Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r cysyniadau mewn bioleg a lles anifeiliaid y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich cwrs. Byddwch hefyd yn ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith i'ch galluogi i ymgynefino â'r sector anifeiliaid. Mae sgiliau labordy yn hanfodol i wyddoniaeth a byddwch yn derbyn sylfaen yn y rhain.
Modiwlau
Cysyniadau Biolegol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o brif egwyddorion bioleg anifeiliaid, pathogenau biolegol, sgiliau labordy a strwythur a gweithrediad anatomegol. Ymdrinnir â tharddiad a dosbarthiad bywyd ynghyd â strwythur a gweithrediad celloedd a meinweoedd. Bydd prif organau a systemau corff anifeiliaid hefyd yn cael eu cyflwyno.
Hwsmonaeth: Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o hwsmonaeth anifeiliaid ac mae'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu profiad ymarferol gydag ystod eang o rywogaethau anifeiliaid. Bydd darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau â sefydliadau anifeiliaid lleol yn galluogi myfyrwyr i atgyfnerthu eu profiadau ymarferol â damcaniaethau hwsmonaeth priodol. Gwneir defnydd o ddeunyddiau astudiaethau achos a siaradwyr gwadd.
Ethology a Anthrosŵoleg: Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio i sail fiolegol ymddygiad naturiol, a gwerthuso'r berthynas rhwng ymddygiad naturiol a lles anifeiliaid mewn caethiwed. Bydd myfyrwyr yn gwneud astudiaeth ymarferol o anifail caeth a thrafod y cysylltiad rhwng lles anifeiliaid a'r amgylchedd caeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio ystod o gydberthnasau dynol ac anifeiliaid a'r gost a'r manteision sy'n gysylltiedig â rhyngweithiadau hyn.
Moeseg a Lles: Nod y modiwl hwn yw ymchwilio i faterion cyfoes ym maes lles anifeiliaid a chyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o faterion moesegol perthnasol. Bydd amrywiaeth o faterion lles cyfoes yn cael eu cloriannu yn ystod y modiwl. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu gweithdai a'u seminarau eu hunain.
Datblygiad Academaidd a Phersonol: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â diwylliant addysg uwch, er mwyn adeiladu ar y sgiliau allweddol (rhesymegol, mathemategol a beirniadol) sydd eu hangen i astudio'n llwyddiannus mewn addysg uwch.
Ymarfer Proffesiynol: Astudir ystod o gyfleoedd gyrfaol a heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth o fewn y sector anifeiliaid yn y modiwl hwn. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u cymwyseddau mewn lleoliad yn y gweithle o'u dewis.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Yn yr ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth a gawsoch yn y flwyddyn gyntaf a datblygu'ch dealltwriaeth o amrywiaeth o bynciau'n fwy manwl. Mae atgyfnerthu eich sgiliau cyflogadwyedd o bwys arbennig mewn Gradd Sylfaen. Byddwch yn gwneud prosiect cymhwysol fel ymgynghoriaeth â sefydliad a dysgu sgiliau ymchwil ac ysgrifennu adroddiadau o fewn methodolegau ymchwil.
Modiwlau
Methodolegau ymchwil: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall rôl ymchwil perthnasol o fewn maes astudiaethau ceffylau. Yn ogystal, bydd yn eich arfogi â'r gallu i gynllunio prosiect ymchwil yn eich maes astudio, i ddiffinio paramedrau ymchwil, asesu methodolegau priodol, a chyflwyno eich canfyddiadau. Byddwch yn dysgu sut i archwilio ac asesu pa mor briodol yw gwahanol fethodolegau ymchwil i wahanol briffiau ymchwil a dod yn ymwybodol o faterion moesegol a gwleidyddol mewn ymchwil gymdeithasol.
Ymarfer cymhwysol
Anatomeg a Ffisioleg: Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr â gwybodaeth ymarferol o anatomeg topograffig a ysgerbydol ac i'w galluogi i adnabod tirnodau anatomegol. Byddwch yn dysgu sut i gysylltu strwythur anatomegol â gweithred ac i ddatblygu ymhellach eich sgiliau labordy ymarferol
Dysgu a Hyfforddiant: Yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol o egwyddorion damcaniaethau dysgu fel y'i cymhwysir i anifeiliaid. Byddwch yn cysylltu dysgu anifeiliaid ag ymarferion hyfforddi ac yn ysgrifennu ac yn gweithredu eich cynllun eich hunan i hyfforddi anifail i gwblhau tasg. Byddwch hefyd yn gwerthuso dulliau hyfforddi traddodiadol a chyfoes ac offer cysylltiedig.
Sgiliau Arolygu ar gyfer Cadwraeth:Bydd y modiwl Sgiliau Arolygu ar gyfer Cadwraeth yn arfogi myfyrwyr â'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ystod o arolygon ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid. Bydd y myfyrwyr yn nodi ac yn arolygu ystod o rywogaethau anifeiliaid amrywiol, ac yn dadansoddi ac yn dehongli'r data a gesglir. Datblygir y sgiliau hyn drwy waith maes ymarferol, megis yn ystod ymweliadau â gwarchodfeydd natur a choetiroedd lleol.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
48 pwynt tariff UCAS o lefel safon Uwch/UG, Diploma Cenedlaethol neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried. Croesewir cymhwyster sy'n ymwneud ag anifeiliaid, megis Diploma Cenedlaethol mewn Rheoli Anifeiliaid neu gymwysterau safon Uwch2 sy'n gysylltiedeig â gwyddoniaeth. Yn ogystal 4 TGAU gradd C neu uwch (gan gynnwys Gwyddoniaeth, Saesneg a Mathemateg) neu gyfatebol.
Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau safonol ond a all ddangos eu gallu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.
Mae mynediad i'r ymgeiswyr hyn yn dibynnu ar asesiad o'u profiad blaenorol, cyfweliad llwyddiannus, tystlythyrau ac asesiad diagnostig i benderfynu eu haddasrwydd i'r cwrs. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad yn hanfodol.
Côd UCAS: FdSc Astudiaethau Anifeiliaid D300
Côd UCAS: FdSc Astudiaethau Anifeiliaid (tair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen) 85D4
Noder y bydd UCAS yn defnyddio tariff newydd i gyrsiau sy'n cychwyn Medi 2017.
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.
Mae'r cwrs yn cynnwys ystod o fodiwlau sy'n cael eu hasesu gan waith cwrs damcaniaethol ac mewn rhai achosion ymarferol. Mae'r mathau o asesiadau'n cynnwys, portffolios, posteri, adroddiadau labordy, traethodau, cyflwyniadau, seminarau, arholiadau ymarferol, arholiadau ysgrifenedig a dyddiaduron adfyfyriol.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymroddedig i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r rhaglen FdSc mewn Astudiaethau Anifeiliaid yn cynnwys dulliau dysgu ac addysgu amrywiol yn y dosbarth, lleoliadau a sesiynau ymarferol a gyflenwir yn y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Darlithoedd ac arddangosiadau
- Seminarau a gweithdai
- Tiwtorialau
- Gwaith grŵp a phrosiect
- Adroddiadau adfyfyriol
- Siaradwyr allanol
- Ymweliadau addysgiadol a diwrnodau astudio
- Sesiynau a arweinir gan diwtor a myfyrwyr
- Gwerthuso beirniadol
- Datblygu portffolio
- Lleoliadau gwaith
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfleoedd gyrfaol yn y diwydiant gofal anifeiliaid yn eang. Gallwch fod yn gweithio mewn sefydliadau lles anifeiliaid, cadwraeth, swau a parciau bywyd gwyllt, milfeddygfeydd, cwmnïau bwyd anifeiliaid a chwmnïau milfeddygol neu fferyllol.
Mae cyfleoedd i ymgymryd ag astudiaethau pellach ar gael hefyd, megis mynd ymlaen i wneud cymhwyster dysgu neu ymchwil ar lefel ôlraddedig.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2019/20, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hyn.
Gallwch edrych ar fanyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.