Edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau israddedig i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig

WGU Logo
WGU ten years
Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol (gyda blwyddyn sylfaen)

BEng (Anrh)
Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol (gyda blwyddyn sylfaen)

Côd UCAS: HH4H

BL Mynediad: 2019 2020

Tariff UCAS: 48

Hyd y Cwrs: 4 BL (LlA)

Cod y Sefydliad: G53

Lleoliad: Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Gan ddatblygu sgiliau allweddol a gwybodaeth gadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau awyrennau, yn ogystal ag mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg modern, mae gan y cyrsiau hyn gysylltiadau cadarn â diwydiant a nod y cwrs yw diwallu anghenion y diwydiannau.

 

Mae'r cyrsiau yn canolbwyntio ar ddylunio. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth lawn o gysyniadau dylunio peirianyddol a'r broses ddylunio peirianyddol. Gallwch archwilio cysyniadau awyrennol ac awyrofod newydd radicalaidd ac ategu hyn gydag arbenigedd mewn peirianneg fecanyddol i lunio dyluniadau. Yn ogystal â phwysleisio gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn peirianneg awyrennol, mae'r cwrs hwn hefyd yn pwysleisio gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy i'ch arfogi chi am farchnad swyddi ehangach.

 

Bydd rhan gyntaf y cwrs cyflwyno hanfodion gwyddoniaeth fecanyddol a thrydanol, mecaneg solidau a pheiriannau a dylunio â chymorth cyfrifiadur. Yna byddwch yn datblygu gwybodaeth fwy datblygedig, gan edrych ar aerodynameg, dynameg peirianneg, dylunio peirianegol, strwythurau a dadansoddi dirgryniad, mecaneg hylif, thermodynameg, gyriad, dylunio awyrennau, sefydlogrwydd a rheolaeth awyrennau.

 

Byddwch yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio amrywiaeth o offer dylunio â chymorth cyfrifiadur, gan gynnwys Dadansoddi Elfennau Cyfyngedig (FEA) sy'n hynod ofynnol yn y diwydiant ac offer Dynameg Hylifol Cyfrifiannol (CFD). Hefyd, mae hogi'ch sgiliau busnes yn ffocws allweddol drwy gydol y cwrs.

  

Gallwch hefyd ddewis astudio'r cwrs hwn fel rhaglen dair blynedd safonol heb y flwyddyn sylfaen BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol Cod UCAS: HH34

 

 

 

 

rise of 24 places

CWRDD Â'R STAFF


Dyddiau a Nosweithiau Agored

Diwrnodau Agored pgw

Diwrnodau pwnc a diwrnodau blasu

Diwrnodau Blasu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Diwrnod Agored y Brifysgolonline prospectus

Top