-
Prif Nodweddion y Cwrs
-
- *1af yng Ngymru ac yn 10 cyntaf y DU am foddhad cyffredinol ac addysgu, Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2019
- Cewch eich addysgu gan dîm ymroddedig o ymarferwyr ymchwil-weithredol sy’n arddangos eu gwaith eu hunain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Gweithio ar brosiectau byw, exhibitions, cystadleuthau a chomisiynau ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat; bydd hyn yn rhoi’r hyder i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, er enghraifft, wrth fynd â’ch gwaith i orielau a llefydd manwerthu.
- Mae’r ffocws ar ddatblygu eich sgiliau busnes mewn meysydd megis prisio, cyhoeddusrwydd a marchnata; mae arholwyr allanol yn ein canmol yn gyson am ba mor dda y mae ein myfyrwyr wedi cael eu paratoi ar gyfer bywyd proffesiynol.
- Cysylltiadau masnachol da a chysylltiadau gwych gydag orielau, gyda'r ffocws ar sgiliau crefft i'ch galluogi i ddod yn wneuthurwyr o'r radd flaenaf.
- Teithiau maes ac ymchwil i orielau a chasgliadau, arddangosfeydd, gwyliau a seminarau dylunio cenedlaethol a rhyngwladol o bwys ac astudio tramor drwy Gynllun Erasmws –mae gennym gysylltiadau gyda Ffrainc, Bwlgaria, y Ffindir, Sbaen, yr Academi Gelf Bwylaidd yn Katowice.
-
Beth y byddwch yn ei astudio?
-
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Yn eich cyflwyno i'r ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau mewn Celfyddydau Cymhwysol, lle cewch y cyfle i weithio ar draws yr holl feysydd deunyddiau, gan arbrofi gyda gwydr, cerameg, metel a chyfryngau cymysg.
Modiwlau:
- Hanes a Chyd-destun
- Dyfodol Creadigol 1
- Cyfathrebu Gweledol
- Archwilio Deunyddiau
- Proses Crefft
- Deunydd ac Iaith
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Ehangu'ch sgiliau credu yn eich prif ddewis deunyddiau, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am ddeunyddiau sgiliau crefft sy'n eich gallugi i ddatblygu eich arddull creadigol eich hunan. Datblygir hefyd drwy brosiectau ymarfero brif sgiliau proffesiynol deall marchnadoedd, cyhoeddusrwydd a phrisio.
Modiwlau:
- Meddwl yn Feirniadol
- Dyfodol Creadigol: Gwneud Bywoliaeth
- Ymarfer Estynedig (Celfyddydau Cymhwysol)
- Ymarfer Celf
- Ymarfer mewn Cyd-destun
- Astudiaeth Arbenigol (Celfyddydau Cymhwysol)
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Yn eich galluogi i wireddu'ch syniadau yn y cyfeiriad o'ch dewis, gyda myfyrwyr yn datblygu eu themâu unigol eu hunain i gynhyrchu casgliadau, gan ddangos sgiliau gwneud a datrysiadau dylunio arloesol o ansawdd uchel.
Modiwlau:
- Traethawd hir
- Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
- Ymarfer Drafodedig
- Prosiect Gradd Celf Gymhwysol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
-
Gofynion Mynediad a Gwneud Cais
-
BA (Anrh) Dylunio: Celfyddydau Cymhwysol
Côd UCAS: W201
Y gofynion academaidd ar gyfer BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Mae tîm y rhaglen Celfyddydau Cymhwysol yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.
Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad am eich cymhwyster.
Myfyrwyr Rhyngwladol - BA (Anrh) Dylunio: Celfyddydau Cymhwysol
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ewch i dudalen y gwledydd a dewiswch eich gwlad i weld y gofynion mynediad academaidd ac iaith Saesneg perthnasol.
-
Asesu
-
Asesir yn bennaf trwy waith ymarferol a gwaith dylunio megis maquettes, llyfrau braslunio, samplau, a gwrthrychau gorffenedig. Cyflwynir y gwaith i diwtoriaid, a rhoddir atborth llafar ar unwaith, wedi’i ddilyn gan atborth ysgrifenedig mwy eang.
Fe’ch asesir ar gyfer pob modiwl. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i fonitro cynnydd a gellir eu cynnal unrhyw adeg. Mae’r rhain yn cynnwys graddoli band, ynghyd â sylwadau arfarnol a thiwtorial atborth os yn briodol. Ni chwblheir y graddoli tan ddiwedd y flwyddyn, pan fydd gwaith yn cael ei adolygu a’i safoni gan arholwr allanol.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6. Mae cyfleusterau'r gweithdai ar agor ac wedi eu staffio 5 niwrnod yr wythnos ac mae gan fyfyrwyr fynediad parhaus.
-
Rhagolygon Gyrfaol
-
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae galw mawr o hyd am ddylunwyr a all ymateb yn greadigol i broblemau celf a dylunio cymhwysol.
Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys addysg, gwaith adfer, amgueddfeydd a manwerthu. Mae cyfan uchel yn mynd mlaen i weithio mewn neu sefydlu eu horielau eu hunain.
Mae graddedigion eraill yn gweithio mewn busnesau celfyddydau cymhwysol, gweithio'n hunangyflogedig fel artistiaid, technegwyr, dylunwyr neu grefftwyr, neu hyd yn oed sefydlu eu busnesau gwneuthur eu hunain.
Mae cyfleoedd hefyd i chi wneud astudiaethau pellach ar lefel MA neu’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).
-
Ffioedd a Chyllid
-
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2020/21, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hyn.
-
Manyleb y Rhaglen
-
Gallwch chi edrych ar fanyleb lawn y rhaglen yma.
-
Llety
-
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.