Blwyddyn 1 (Blwyddyn Sylfaen)
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio fformiwlâu, trin a chynrychioli data. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r prif galedwedd a meddalwedd sy'n gysylltiedig â defnydd sytemau cyfrifiadurol, yn ogystal â chadw i fyny â datblygiadau cyfredol mewn technoleg. Bydd nifer o gyfleoedd i weithio ar weithgareddau ymarferol megis robotiaid, dylunio CAD a fydd yn cael eu datblygu ymhellach ar lefel gradd.
Modiwlau
- Mathemateg Cyfrifiadura
- Caledwedd a Meddalwedd Cyfrifiadurol
- Datblygiadau mewn Technoleg
- Dylunio a Thechnoleg
- Y Sgiliau sydd eu Hangen Arnoch
- Astudiaethau Cyd-destunol
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Mae blwyddyn 2 yn cyflwyno sgiliau damcaniaethol ac ymarferol gan y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm datblygu gemau bach ac yn dysgu hanfodion dylunio a datblygu 2D & 3D ynghyd â dealltwriaeth o'r caledwedd a ddefnyddir ar gyfer chwarae gemau cyfrifiadurol a'r cyfryngau. Mae pwyslais cryf ar rheoli cynhyrchu ynghyd ag adeiladu gwybodaeth o brosesau busnes ac entrepreneuriaeth.
Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destun ehangach datblygu gemau a'r materion allweddol sy'n wynebu'r diwydiant heddiw.
Modiwlau
- Peirianneg Gwybodaeth a Systemau
- Systemau Cyfrifiadurol
- Dylunio a thechnoleg gemau
- Y Diwydiant Gemau a Methodolegau Cynhyrchu Ystwyth
- Busnes, Cyllid a Rheolli Technoleg
- Datblygu Asedau Gemau
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Mae Blwyddyn 3 yn adeiladu ar eich portffolio o sgiliau ac yn ei ehangu i ganolbwyntio ar arloesi a masnachu cynnyrch ynghyd â dealltwriaeth o lwyfannau cyhoeddi digidol a'r modelau busnes sy'n gysylltiedig â nhw. Byddwch hefyd yn datblygu'ch gwybodaeth o gerflunio digidol a modelu 3D.
Yn allweddol, yn ystod yr ail semester, byddwch yn gwella eich sgiliau datblygu a rheoli ymhellach drwy weithio ar ddau brosiect gemau grŵp sylweddol gan ddefnyddio methodolegau rheoli ac offer cefnogi safon diwydiant. Disgwylir i chi dddefnyddio eich sgiliau rheoli drwy weithredu fel sgrymfeistr yn ystod y camau datblygu hyn.
Modiwlau
- Technoleg Gêmau Difrifol
- Cynllunio Prosiectau Grŵp
- Rhoi Prosiectau Grŵp ar waith
- Cynhyrchu Gemau a Thechnoleg Wasgaredig
- Modelu 3D ac Animeiddio ar gyfer Peiriannau Gemau
- Technoleg Ariannol ac Arloesi
Blwyddyn 4 (Lefel 6)
Mae'r flwyddyn olaf yn ehangu ymhellach ar y sgiliau a ddatblygwyd eisoes, gan ganolbwyntio ar ansawdd a rheolaeth broffesiynol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol uwch.
Nod y prosiect grŵp blwyddyn olaf arloesol yw gwella eich dealltwriaeth o'ch rôl a'ch cyfrifoldebau fel datblygwr proffesiynol, sy'n eich paratoi ymhellach ar gyfer y gweithle. Byddwch yn ffurfio tîm datblygu gêm ac yn arbenigo mewn rôl dechnegol o'ch dewis eich hun am flwyddyn academaidd lawn. Byddwch chi a'ch tîm yn cyflwyno'r gêm orffenedig yn y digwyddiad LeveL Up blynyddol y mae aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr o'r diwydiant yn ei fynychu.
Trwy ein rhaglen Cyflymydd Busnes, byddwch yn cael y cyfle i weithio'n agos gyda myfyrwyr israddedig Busnes a chael mynediad i'n canolfan deori busnes gyda'r bwriad o ddechrau a rheoli eich stiwdio datblygu gemau eich hun.
Mae pwyslais ar astudio annibynnol drwy gydol y rhaglen, yn datblygu portffolio proffesiynol a mynd ar drywydd rhagolygon gyrfaol cyffrous trwy asesu parhaus a goruchwyliaeth prosiect benodol.
Modiwlau
- Technolegau'r Dyfodol
- Prosiect / Prosiect Traethawd Hir
- Dylunio Gemau, Marchnata Cynnyrch a Chylchredeg Arian
- Modelu ac Animeiddio 3D Uwch ar gyfer Peiriannau Gemau
- Technoleg Ariannol a Llwyddiant Busnes
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BSc Mentergarwch a Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Cod UCAS: GEFY
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cywmsyterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Mae rhaglen mentergarwch a dylunio gemau yn ymwneud yn bennaf â phortffolio, ac fel y cyfryw, nid yw’r cwrs yn cynnwys unrhyw arholiadau ffurfiol. Caiff myfyrwyr mentergarwch gemau eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod eu hastudiaethau israddedig. Caiff y cydbwysedd rhwng ffurfiau gwahanol asesu ei bennu gan nodau a chanlyniadau dysgu gwahanol y modiwlau.
Mae dulliau asesu’n cynnwys cynhyrchu gemau digidol (a heb fod yn ddigidol), llunio adroddiadau technegol ac academaidd, llunio a dadansoddi data cynhyrchu, rhoi cyflwyniadau, llunio anghenion busnes, llunio modelau 3D ac asedau gemau.
Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr roi tystiolaeth ystadegol o oriau gwaith cynnwys tystiolaeth ategol fel rhan o ganlyniadau asesu craidd.
Dysgu ac addysgu
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar yr holl fodiwlau, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy ddefnyddio offer rheoli digidol fel Jira, a thrwy'r adborth a roddir i fyfyrwyr, sy'n cymryd sawl ffurf gan gynnwys grwpiau bach a thrafodaethau un-wrth-un.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i ddelio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Ar ôl i chi gwblhau'r rhaglen radd BSc (Anrh) yn llwyddiannus, bydd eich sgiliau ymarferol mewn modelu 3D, cerflunio digidol, dylunio gemau a rheoli prosiect yn golygu eich bod yn gymwys i weithio mewn amrywiaeth o rolau o fewn y diwydiant hwn.
Mae gan ein graddedigion hanes da o ran cael eu cyflogi, gan fynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus fel artistiaid/animeiddwyr technegol gemau, dylunwyr/datblygwyr lefel, cynhyrchwyr neu feistri sgrym.
O ystyried y sgiliau busnes ac entrepreneuriaeth a ddatblygir ar y cwrs hwn, mae rhai graddedigion yn dewis sefydlu eu stiwdios gemau eu hunain gyda chefnogaeth ein canolfan deori busnes fel rhan o'r rhaglen Cyflymydd Busnes.
Yn ogystal, mae'r sgiliau technegol a ddatblygir ar y cwrs yn galluogi graddedigion i ddilyn gyrfaoedd mewn llawer o feysydd cyfrifiadurol prif ffrwd megis cymorth TG, ymgymghoriaeth a datblygu cymwysiadau rhyngrwyd ac e-fasnach.
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i ganfod beth yw'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Nid oes rhaid i chi dalu'ch ffioedd addysgu ymlaen llaw.
Ar gyfer 2019/20, bydd ffioedd addysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch chi hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hynny.
Gallwch weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.