Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Mae blwyddyn 1 yn cyflwyno sgiliau damcaniaethol ac ymarferol gan y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm datblygu gêmau bach ac yn dysgu hanfodion rheoli cynhyrchu ynghyd ag adeiladu gwybodaeth o ddylunio a datblygu 2D & 3D. MMae mathemateg a rhaglennu hefyd yn chwarae rhan bwysig, ynghyd â dealltwriaeth o'r caledwedd a ddefnyddir ar gyfer chwarae gêmau a'r cyfryngau.
Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destun ehangach datblygu gêmau a'r materion allweddol sy'n wynebu'r diwydiant heddiw.
Modiwlau
- Dylunio Rhyngweithiol
- Mathemateg Cyfrifiadura
- Egwyddorion Cyfryngau Digidol
- Systemau Cyfrifiadurol
- Datrys Problemau gyda Rhaglennu
- Datblygiad Personol mewn Cyfrifiadura: Peirianneg Gwybodaeth
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Blwyddyn 2 yn adeiladu ar ac yn ehangu eich portffolio o sgiliau a gwybodaeth, gan ychwanegu at eich sgiliau cerflunio a modelu digidol, ynghyd â dylunio a chynhyrchu sain ar gyfer gemau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddylunio a datblygu apps ar gyfer Android a llwyfannau symudol eraill.
Yn allweddol, yn ystod yr ail semester, byddwch yn gwella eich sgiliau datblygu a rheoli ymhellach drwy weithio ar ddau brosiect gêmau grŵp sylweddol gan ddefnyddio methodolegau rheoli ac offer cefnogi safon diwydiant.
Modiwlau
- Technoleg Gêmau Difrifol
- Modelu ac Animeiddio 3D
- Technoleg Sain ar gyfer Gêmau
- Datblygu Cymwysiadau Rhyngrwyd a Symudol
- Gweithredu Prosiect Grŵp
- Dylunio Prosiect Grŵp
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Mae Blwyddyn 3 yn ehangu ymhellach ar y sgiliau blaenorol a gafwyd, gan ganolbwyntio ar ansawdd a rheolaeth broffesiynol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol uwch.
Mae'r prosiect grŵp arloesol yn y flwyddyn olaf wedi ei gynllunio i ddatblygu'ch dealltwriaeth o'ch rôl a'ch cyfrifoldebau fel datblygwr proffesiynol, sy'n yn eich paratoi ymhellach ar gyfer y gweithle. Byddwch yn ffurfio tîm datblygu gêmau ac yn arbenigo mewn rôl dechnegol o'ch dewis am flwyddyn academaidd lawn. Byddwch chi a'ch tîm yn cyflwyno'r gêm orffenedig yn y digwyddiad gêmau blynyddol a fynychir gan aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr diwydiant.
Mae gennym gysylltiadau diwydiant cryf ac mae ein modiwlau blwyddyn olaf yn cael eu cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygiad gyrfa i'ch paratoi ar gyfer y trawsnewid o raddio i waith llawn amser.
Modiwlau
- Prosiect
- Datblygu Symudolion Uwch
- Technoleg Gydweithredol
- Modelu ac Animeiddio 3D Uwch ar gyfer Gêmau
- Cyfrifiadura yn yr 21fed Ganrif
Blwyddyn 4 (Lefel 7)
Blwyddyn 4 yw blwyddyn olaf y rhaglen gradd Feistr integredig - bydd gofyn i chi gwblhau traethawd hir ac mae'r modiwlau yn canolbwyntio ar ymchwil pellach a thechnolegau uwch.
Gyda chysylltiadau diwydiant cryf, bydd modiwlau hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar ddatblygiad gyrfa er mwyn mynd â'ch sgiliau i'r cam nesaf.
Modiwlau
- Traethawd Hir MComp
- Astudiaeth Uwchraddedig a Dulliau Ymchwil
- Technolegau Newydd a’r Dyfodol
- Datblygu Cymwysiadau Symudol a’r Rhyngrwyd
- Deallusrwydd Artiffisial Uwch
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
MComp Datblygu Gêmau Cyfrifiadurol
UCAS Code: 57KS
Gofynion academaidd y cwrs yw 120 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Mae myfyrwyr datblygu gêmau'n cael eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod eu hastudiaethau israddedig. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol fathau o asesiad yn cael ei bennu ganwahanol nodau a chanlyniadau dysgu'r modiwlau.
Mae dulliau asesu yn cynnwys cynhyrchu gêmau digidol (a heb fod yn ddigidol), ysgrifennu adroddiadau technegol ac academaidd, casglu a dadansoddi data cynhyrchu, rhoi cyflwyniadau, ysgrifennu cod, cynhyrchu modelau 3D a ffeiliau sain.
Ar lefelau uchaf y cwrs, bydd hefyd gofyn i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth ystadegol o oriau gwaith gyda thystiolaeth ategol fel rhan o'r canlyniadau asesu allweddol.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o'r holl fodiwlau, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy ddefnyddio offer rheoli digidol fel Jira, a thrwy'r adborth a roddir i fyfyrwyr, sy'n cymryd sawl ffurf gan gynnwys grwpiau bach a thrafodaethau un-i-un.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ar ôl i chi gwblhau'r rhaglen MComp yn llwyddiannus, bydd eich sgiliau ymarferol mewn rhaglennu, modelu 3D, dylunio gemau a rheoli prosiect yn golygu eich bod yn gymwys i weithio mewn amrywiaeth o rolau o fewn y diwydiant hwn.
Mae ein graddedigion hanes da o ran cael eu cyflogi, gan fynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus fel rhaglenwyr gêmau, artistiaid/animeiddwyr technegol gemau, dylunwyr/datblygwyr lefel, cynhyrchwyr neu feistri sgrym, a dylunwyr/datblygwyr appiau.
O ystyried y sgiliau technegol a ddatblygir ar y cwrs, mae rhai graddedigion yn dewis ddilyn gyrfaoedd mewn sawl maes cyfrifiadura prif ffrwd fel cymorth TG, rhaglennu a datblygu technegol, ymgynghoriaeth a'r rhyngrwyd a datblygu cymwysiadau e-fasnach.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.