Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn cynnwys deunydd sylfaenol hanfodol sy'n berthnasol ym mhob un o'n rhaglenni cyfrifiadurol. Byddwch yn dysgu sgiliau sy'n benodol i'r pwnc ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu’ch rhagolygon cyflogadwyedd.
Gyda chefnogaeth eich tiwtoriaid, byddwch yn dysgu am rai o'r ffeithiau, cysyniadau, technegau, a phroses dylunio rhwydweithiau cyfrifiadurol ynghyd â’u cyd-destun. Byddwch hefyd yn dysgu am faterion yn ymwneud â chaledwedd, gan gynnwys rhyngwynebu a chysylltiadau data, a'u heffaith ar gynllun a pherfformiad cyffredinol systemau cyfrifiadurol.
Modiwlau
- Systemau Cyfrifiadurol
- Rheoli Data
- Datrys Problemau trwy Raglenni
- Peirianneg Gwybodaeth a Systemau
- Dulliau Cyfrifiannu Synhwyrol
- Sylfeini Rhwydweithiau a Diogelwch
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Byddwch yn parhau i ddysgu hanfodion y ddisgyblaeth yn eich ail flwyddyn, ac mae modiwlau mwy arbenigol yn dechrau cael eu cyflwyno. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau cyfrifiadurol ac archwilio trwy eu defnyddio mewn gwaith labordy a gwaith ymarferol, i feysydd sy’n berthnasol i ddisgyblaeth teleathrebu a rheoli a dylunio rhwydweithiau cyfrifiadurol.
Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect grŵp, sy'n cynnwys astudiaeth dichonolrwydd, i ddylunio, cynhyrchu a phrofi prototeip o system rhwydwaith neu gynnyrch. Erbyn diwedd eich ail flwyddyn, byddwch yn gallu dangos y sgiliau rhyngbersonol, trefnu ac astudio sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer astudio israddedig, ac ar gyfer dysgu gydol oes mewn gyrfa fel peiriannydd rhwydweithio / telathrebu proffesiynol.
Modiwlau
- Technoleg Gweinydd
- Rhwydweithio: Graddio Rhwydweithiau
- Strwythurau Data ac Algorithmau
- Cyfrifiadura Cyfrifol
- Seiberdiogelwch a Fforenseg
- Prosiect Grŵp
Dewisol
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Ar ôl i chi gyrraedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach trwy fodiwlau a gwaith ymchwil a addysgir, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf yn eich dewis ddisgyblaeth. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf unigol, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y math o dasgau a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws yn y gweithle. Bydd y gwaith ymarferol a'r prosiect blwyddyn olaf yn datblygu ymhellach eich gwybodaeth arbenigol fanwl, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau ymarferol o fewn meysydd allweddol y ddisgyblaeth, fel y'i cymhwysir at ddatblygu systemau a gwasanaethau trwy ddefnyddio technolegau telathrebu cyfredol a newydd.
Modiwlau
- Rheoli Prosiect TG
- Diogelwch Rhwydwaith
- Hacio Egwyddorol
- Technolegau’r Dyfodol
- Prosiect
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BSc (Anrh) Seiberddiogelwch
Cod UCAS: 8L6D
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Safon Uwch neu gyfwerth gan gynnwys TG, cyfrifiadura, mathemateg neu ffiseg.
Os ydych chi wedi astudio mewn gwlad arall yn Ewrop, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Sut mae cyrsiau Lleoliad Diwydiannol yn gweithio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Bydd ein holl fyfyrwyr sydd yn dymuno dilyn llwybr lleoliad diwydiannol drwy un o’n rhaglenni cyfrifiadura yn cofrestru yn y lle cyntaf ar y fersiwn 3 mlynedd o’r cwrs maent wedi ceisio amdani.
Yn ystod lefel 5 (blwyddyn 2) y rhaglen, byddwch yn mynychu sesiynau tiwtorial ynglŷn â’r flwyddyn lleoliad, gan gynnwys y broses o ddod o hyd i leoliad addas, disgwyliadau eich blwyddyn lleoliad ac arweiniad ar gynhyrchu eich cynnig. Ym mlwyddyn 2 byddwch yn gweithio gyda’ch Cydlynydd Lleoliad i gyflwyno eich cynnig, bydd yna’n cael ei ystyried a’i adolygu. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod y broses yma, byddwch yn mynd ymlaen i wneud eich Lleoliad Diwydiannol yn ystod eich trydedd flwyddyn ac yna dod yn ôl atom ar gyfer lefel 6 (blwyddyn 4 i gyd).
Mae hyn yn golygu, er bod eich cais cychwynnol i’r lleoliad diwydiannol, bydd eich cynnig dilynol gennym ni i’r fersiwn 3 mlynedd o’ch cwrs. Bydd eich blaenoriaeth ar gyfer blwyddyn lleoliad diwydiannol yn cael ei recordio ar eich record myfyriwr fel ein bod yn gwybod mai hyn yw eich hoff lwybr pan rydych yn cofrestru gyda ni.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg
BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Prentisiaid Gradd
Gofynion mynediad safonol y Brifysgol i'r rhaglen hon ydy (am fynediad lefel 4):
- 48 pwynt tariff UCAC o gymhwyster lefel 3 addas fel Lefelau A
- 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg
Ystyrir ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAC angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau heb y pwyntiau, ar sail eu profiad proffesiynol yn niwydiant y brentisiaeth. Bydd pob ymgeisydd sydd ddim yn ateb yr ofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn gwneir cynnig, gan roi cyfle iddynt dangos sut mae eu sgiliau a phrofiadau o'r diwydiant yn eu gwneud yn addas i'r rhaglen.
Mae asesu’n cael ei ystyried yn rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â chanlyniadau dysgu modiwlau unigol. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, portffolio datblygiad personol, arholiadau a phrofion yn yr ystafell ddosbarth. Bydd asesu yn cynnwys aseiniadau unigol a grŵp/tîm.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae yna ystod amrywiol o gyfleoedd ar gael i raddedigion y cwrs yma, gan gynnwys peirianwyr a rheolwyr telathrebu.
Mae’n bosibl y daw myfyrwyr o hyd i waith gyda’r darparwyr telegyfathrebu cenedlaethol a rhyngwladol fel peirianwyr. Hefyd, mae yna gyfleoedd mewn cwmnïau corfforaethol mawrion fel rheolwyr yn ogystal â chwmnïau sy’n darparu gwasanaethau wedi’u hallffynonellu.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.