-
Prif Nodweddion y Cwrs
-
- *cafodd y cwrs 94.4% am gyfleoedd dysgu (dadansoddiad PGW o ddata Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020)
- Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio.
- Cysylltiadau masnachol da a chysylltiadau gwych gydag orielau, gyda'r ffocws ar sgiliau crefft i'ch galluogi i ddod yn wneuthurwyr o'r radd flaenaf.
- Mae pwyslais yn cael ei osod ar ddatblygu'ch sgiliau busnes mewn ardaloedd megis prisio, cyhoeddusrwydd a marchnata; cawn ein canmol gan arholwyr allanol am barodrwydd ein myfyrwyr ar gyfer bywyd proffesiynol.
- Cewch eich addysgu gan dîm ymroddedig o ymarferwyr ymchwil-weithredol sy’n arddangos eu gwaith eu hunain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Gweithio ar brosiectau byw, exhibitions, cystadleuthau a chomisiynau ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat; bydd hyn yn rhoi’r hyder i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, er enghraifft, wrth fynd â’ch gwaith i orielau a llefydd manwerthu.
-
Beth y byddwch yn ei astudio?
-
Blwyddyn 1 (Blwyddyn sylfaen)
Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i brif elfennau celf a dylunio, gan gynnwys ymarfer dylunio, celf gymhwysol a chelf gain. Byddwch yn archwilio'r broses meddwl yn greadigol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio, gan ddatblygu'ch gallu i drosglwyddo'ch syniadau ar bapur yn gyflym. Bydd ystod o aseiniadau ymarferol a fydd yn cynyddu'ch adnabyddiaeth o syniadau cadarn a chysyniadau gwreiddol.
Modiwlau
- Cyflwyniad i Gelf a Dylunio
- Cyflwyniad i Gelf Gymhwysol
- Cyflwyniad i Gelf Gain
- Meddwl yn Greadigol
- Y Sgiliau Syss Arnoch eu Hangen
Am ragor o fanylion ar fodiwlau'r flwyddyn sylfaen, ewch i'n tudalen blwyddyn sylfaen
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Yn eich cyflwyno i'r ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau mewn Celfyddydau Cymhwysol, lle cewch y cyfle i weithio ar draws yr holl feysydd deunyddiau, gan arbrofi gyda gwydr, cerameg, metel a chyfryngau cymysg.
Modiwlau:
- Hanes a Chyd-destun
- Dyfodol Creadigol 1
- Cyfathrebu Gweledol
- Archwiliad Deunydd
- Prosesau Crefft
- Deunydd a Iaith
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Estyn eich sgiliau credu yn eich prif ddewis deunyddiau, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am ddeunyddiau sgiliau crefft sy'n eich gallugi i ddatblygu eich arddull creadigol eich hunan. Datblygir hefyd drwy brosiectau ymarfero brif sgiliau proffesiynol deall marchnadoedd, cyhoeddusrwydd a phrisio.
Modiwlau:
- Meddwl yn Feirniadol
- Dyfodol Creadigol: Ennill Bywoliaeth
- Ymarfer Estynedig (Celfyddydau Cymhwysol)
- Ymarfer Celf
- Ymarfer mewn Cyd-destun
- Astudiaeth Arbenigol (Celfyddydau Cymhwysol)
Blwyddyn 4 (Lefel 6)
Yn eich galluogi i wireddu'ch syniadau yn y cyfeiriad o'ch dewis, gyda myfyrwyr yn datblygu eu themâu unigol eu hunain i gynhyrchu casgliadau, gan ddangos sgiliau gwneud a datrysiadau dylunio arloesol o ansawdd uchel.
Modiwlau:
- Traethawd Hir
- Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
- Ymarfer Wedi'i Drafod
- Prosiect Gradd Celf Gymhwysol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
Gofynion Mynediad a Gwneud Cais
-
BA (Anrh) Dylunio: Celfyddydau Cmhwysol (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Côd UCAS: W202
Y gofynion academaidd ar gyfer BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS. Rydym hefyd yn ystyried unrhyw brofiad gwaith sydd gennych a allai fod yn berthnasol i gwrs penodol.
Mae tîm y rhaglen Celfyddydau Cymhwysol yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith, Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Myfyrwyr Rhyngwladol - BA (Anrh) Dylunio: Celfyddydau Cymhwysol (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewiswch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Iaith Saesneg perthnasol.
-
Asesu
-
Asesir yn bennaf trwy waith ymarferol a gwaith dylunio megis maquettes, llyfrau braslunio, samplau, a gwrthrychau gorffenedig. Cyflwynir y gwaith i diwtoriaid, a rhoddir atborth llafar ar unwaith, wedi’i ddilyn gan atborth ysgrifenedig mwy eang.
Fe’ch asesir ar gyfer pob modiwl. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i fonitro cynnydd a gellir eu cynnal unrhyw adeg. Mae’r rhain yn cynnwys graddoli band, ynghyd â sylwadau arfarnol a thiwtorial atborth os yn briodol. Ni chwblheir y graddoli tan ddiwedd y flwyddyn, pan fydd gwaith yn cael ei adolygu a’i safoni gan arholwr allanol.
Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6. Mae cyfleusterau'r gweithdai ar agor ac wedi eu staffio 5 niwrnod yr wythnos ac mae gan fyfyrwyr fynediad parhaus.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
-
Rhagolygon Gyrfaol
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae galw mawr o hyd am ddylunwyr a all ymateb yn greadigol i broblemau celf a dylunio cymhwysol.
Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys addysg, gwaith adfer, amgueddfeydd a manwerthu. Mae cyfan uchel yn mynd mlaen i weithio mewn neu sefydlu eu horielau eu hunain.
Mae graddedigion eraill yn gweithio mewn busnesau celfyddydau cymhwysol, gweithio'n hunangyflogedig fel artistiaid, technegwyr, dylunwyr neu grefftwyr, neu hyd yn oed sefydlu eu busnesau gwneuthur eu hunain.
Mae cyfleoedd hefyd i chi wneud astudiaethau pellach ar lefel MA neu’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).
-
Ffioedd a Chyllid
-
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn Aml y tudalennau hynny.
-
Manyleb y Rhaglen
-
Gallwch weld manyleb lawn y rhaglen yma
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.