-
Prif Nodweddion y Cwrs
-
- Mae gennym sawl cysylltiad â diwydiant: Toyota a Polybush yw rhai o'r cwmnïau yr ydym yn cydweithio'n agos â nhw
- Cewch ddefnyddio gweithdy chwaraeon modurol arbenigol yn ogystal â gweithdy cynhyrchu safon diwydiant er mwyn datblygu profiad o ddefnyddio peiriannau.
- Cewch chi fynediad at brosiectau amrywiol (mae prosiectau'n newid drwy'r amser - yn destun newid - ar hyn o bryd Alfa 159 Rasio Glyndwr, car rasio MX5, Westfield ymhlith llawer o rai eraill). Mae myfyrwyr hefyd yn rhedeg tîm Fformiwla Myfyrwyr ar hyn o bryd.
- Bydd gennych oruchwyliwr personol i oruchwylio eich cynnydd academaidd a'ch lles personol.
-
Beth y byddwch yn ei astudio?
-
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth allweddol yn cael ei adolygu a'i ehangu ar y cam hwn. Mae'r holl ddarlithoedd yn cael eu dilyn gan diwtorialau a sesiynau ymarferol / arddangosiadau i sicrhau eich bod wedi cymathu'r wybodaeth yn llawn.
Modiwlau
- Gwyddoniaeth Fecanyddol
- Gwyddoniaeth Drydanol
- Dulliau a Deunyddiau Labordy
- Mathemateg Peirianneg
- Cyflwyniad i Ddylunio ac Ymarfer Peirianneg
Yn ogystal â modiwl dewisol o'r canlynol:
- Systemau Ceir Perfformio
- Systemau Mecanyddol
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Ar y lefel hon, mae'r tîm addysgu yn dechrau annog myfyrwyr i weithio a dysgu wrth eu hunain. Nid ydym yn eich paratoi i fod yn ymarferydd gwybodus yn unig, rydym yn eich paratoi i ddod yn rhywun sy'n datrys problemau dibynadwy ac annibynnol.
Modiwlau
- Busnes a Datblygu Ymchwil
- Motor Tanio Mewnol: Damcaniaeth a Thechnoleg
- Dylunio Modurol
- Mathemateg Peirianneg Pellach
- Dynameg Peirianneg a Mecanweithiau a Dylunio Peirianneg
- Strwythurau, Methiant Dadansoddiad ac Dadansoddiad Elfen Cyfyngedig (FEA)
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Dyma flwyddyn olaf y radd Baglor. Yn gyffredinol, mae'r semester cyntaf yn canolbwyntio ar ddatblygu'r wybodaeth fodurol benodol. Bydd eich prosiect unigol yn eich galluogi i arbenigo ymhellach i faes o'ch dewis. Ar ddiwedd hyn, byddwch yn beiriannydd graddedig yn barod ar gyfer diwydiant!
Modiwlau
- Siasis, Peiriannau a Mechanweithiau Gyriant Ceir Perfformio
- Dadansoddi a Strwythurau Dirgryniad
- Aerodynameg a CFD
- Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth
- Prosiect blwyddyn olaf (traethawd hir unigol)
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
Gofynion Mynediad a Gwneud Cais
-
BEng (Anrh)Peirianneg Fodurol
Cod UCAS: H431
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
Cod UCAS: H331
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
-
Asesu
-
Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu; mae'r rhain yn cynnwys ymarferion seiliedig ar dasgau, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl trwy amrywiaeth o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig prosiect yn un o rannau terfynol eich asesiad.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinir gan fyfyrwyr a gwaith ymchwil dan arweiniad.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o'r holl fodiwlau, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc penodol a'u sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy'r adborth a roddir i fyfyrwyr.
-
Rhagolygon Gyrfaol
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae’r amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau gyrfa sydd ar gael i chi pan fyddwch yn graddio yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ceir a’u rhwydwaith gyflenwi, ymchwilio a datblygu cerbydau modur, ymgynghori, rheoli peirianneg, dylunio moduron, yn ogystal ag yn y diwydiant chwaraeon modur.
Mae prinder cenedlaethol o beirianwyr electronig sydd â chymwysterau llawn yn y diwydiant peirianneg moduron; drwy fod â gradd mewn technoleg electroneg cerbydau byddwch yn rhagori ar y rhelyw pan ddaw hi i chwilio am waith.
Mae cyfleoedd yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):
- dynameg car rasio
- electroneg chwaraeon modurol
- peirianneg y ffrâm
- strwythurau ceir rasio
- technolegau electronig
- peiriannau perfformio
Bydd y radd hon sydd wedi'i hachredu'n llawn hefyd yn eich galluogi i gyflawni unrhyw swydd sy'n gysylltiedig â pheirianneg fecanyddol.
-
Ffioedd a Chyllid
-
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hyn.
-
Manyleb y Rhaglen
-
Ceir manyleb y rhaglen lawn yma.
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.
-
DILYSIAD CWRS
-
*Yn amodol ar ail-achredu Pan gaiff cwrs ei ailddilysu, rhaid ei ailachredu hefyd. Rhaid hefyd o bryd i'w gilydd adnewyddu achrediad cyrsiau cyfredol. Mae'r manylion sydd ar y wefan yn seiliedig ar achrediad fersiwn flaenorol neu gyfredol y cwrs, a chaiff y diweddariadau a ragwelir eu gwneud cyn gynted ag y byddant yn hysbys. Cymeradwyir y rhan fwyaf o gyrsiau sy'n ' amodol ar ailachredu' yn ôl y disgwyl, ond nid oes sicrwydd am hyn ac os na chaiff yr achrediad ei gymeradwyo fel y cynlluniwyd, neu ei ddiwygio'n sylweddol neu ei oedi, byddwch yn cael gwybod gan y brifysgol. Bydd y cwrs yn dal i redeg, ond bydd cymorth yn cael ei ddarparu i'r bobl sydd wedi cael cynnig lle i ddod o hyd i gwrs addas arall naill ai ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam neu gyda darparwr arall, os nad yw ymgeiswyr yn dymuno parhau heb achrediad.