyda blwyddyn sylfaen)*
lleoliadau
gwaith ar gael pob blwyddyn o'r cwrs
cefnogaeth
gan y system tiwtorial academaidd
arian
yn y Fframwaith Rhagoriaeth Dysgu
Côd UCAS: 7X64
BL Mynediad: 2020
Tariff UCAS: 48
Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)
Cod y Sefydliad: G53
Lleoliad: Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r radd hon yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn bennaf rhwg 3-13 mlwydd oed, mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol. Mae gan y cwrs poblogaidd hwn hanes hir o ddarparu llwybr uchel ei barch, llwyddiannus ac amgen i addysgu cynradd prif ffrwd trwy Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR - Addysg Gynradd) neu gymhwyster ôl-orfodol (PcET - Addysg i Oedolion ac Addysg Bellach heb gyfyngu ar yr opsiynau i fanteisio ar y cyfleoedd gyrfaol eraill sy'n ymwneud â gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Yn seiliedig ar gyfuniad o astudiaeth academaidd a phrofiad gwaith, mae'r rhaglen yn ystyried cydbwysedd o bynciau addysg a chymdeithasol sy'n tynnu ar safbwyntiau damcaniaethol o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys: addysg, cymdeithaseg, seicoleg, athroniaeth, iechyd a lles /cyfiawnder cymdeithasol. Rhoddir sylw i bolisïau, prosesau a safbwyntiau addysgol, sy'n ymwneud â gofynion statudol cwricwlwm y blynyddoedd cynnar a Chyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â ffactorau sy'n effeithio ar les plant a phobl ifanc a'u hagwedd at ddysgu.
Yn seiliedig ar ddull sbiral o drin o cwricwlwm ac asesu, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd yn meddu ar wybodaeth feirnadol am faterion cyfoes sy'n ymwneud ag astudiaethau addysg a phlentyndod; graddedigion sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd proffesiynol sydd eu hangen i arloesi a hyrwyddo polisïau ac arferion o fewn y gweithlu addysg ac astudiaethau plentyndod.
Yn amodol ar ddilysu*
Gallwch hefyd ddewis astudio'r radd hon fel rhaglen dros dair blynedd (heb y flwyddyn sylfaen) BA (Anrh) Astudiaethau Addysg a Phlentyndod Cod UCAS: X310
CWRDD Â'R STAFF
Cadwch lle nawr
