-
Prif Nodweddion y Cwrs
-
- Mae cyfleoedd am leoliad gwaith ar gael i bob un o'n myfyrwyr sy'n dangos safon da o ymgysylltu a phroffesiynoldeb yn ystod eu hastudiaethau.
- Cafodd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam eu graddio'n 15fed yn y DU am foddhad myfyrwyr (Canllaw Cyflawn ar Brifysgolion 2017).
- Yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir, bydd graddedigion yn gymwys i gael eu heithrio am hyd at chwe phapur arholiad ACCA (F1, F2, F3, F4, F5 and F9) a hyd at chwe phapur arholiad AIA (Papur 1, Papur 2, Papur 3, Papur 4, Papur 6 a Phapur 8). Ar ben hyn, mae bydd graddedigion y rhaglen hon yn gymwys am aelodaeth lefel Gysylltiol (AFA).
- Gan fod ein graddau'n cael eu hachredu gan CMI, bydd ein holl fyfyrwyr yn derbyn Tystysgrif Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan CMI sy'n werth dros £1,300 heb unrhyw draul ychwanegol.
-
Yr hyn y byddwch yn ei astudio
-
Blwyddyn 1 (Blwyddyn Sylfaen)
Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i gysyniadau sylfaenol mewn cyllid, a fydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach. Cewch wybodaeth o reolau rhifedd yng nghyd-destun busnes ac yn defnyddio dulliau i ddatrys problemau busnes.
Drwy cyflwyniad i fusnes byddwch yn archwilio swyddogaethau busnes AD, Marchnata a Chyfrifed a Chyllid gyda chyfle i archwilio gwahanol elfennau nusnes, gan gynnwys strwythurau, a mathau gwahanol o berchnogaeth.
Modiwlau
- Astudiaethau Cyd-destynol
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
- Hanfodion Cyllid
- Hanfodion Rheolaeth Adnoddau Dynol
- Hanfodion Busnes
- Cyflwyniad i Farchnata
Yn dilyn cwblhau eich blwyddyn sylfaen, byddwch yn symud ymlaen i'r rhaglen safonol dros dair blynedd. Byddwch yn astudio modiwlau busnes a marchnata fydd yn eich galluogi i ganolbwyntio ar bynciau cyfrifeg a chyllid. Byddwch yn astudio economeg, dadansoddi cyllidol a data a chyflwyniad i farchnadoedd ariannol. Ym mlynyddoedd dau a thri byddwch yn arbenigo mewn naill ai cyfrifeg neu gyllid a bydd eich dewisiadau modiwl yn cynnig dyfnder sylweddol o arbenigedd.
Byddwch yn cyflwyno ymarferwyr busnes i'ch amserlen dysgu a fydd yn rhoi ciplowg ichi ar y sefyllfaoedd a'r heriau yn y byd go-iawn y maen nhw'n dod ar eu traws ym myd busnes. Wrth ichi ddatblygu, bydd eich hyder a'ch ymwybyddiaeth yn cynyddu a byddwch yn ein gadael ni'n barod i fynd i mewn i fyd busnes.
Blwyddyn 2 (Lefel 4)
Modiwlau
- Cyflwyniad i Gyfrifeg Ariannol
- Sgiliau Cyfathrebu Busnes
- Economeg
- Busnes a Chyllid mewn Ymarfer
- Dadansoddeg Data ac Ariannol a Deall ‘Data Mawr’
- Hanfodion Marchnata
Blwyddyn 3 (Lefel 5)
Modiwlau
MODIWLAU CRAIDD
- Cyfrifeg Rheoli Uwch
- Ymgysylltu ac Arwain Pobl
- Cyfraith Busnes
MODIWLAU DEWISOL
- Lleoliad gwaith 2
- Prosiect seiliedig ar waith
Blwyddyn 4 (Level 6)
Modiwlau
- Meddwl yn Strategol
- Rheolaeth Ariannol Uwch
- Cyllid Strategol
- Traethawd Hir
MODIWLAU DEWISOL
- Rheolaeth Adnoddau Dynol Rhyngwladol
- Cynaliadwyaeth a Thwf Busnes
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
Gofynion Mynediad a Gwneud Cais
-
BA Cyfrifeg a Chyllid (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)*
Côd UCAS: A268
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, cymwysterau/hyfforddiant galwedigaethol yn ogystal â'r cymhelliant a'r potensial i lwyddo.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Myfyrwyr Rhyngwladol - BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)*
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ewch i'n tudalen gwledydd a dewis eich gwlad i gael gweld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthasnol.
-
Asesu
-
Yn rhan o'n ymroddiad i baratoi ein graddedigion at y gweithle proffesiynol, rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu gwahanol ddulliau asesu sy'n cynnal trylwyredd academaidd, ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr eu datblygu eu hunain mewn ffyrdd amrywiol. O ganlyniad, yn y rhan fwyaf o'r modiwlau, caiff myfyrwyr eu hasesu gan ddulliau megis arholiadau traddodiadol, arholiada llafar, gwerthuso astudiaethau achos, cyflwyniadau, ysgrifennu blog ac ysgrifennu adroddiadau rheoli.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
-
Rhagolygon Gyrfaol
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Rydym yn cynnig rhaglen gradd arloesol sy'n meithrin brwdfrydedd, penderfyniad a pharodrwydd i ddysgu. Mae arweinwyr busnes wedi asesu ein cwricwlwm newydd, felly gallwch fod yn hyderus ein bod yn addysgu'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt. Rydym yn falch bod Ysgol Busnes Gogledd Cymru wedi cyflawni cyfradd cyflogadwyedd o 96%.
Mae ein lleoliad gwaith yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu eu CV, adeiladu perthynas gorfforaethol a gwella eu hyder mewn amgylchedd proffesiynol. Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr busnes i wneud lleoliad yn rhan o'u hastudiaethau ac yn ymdrechu i ddod o hyd i sefydliad perthnasol i bawb sydd â diddordeb.
-
Ffioedd a Chyllid
-
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch chi hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hynny.
-
Manyleb y Rhaglen
-
Gallwch weld manyleb lawn y rhaglen yma.
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.
-
*DILYSIAD CWRS
-
*Yn amodol ar ail-achredu Pan gaiff cwrs ei ailddilysu, rhaid ei ailachredu hefyd. Rhaid hefyd o bryd i'w gilydd adnewyddu achrediad cyrsiau cyfredol. Mae'r manylion sydd ar y wefan yn seiliedig ar achrediad fersiwn flaenorol neu gyfredol y cwrs, a chaiff y diweddariadau a ragwelir eu gwneud cyn gynted ag y byddant yn hysbys. Cymeradwyir y rhan fwyaf o gyrsiau sy'n ' amodol ar ailachredu' yn ôl y disgwyl, ond nid oes sicrwydd am hyn ac os na chaiff yr achrediad ei gymeradwyo fel y cynlluniwyd, neu ei ddiwygio'n sylweddol neu ei oedi, byddwch yn cael gwybod gan y brifysgol. Bydd y cwrs yn dal i redeg, ond bydd cymorth yn cael ei ddarparu i'r bobl sydd wedi cael cynnig lle i ddod o hyd i gwrs addas arall naill ai ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam neu gyda darparwr arall, os nad yw ymgeiswyr yn dymuno parhau heb achrediad.