Blwyddyn 1 (Blwyddyn Sylfaen)
Yn y flwyddyn sylfaen byddwch chi'n dysgu arddulliau a dulliau, dangos eich ymwybyddiaeth o faterion cyfoes ac atgyfnerthu eich gallu i weithio gyda meintiau a deunyddiau. Bydd modiwlau eraill yn cyflwyno braslunio a lluniadu, ymwybyddiaeth o'r amgylchedd adeiledig a naturiol a gwaith grŵp ar brosiectau sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig. Bydd disgwyl i chi fynychu darlithoedd ar ddau ddiwrnod yr wythnos ac yna gwneud eich darllen ac ysgrifennu aseiniadau ar ddiwrnodau eraill. Bydd gan y bob un o'r ddau semester hyd at 14 wythnos o addysgu.
Modiwlau
- Cyfathrebu Graffigol
- Rhifau yn yr Amgylchedd Adeiledig
- Cynaliadwyedd yn yr Amgylchedd Adeiledig
- Prosiect Amgylchedd Adeiledig
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
- Astudiaethau Cyd-destunol
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Mae modiwlau'r ail flwyddyn (lefel 4) (e.e Datblygiad Academaidd a Phroffesiynol, Datblygiad Cynaliadwy, Gwerthusio Safleoedd) yn set o flociau adeiladu sy'n cyflwyno myfyrwyr i'r ystod o wybodaeth bynciol a sgiliau kymarferol sydd eu hangen drwy gydol y rhaglen. Mae'r pynciau'n cael eu trin o safbwynt datrys problemau ymarferol (Technoleg Adeiladu 1, Cyfraith Amgylchedd Adeiledig) sy'n cael ei ategu gan ddealltwriaeth ddamcaniaethol o wybodaeth broffesiynol. Nid yw datblygu sgiliau'n gyfyngedig o fewn paramedrau'r modiwal a disgwylir i fyfyrwyr, yn raddol, gyfranogi yn eu dysgu eu hunain.
Modiwlau
- Gwerthuso Safleoedd
- Adeiladu Cartrefi
- Datblygiad Cynaliadwy
- Cyfraith Amgylchedd Adeiledig
- Datblygiad Academaidd a Phersonol
- Adeiladu Gwybodaeth
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Yn y drydedd flwyddyn (lefel 5) mae modiwlau yn cwmpasu pynciau o natur fwy cymhleth ac arbenigol (e.e. Rheoli Datblygu, Rheoli Adeiladu, Cynllunio a Rheoli Adeiladu) sy'n cynnwys gwerthuso sefyllfaoedd ymarferol, opsiynau mwy cymhleth a dadansoddi polisi. Mae'r rhain yn gofyn i fyfyrwyr baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau ac maent yn cael eu hategu gan fodiwlau sgiliau ymchwil a datblygiad proffesiynol sy'n cynorthwyo i gysylltu a helpu cydlyniaeth ar draws y rhaglen.
Modiwlau
- Technoleg Adeiladau Masnachol
- Deunyddiau Adeiladu
- Cynllunio a Rheoli Adeiladu
- Rheoli Datblygu
- Cynnig Ymchwil
- Ynni Adnewyddadwy
- Rheoli Safleoedd Adeiladu
Blwyddyn 4 (Lefel 6)
Mae'r flwyddyn olaf (lefel 6) yn dod â myfyrwyr i amrywiaeth o gyfleoedd heriol sy'n eu galluogi i ddangos eu cyflawniad mewn dadansoddi amrywiol opsiynau ac asesu (e.e. Rheoli Prosiect), meddwl yn greadigol, sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth (e.e. Astudiaethau Rhyngbroffesiynol), dysgu annibynnol, dadansoddi beirniadol a sgiliau synthesis (Traethawd Hir), a gwybodaeth broffesiynol gytras (e.e echnoleg Adeiladu 3, Iechyd a Diogelwch).
Modiwlau
- Dulliau Adeiladu Modern
- Traethawd Hir
- Modelu Gwybodaeth Adeiladu
- Rheoli Iechyd a Diogelwch
- Astudiaethau Rhyngbroffesiynol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BSc (Anrh) Rheoli Adeiladu pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen
Cod UCAS: 18R7
Profiad o'r Diwydiant Adeiladu yw un ffordd i gael mynediad i'r cwrs hwn a chynigir cyfweliad i bob ymgeisydd lle gallant ddatgan eu hachos dros gael myned i'r cwrs.
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 48 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Mae'n bosibl y caiff cymwysterau academaidd hyn na fyddant fel arfer yn cael eu hystyried eu hystyried hefyd.
Os ydych chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Myfyrwyr Rhyngwladol
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewisiwch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
Caiff myfyrwyr y flwyddyn sylfaen eu hasesu mewn nifer o wahanol ddulliau gan gynnwys cyflwyniadau, portffolio o arsylwadau, taflenni gwaith a gwaith ysgrifenedig. Bydd Amgylchedd Dysgu Rhithiol Glyndwr yn cefnogi'ch dysgu a bydd yn grofnfa o ddeunyddiau dysgu.
Mae strategaethau asesu yn tueddu i fod yn seiliedig ar y modiwl, ond gyda themâu integredig lle bynnag y bo'n ymarferol. Trefnir modiwlau sy'n cael eu haddysgu ar y cyd fel bod myfyrwyr yn cael eu hasesu yng nghyd-destun eu rhaglen astudio personol.
Mae deunyddiau asesu (briffiau aseiniadau ac ati) yn cael eu paratoi i gwrdd ag anghenion y Modiwl a'u cyflwyno i fyfyrwyr mewn sesiynau briffio rhyngweithiol. Caiff elfennau a gyflwynwyd a gwaith gorffenedig eu hasesu a darperir adborth i fyfyrwyr.
Trafodir cynnydd unigol a grŵp mewn tiwtorialau a seminarau rheolaidd fel rhan o'r strategaeth o adborth parhaus yn ystod y cwrs.
Mae nodweddion eraill yr asesu yn adlewyrchu datblygiad sgiliau proffesiynol a phwnc yn aml trwy ddefnyddio sefyllfaoedd profiad gwaith efelychedig wedi ei seilio ar senario a arweinir gan brosiectau dylunio sydd angen datrysiadau creadigol ac yn cynnwys adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno neu eu trafod yn unigol gyda'r or discussed individually with the ‘cleientiaid’. Nid yw arholiadau traddodiadol yn ddull asesu.
Mae'r dulliau asesu sy'n cael eu defnyddio'n helaeth ar draws y rhaglen yn cynnwys traethodau, ysgrifennu adroddiadau, cyflwyniadau unigol/grŵp ffurfiol, cyflwyniadau seminar, tasgau senario wedi'u hamseru, tasgau ymarferol a gwaith ymchwil unigol a wneir er mwyn paratoi at adolygu a dadansoddi astudiaethau achos.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r gyrfaoedd y gall graddedigion y rhaglen hon eu cael yn amrywio o Reolwr Safle i Beiriannydd Ansawdd ar y safle. Mae gan y rhan fwyaf o'n graddedigion swydd wrth iddyn nhw adael yn y Drydedd Flwyddyn ac mae llawer o gyflogwyr lleol a chendlaethol yn hysbysebu eu swyddi gwag gyda ni ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2019/20, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.