Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Mae'r flwyddyn gyntaf yn rhoi cyflwyniad i faterion ymarfer yn ymwneud â gweithio yn y system cyfiawnder cymunedol a deall ac ymgysylltu ag ymddygiad troseddol. Mae'r ystod o fodiwlau a wneir yn y flwyddyn gyntaf yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o achosion trosedd ar lefel gymdeithasol ac unigol ac yn archwilio gwaith yr asiantaethau sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol.
Modiwlau
Craidd
- Astudio mewn Addysg Uwch (Craidd): I gefnogi myfyrwyr ar gyfer dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol parhaus mewn addysg uwch.
- Cyflwyniad i Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol (Craidd): Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol Cyfiawnder Troseddol a'r Gyfraith i fyfyriwr. Bydd yn canolbwyntio ar gysyniadau allweddol megis diffiniad trosedd ac athroniaeth dedfrydu.
- Troseddau a Throseddwyr Arwyddol (Craidd): Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr wedi cael eu cyflwyno i drobwyntiau a dadleuon allweddol a gysylltir ag ymarfer cyfiawnder troseddol.
Dewisol
- Cyffuriau, Alcohol a Throsedd: I ystyried yr ystod a'r nifer o gyffuriau sy'n cael eu defnyddio a gwerthfawrogi cyd-destun cymdeithasol eu defnydd. Bydd yn cyflwyno myfyrwyr i adeiladu cymdeithasol y 'broblem cyffuriau'.
- Trosedd, Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol: Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i drosedd o fewn cyd-destun cymdeithasol, er enghraifft, tai, addysg ac iechyd.
- Cyflwyniad i Seicoleg Fforensig (Dewisol): I alluogi myfyrwyr i ymgyfarwyddo â phrif faterion sy'n gysylltiedig â Seicoleg Fforensig.
- Ymlyniad a Throsedd (Opsiwn): Mae'r modiwl hwn yn cymhwyso damcaniaeth ymlyniad i ddeall dull o weithredu sy'n ymdrechu i ddeall dylanwad perthnasoedd ar bersonoliaeth a datblygiad cymdeithasol. Mae'r modiwl yn herio ymagweddau ymchwil damcaniaeth ymlyniad sy'n archwilio'r profiadau niweidiol sydd fwyaf tebygol o arwain at weithredu cymdeithasol gwael ac ymddygiad troseddol.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Mae'r ail flwyddyn wedi'i chynllunio i adeiladu'n uniongyrchol ar y sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygwyd gan y myfyrwyr yn ystod blwyddyn un. Mae myfyrwyr yn astudio Cyfraith Droseddol ac mewn darlithwyr traddodiadol a theithiau maes lle bo modd e.e. i'r carchar ac i'r llys, mae myfyrwyr yn dysgu am faterion uwch mewn ymarfer effeithiol gyda mathau penodol o droseddwyr. Mae damcaniaeth droseddegol ac ymchwil yn cael eu harchwilio i ddechrau ar y broses o ddatblygu gallu'r myfyrwyr i feddwl yn ddamcaniaethol ac yn feirniadol am ymarfer cyfiawnder troseddol.
Modiwlau
Craidd
- Troseddeg: I alluogi myfyrwyr i ddeall y cysyniadau allweddol a'r dulliau damcaniaethol sydd wedi datblygu ac yn datblygu mewn perthynas â throseddu, erledigaeth ac ymatebion i droseddu a gwyredd.
- Cyfraith Droseddol a'r Broses Cyfiawnder Troseddol: Mae'r modiwl hwn yn darparu myfyrwyr â dealltwriaeth o natur a chyd-destun y gyfraith, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gyfraith droseddol. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r Broses Cyfiawnder Troseddol gan gynnwys - llysoedd a gwrandawiadau ar gyfer oedolion a phobl ifanc; theori ac ymarfer dedfrydu; carchar a chosbau yn y gymuned; a lle hawliau dynol yn y prosesau hyn.
- Gwahaniaeth Cymdeithasol ac Anghydraddoldeb: Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o berthynas dosbarth cymdeithasol, rhyw, hil, oedran, ethnigrwydd, iaith ac agweddau amlwg eraill ar amrywiaeth mewn perthynas ag erledigaeth trosedd ac ymatebion i ffenomena hyn.
- Cyfiawnder Troseddol mewn Ymarfer: Byddwch yn astudio yr asiantaethau cyfiawnder troseddol sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr ac yn dadansoddi'n feirniadol eu cyfraniad at y gwaith o reoli trosedd ac amddiffyn y cyhoedd.
- Dulliau Ymchwil: Byddwch yn dod i ddeall a gwerthfawrog'n feirniadol natur a defnydd priodol strategaethau a dulliau ymchwil mewn perthynas â materion trosedd, erledigaeth, ac ymatebion i droseddu a gwyredd.
Dewisol:
- Dysgu yn y Gweithle: Bydd y modiwl hwn yn rhoi mewnwelediad a phrofiad uniongyrchol i fyfyrwyr o ymarfer cyfiawnder troseddol proffesiynol a'i nod yw paratoi myfyrwyr i weithio mewn cyd-destunau proffesiynol.
- Trosedd ac Ymddygiad Troseddol: I ddarparu myfyrwyr â gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o ystod o droseddau ac ymddygiad troseddol cyfoes a gyflawnir o fewn y gymdeithas gyfoes.
- Gweithio mewn Lleoliadau Gwarchodol a Lleoliadau Cymunedol gyda phobl sydd wedi troseddu: Bydd y modiwl hyn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu am ac ymarfer y sgiliau sy'n hanfodol i weithio'n effeithiol gyda throseddwyr a lleiau'r risg o aildroseddu.
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Yn y flwyddyn olaf mae modiwlau'n datblygu galluoedd myfyriwr i gymhwyso safbwyntiau damcaniaethol a beirniadol i brosesau ac arferion cyfiawnder troseddol. Cynigir rhywfaint o ddewis yng nghyswllt y dewis o fodiwlau. Mae natur gymdeithasol-wleidyddol llunio polisi cyfiawnder troseddol yn cael ei harchwilio ac edrychir yn feirniadol ar y System Cyfiawnder Troseddol.
Yna gall myfyrwyr ddewis archwilio sut y gallai euogrwydd a diniweidrwydd gael eu trafod yn yr heddlu a'r llys, y cyfraniad y gallai seicoleg fforensig ei wneud i ddeall trosedd, cyfiawnder ieuenctid neu ymateb cyfiawnder troseddol amlasiantaeth i droseddu. Mae myfyrwyr hefyd yn cwblhau eu prosiect ymchwil eu hunain, gan archwilio maes sydd o ddiddordeb iddynt hwy eu hunain o dan oruchwyliaeth un o'r darlithwyr troseddeg profiadol yn yr adran.
ig.
Modiwlau
Craidd
- Prosiect Ymchwil: Cynhyrchu prosiect ymchwil annibynnol sy'n seiliedig ar ddata cynradd. Dadlau thesis wedi'i seilio ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o theori troseddeg, arfer da mewn ymchwil a pholisi cyfiawnder troseddol. Cyfosod yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gafwyd trwy gydol eu rhaglen troseddeg yn eu hastudiaethau israddedig.
- Rheolaeth, Cyfiawnder a Chosb: Gwerthusiad beirniadol o ddatblygiad cymdeithasol a hanesyddol cyfiawnder, dedfrydu a chosb a rheolaeth gymdeithasol.
Dewisol
- Gweithio Aml-Asiantaethol: Astudio asiantaethau cyfiawnder troseddol sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, dadansoddi'n feirniadol eu cyfraniad at y gwaith o reoli trosedd ac amddiffyn y cyhoedd.
- Cyfiawnder Ieuenctid: Archwilio yn feirniadol yr ystyron sydd ynghlwm wrth blentyndod, ieuenctid a throsedd a'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n troseddu.
- Terfysgaeth: I archwilio'r lluniad cymdeithasol cyfoes o derfysgaeth a'r goblygiadau ar gyfer y gymdeithas.
- Plismona Cymunedau Cyfoes: Nod y modiwl hwn yw archwilio natur esblygol plismona a materion cyfoes o ran plismona cymdeithas.
- Llunio Euogrwydd a Diniweidrwydd: Nod y modiwl hwn yw astudio'r cystrawennau cyfreithiol a chymdeithasol o euogrwydd a diniweidrwydd; I archwilio natur broblematig 'ffeithiau' a 'gwirionedd' mewn cystrawennau o euogrwydd a diniweidrwydd; I astudio lluniad euogrwydd a diniweidrwydd gan wahanol fathau o actor:cyhuddwyr, y sawl a gyhuddir, dyfarnwyr, y cyfryngau, ymchwilwyr, a'r cyhoedd ac i astudio detholiad o achosion sydd wedi mynd i dreial troseddol.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Cod UCAS: M240
Y gofynion mynediad academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 112 pwynt tariff UCAS tariff yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Myfyrwyr Rhyngwladol
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ewch i dudalen y gwledydd a dewiswch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthnasol.
Mae yna amrywiaeth o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs, gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, astudiaethau achos ac arholiadau. Bydd gofyn i chi wneud traethawd estynedig ar bwnc sydd o ddiddordeb ichi.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Defnyddir dulliau addysgu arloesol a hyblyg y gyda rhan o'r cwrs yn cael ei chyflwyno ar-lein. Mae darlithoedd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal dau ddiwrnod yr wythnos. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymweliadau â safleoedd sydd yn y gorffennol wedi cynnwys ymweliadau â Llys y Goron a Charchar.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ceir ystod rhagorol o gyfleoedd gyrfaol ym maes cyfiawnder troseddol a chymunedol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gyda’r heddlu a’r gwasanaethau prawf, cymorth i ddioddefwyr, y gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth troseddu ieuenctid ac asiantaethau cyffuriau ac alcohol, yn ogystal â swyddi yn y sector gwirfoddol.
Gallai ein gradd eich galluogi hefyd i symud ymlaen i gwrs pontio’r gyfraith petaech yn dymuno gwneud hynny, neu ddilyn llwybr gyrfaol hollol wahanol.
Os ydych eisiau parhau â’ch astudiaethau, efallai y byddech yn hoffi fynd ymlaen i wneud yr MA mewn Troseddeg a Chyfiawnder Trosedddol
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.