Nodau penodol y rhaglen Nyrsio Ardal yw ehangu dealltwriaeth y myfyriwr o brif agweddau nyrsio ardal gan gynnwys datblygu gwybodaeth fanwl a chydlynol ar flaen y gad o ran gofal. Bydd y cwrs yn paratoi myfyrwyr i astudiaethau ac ymarfer cymwys ar lefel arbenigol ym maes nyrsio ardal er mwyn bodloni Safonau ar gyfer Ymarfer Arbenigol (2001) Y CNB.
Modiwlau
- Sylfeini Ymarfer Cymunedol - Bydd y modiwl Sylfeini Ymarfer Cymunedol yn galluogi ymarferwyr cofrestredig i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau datrys problemau hyd at bwynt lle gallant ymarfer yn gymwys mewn lleoliad cymunedol.
- Proses Ymholi - Nod y modiwl Proses Ymholi yw rhoi mewnwelediad i'r myfyriwr ar egwyddorion amrywiaeth o ddulliau ymchwil tra'n annog meddwl beirniadol ac ysgogi datblygiad ymarfer sy'n seiliedig ar ymchwil.
- Portffolio Clinigol - Bydd y modiwl Portffolio Clinigol yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag adfyfyiobeirniadol yn ystod eu lleoliad cymunedol ac i archwilio eu hymarfer proffesiynol a'u datblygiad personol.
- Rhagnodi Nyrsio Cymunedol (V100) - Nod y modiwl Rhagnodi Nyrsio yw paratoi nyrsys cymunedol i ragnodi yn ddiogel, yn briodol ac yn gost effeithiol o Gyffurlyfr Nyrsys sy'n Rhagnodi ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol.
- Asesu Anghenion Cymhleth - Bydd y modiwl Asesu Anghenion Cymhleth yn paratoi myfyrwyr i ddelio â sefyllfaoedd gofal cymhleth yn systematig ac yn greadigol ac i ffurfio barn gadarn o fewn ffiniau eu disgyblaeth eu hunain
- Rheoli Ymarfer Arbenigol Cymunedol - Bydd y modiwl Rheoli Ymarfer Arbenigol Cymunedol yn sicrhau bod gan y myfyrwyr wybodaeth greiddiol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth yng nghyd-destun ymarfer nyrsio ardal.
- Arloesi mewn Ymarfer Cymunedol - Bydd y modiwl Arloesi mewn Ymarfer Cymunedol yn datblygu gallu'r myfyrwyr i arwain a rheoli tîm nyrsio ardal trwy gydnabod yr angen am newid a a thrwy ddylunio a chynllunio rhywbeth newydd sy'n adlewyrchu yr anghenion yn yr ardal. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi'r myfyrwyr i ledaenu'r arfer da hwn.
- Cyfnerthu Ymarfer (Gofyniad y CNB) - Bydd myfyrwyr yn cwblhau'r modiwl hwn ar ddiwedd eu hastudiaethau, a bydd yn eu galluogi i reoli baich achosion bychan o gleifion fel paratoadar gyfer cychwyn ar eu rôl newydd fel Nyrs Ardal. Bydd y myfyrwyr yn teimlo'n gwbl barod ar ôl gweithio tuag at fedrau'r CNB dros gyfnod hir o amser.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn mae'n ofynnol:
- Bod gennych gofrestriad cyfredol fel nyrs (rhant 1) gyda CNB y DU a'ch bod wedi'ch addysgu hyd at o leiaf lefel diploma.
- Eich bod yn gallu ddarparu tystlythyr boddhaol gan gyflogwr/rheolwr llinell cyfredol.
- Eich bod yn gallu ddarparu hunan-ddatganiad o iechyd a chymeriad da, a, lle y bo'n ofynnol, ymgymryd ag asesiad iechyd galwedigaethol boddhaol.
- Bod gennych drwydded gyrru DU cyflawn.
Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y graddau hyn, gofynnir i chi gwblhau ffurflen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio eich bod yn addas i weithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed.
Cynigir cyfweliad i bob ymgeisydd sy'n bodloni'r meini prawf mynediad.
Mae myfyrwyr Nyrsio Ardal yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod eu hastudiaethau. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol fathau o asesiad yn cael ei bennu gan y gwahanol amcanion a chanlyniadau dysgu sydd gan y modiwlau.
Mae'r dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau academaidd, astudiaethau achos, cyflwyniadau poster ac arholiadau. Gan fod y rhaglen am ddysgu mewn ymarfer, mae gan bob myfyriwr bortffolio clinigol sy'n cael ei gwblhau wrth i'r myfyrwyr fynd ymlaen drwy'r modiwlau. Dyrennir mentor/mentor llofnodi ar gwblhau mewn ymarfer a fydd yn asesu eich cymhwysedd yn erbyn Safonau Ymarfer Arbenigol ar gyfer Nyrsio Ardal y CNB.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen Ymarfer Arbenigol Cymunedol, gellir cofnodi'r cymhwyster Nyrsio Ardal gyda'r CNB. Bydd y cymhwyster a chwenychir hwn yn eich galluogi i wneud cais am swyddi Band 6 ym maes Nyrsio Ardal a bydd yn cynyddu cyfleoedd mewn Nyrsio Cymunedol yn gyffredinol.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau a Holir yn aml y tudalennau hyn.
Cysylltwch â'r arweinydd rhaglen i drafod y posibilrwydd o gael eich ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen hon.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.