-
Prif Nodweddion y Cwrs
-
- Ein nod yw darparu profiad myfyriwr boddhaol gyda phwyslais ar gydweithio ac ymarfer proffesiynol.
- Mae tiwtoriaid yn ymarferwyr ymchwil-weithgar brwdfrydig, cefnogol a gwybodus.
- Ceir ymweliadau i wyliau animeiddio megis Gŵyl Animeiddio Manceinion a Gŵyl Animeiddio Caerdydd.
- Mae ein cynhadledd myfyrwyr Dyfodol Creadigol yn cynnwys ystod eang o siaradwyr gwadd a ddaw o'r diwydiannau creadigol.
- Byddwch yn gweithio ar brosiectau yn seiliedig ar gleientiaid wrth gydweithio a mudiadau fel eich bod yn dysgu i reoli prosiectau tîm fel gweithiwr proffesiynol.
- 1af yng Nghymru a 6ed yn y DU am foddhad cyffredinol ym maes y celfyddydau creadigol a dylunio (Dadansoddiad PGW o ddata NSS 2019 sydd heb ei gyhoeddi).
"Rhoddodd Prifysgol Glyndŵr y cyfle imi fynychu nifer o ddigwyddiadau, gwyliau a theithiau stiwdio proffil uchel na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall, sydd wedi rhoi'r hyder oedd ei angen arna i fynd i mewn i fyd mawr animeiddio."
George Roberts
BA (Anrh) Animeiddio
-
Yr hyn y byddwch yn ei astudio
-
Bydd y rhaglen hon yn rhoi profiad i chi o greu prosiectau wedi'u hanimeiddio o'r syniad dechreuol i'r canlyniadau terfynol. Mae pwyslais yn y flwyddyn gyntaf ar y broses greadigol tynnu llun a dylunio. Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu syniadau, ymchwilio cyfeirnodau sy'n ysbrydoli, creu delweddau terfynol deniadol o ddalenni dylunio cymeriadau, cefndiroedd a byrddau stori. Yn ystod y flwyddyn gyntaf ac ail, byddwch yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion animeiddio gan ddefnyddio technegau amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys lluniadu 2D, animeiddio digidol 2D, graffeg symudol ac animeiddio 3D. Byddwch yn datblygu sgiliau meddalwedd safon diwydiant a'r strategaethau creadigol i allu datblygu prosiectau arbrofol proffesiynol yn ogystal â briffiau i gleientiaid. Nod y cwrs yw'ch darparu gyda rîl arddangos i'ch galluogi i gychwyn gwaith proffesiynol llawrydd, gwneud cais am astudiaethau ôl-radd, neu ymuno a'r diwydiant animeiddio.
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i brif elfennau celf a dylunio, gan gynnwys ymarfer dylunio, celf gymhwysol a chelf gain. Byddwch yn archwilio'r broses meddwl yn greadigol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio, gan ddatblygu'ch gallu i drosglwyddo'ch syniadau ar bapur yn gyflym. Bydd ystod o aseiniadau ymarferol a fydd yn cynyddu'ch adnabyddiaeth o syniadau cadarn a chysyniadau gwreiddol.
MODIWLAU
- Cyflwyniad i Gelf a Dylunio
- Cyflwyniad i Gelf Gymhwysol
- Cyflwyniad i Gelf Gain
- Meddwl yn greadiol
- Y Sgiliau Rydych eu Hangen
- Astudiaethay Cyd-destunol
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Modiwlau
Cyfathrebu Gweledol (20 credid):byddwch yn dysgu lluniadu, cyfansoddi, gwerth a chelf cysyniad sylfaenol.
Astudiaethau Cyd-destunol 1 (20 credid): bydd y modiwl hwn yn eich gwneud yn gyfarwydd gyda hanes animeiddio a chelf gemau gan gynnwys esblygiad technoleg, digwyddiadau hanesyddol a chymdeithasol, yn ogystal â chyfraniadau mwyaf arloesol artistiaid. Mae'n annog trafod a meddwl yn feirniadol am gynyrchiadau cyfoes ac o'r gorffennol.
Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Naratif Gweledol (20 credid): byddwch yn dysgu'r prif elfennau sy'n ymwneud ac adrodd hanesion yn ogystal â dilyniant mewn naratif a chreu bwrdd stori.
Dyfodol Creadigol 1 (20 credid): mae'r modiwl hwn yn darparu sgiliau proffesiynol a briffiau cystadleuaeth go iawn.
Egwyddorion Animeiddio (20 credid): bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i ddulliau ac egwyddorion animeiddio a sut i'w cymhwyso drwy dechnegau amrywiol.
Cyfrwng a Symudiad (20 credid): byddwch yn datblygu ymarfer pellach wrth chwarae gyda chymhwyso egwyddorion animeiddio. Byddwch yn cynhyrchu dilyniant animeiddio i ychwanegu i'ch rîl arddangos.
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Modiwlau
Astudiaethau Cyd-destunol 2 (20 credid): Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i ddamcaniaeth beirniadol a methodoleg ymchwil wedi'u cymhwyso i'ch gwaith celf a'ch diddordebau. Bydd yn eich cyflwyno i syniadau a damcaniaethau cysyniadol fel sylfaen i archwiliad pellach yn lefel 6.
Dyfodol Creadigol 2 (20 credid): mae'r modiwl hwn yn darparu sgiliau proffesiynol megis rheoli amser, rheoli prosiect a chyflwyniad a hyrwyddiad eich gwaith.
Animeiddio cymeriad (20 credid): byddwch yn dwysau eich cymhwysiad o egwyddorion animeiddio i actio a pherfformiad cymeriad yn eich technegau dewisol. Byddwch yn mynegi emosiwn mewn ffordd gredadwy ac yn dysgu i efelychu pwysau a chydbwysedd.
Cymeriad mewn Cyd-destun (20 credid): Byddwch yn ehangu'ch gwybodaeth o gelf creu cymeriadau a dychmygu sgript. Byddwch yn gweithio ar gynllun, cyfansoddiad, gwerth, defnydd brasluniau a defnydd symudiadau camera i greu golygfeydd deniadol gyda chydlyniad, cysondeb a dilyniant gweledol.
Animeiddio ar gyfer Cymdeithas (20 credid): bydd y modiwl yma'n gadael i chi gymryd rhan mewn prosiect cleient ar y cyd gan gydweithio gyda chorff allanol. Byddwch yn datblygu ffilm addysgiadol gan ddefnyddio graffeg symudol.
Animeiddio Arbrofol (20 credid): byddwch yn archwilio ffyrdd symbolaidd a throsiadol o gyfathrebu syniadau a chysyniadau drwy drin deunyddiau a newid siapiau mewn perthynas â sain.
Blwyddyn 4 (Lefel 6)
Modiwlau
Astudiaethau Cyd-destunol 3 (20 credid):byddwch yn cynhyrchu darn o ymchwil mewn pwnc dewisol bydd yn medru cael sawl fformat megis papur ysgrifenedig, prosiect celf neu draethawd fideo.
Dyfodol Creadigol 3 (20 credid): byddwch yn datblygu'r sgiliau i weithio fel gweithiwr proffesiynol.
Ymarfer a Drafodwyd (40 credid): byddwch yn gosod eich prosiect eich hun gydag amcanion a nodau penodol yn ôl eich dyheadau proffesiynol mewn cytundeb gyda'ch tiwtor.
Prosiect Gradd Animeiddio (40 credid): byddwch yn cynhyrchu canlyniad o safon broffesiynol (megis rîl arddangos neu ffilm fer wedi'i animeiddio) i gael ei arddangos mewn digwyddiadau amrywiol neu blatfformau megis gŵyl animeiddio neu geisiadau swydd.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
Gofynion Mynediad a Gwneud Cais
-
BA (Anrh) Animeiddio (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Cod UCAS: 259D
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol yn ogystal â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.
Mae tîm y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.
Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Caiff gwahanol gymwysterau eu hystyried, gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Bagloriaeth Cymru, y Fagloriaeth Ryngwladol, cyrsiau Mynediad, BTEC, VCE, GNVQ, lefelau A ac AS yn ogystal â chymwysterau tramor eraill.
Os ydych chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar Gofynion Mynediad eich cymhwyster.
Myfyrwyr Rhyngwadol - BA (Anrh) Animeiddio (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewis eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
-
Asesu ac Addysgu
-
Nid oes arholiadau gosodedig. Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen, gan roi pwyslais a ddiffinnir yn fwy gofalus ar asesu ffurfiannol ac adborth ar eich gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwn yn eich cynghori ar eich lefel o gyrhaeddiad ac yn eich cyfeirio at strategaeth ar gyfer dilyniant pellach wrth i chi cwblhau aseiniadau a modiwlau.
Mae fformatau amrywiol o asesu i annog eich dysgu trwy seminarau grŵp, ymdriniaethau a thiwtorialau. Gall hyn fod trwy ryngweithio grŵp gyda dadansoddiad beirniadol lle byddwch yn cyflwyno ystod o waith, gan gynnwys llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gwaith celf gorffenedig, gwaith 3D, gwaith seiliedig ar sgrîn, ffeiliau technegol/cynhyrchu, cyfnodolion, traethodau a chyflwyniadau clyweledol. Mae adolygiadau o waith ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg ac mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar eich cynnydd cyn asesiad diwedd blwyddyn terfynol neu grynodol.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Ar y cwrs hwn mae addysgu a dysgu wedi eu cynllunio i gefnogi myfyrwyr o ystod o gefndiroedd gydag anghenion amrywiol ac i hyrwuddo'r amgylchedd dysgu cefnogol a'r gofal bugeiliol y mae'r Ysgol Celf a Dylunio yn eu darparu. Mae'r amserlenni'n cael ei ddatblygu i helpu methodolegau dysgu, addysgu ac asesu ac i ddarparu adborth clir ac effeithiol i fyfyrwyr. Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6.
Mae cefnogaeth gadarn i fyfyrwyr a chanddynt wahaniaethau dysgu sydd hefyd yn gallu derbyn cymorth ychwanegol gan gynorthwywyr cefnogi drwy Wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.
Mae'r rhaglen hon wedi ei strwythuro i'ch galluogi i weithio mewn dull amlddisgyblaethol, i fod yn hyblyg ac i'ch galluogi i ddatblygu'n unigol. Caiff hyn ei gefnogi gan system tiwtor personol/tiwtorialau sy'n rhoi cyfarwyddyd ichi drwy bob agwedd ar y rhaglen.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
-
Rhagolygon Gyrfaol
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd, fel eich bod yn gymwys iawn i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel y BBC, Channel 4, S4C, Disney, Molinare, McKinnon & Saunders, Pictures Passion, Asylum Models and Effects, EA Games a Traveller’s Tales, gan gymryd rolau blaenllaw megis uwch ddylunwyr, artistiaid/animeiddwyr VFX, gan weithio ar deitlau megis A Bug’s Life, The Corpse Bride, Frankenweenie a gemau cyfres Harry Potter.
Mae cyfleoedd gyrfaol ym mhob maes animeiddio, gan gynnwys: artistiaid cysyniad, artistiaid byrddau stori, animeiddwyr cynorthwyol, animeiddwyr llawrydd, dylunwyr cymeriadau, artistiaid gemau, datblygwyr rhyngweithiol, artistiaid amgylchedd a chefndir, delweddwyr llawrydd, gwneud modelau, dylunio setiau, celf gwead cyfryngau digidol, paentio digidol, cysodi, goleuo, rigio, effeithiau gweledol ac ôl-gynhyrchu.
Mae'r radd hon hefyd yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael ar lefel MDes /PMA neu TAR hefyd.
-
Ffioedd a Chyllid
-
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.Byddwch chi hefyd yn cael gwybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hynny.
-
-
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.