Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Er y byddwch yn astudio modiwlau busnes a marchnata craidd yn y flwyddyn gyntaf, rydym yn eich galluogi i ganolbwyntio ar bynciau cyfrifeg a chyllid yn fuan. Byddwch yn astudio economeg, dadansoddeg ariannol a data a chyflwyniad i farchnadoedd ariannol. Ym mlwyddyn dau a thri byddwch yn arbenigo mewn naill ai cyfrifeg neu gyllid a bydd eich dewisiadau modiwl yn cynnig dyfnder sylweddol o arbenigedd.
Byddwch yn cyflwyno ymarferwyr busnes i'ch amserlen dysgu a fydd yn rhoi ciplowg ichi ar y sefyllfaoedd a'r heriau yn y byd go-iawn y maen nhw'n dod ar eu traws ym myd busnes. Wrth ichi ddatblygu, bydd eich hyder a'ch ymwybyddiaeth yn cynyddu a byddwch yn ein gadael ni'n barod i fynd i mewn i fyd busnes.
Modiwlau
- Cyflwyniad i Gyfrifeg Ariannol
- Sgiliau Cyfathrebu Busnes ar gyfer Marchnata
- Economeg
- Busnes a Chyllid mewn Ymarfer
- Dadansoddeg Data ac Ariannol a Deall ‘Data Mawr’
- Hanfodion Marchnata
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Modiwlau
MODIWLAU CRAIDD
- Cyfrifeg Rheoli Uwch
- Rheolaeth Adnoddau Dynol ar gyfer Busnes
- Ymgysylltu ac Arwain Pobl
- Cyfraith Busnes
- Technolegau sy'n galluogi a chyfleoedd busnes ym maes cyllid
MODIWLAU DEWISOL
- Lleoliad gwaith 2
- Prosiect seiliedig ar waith
Blwyddyn 3 (Level 6)
Modiwlau
MODIWLAU CRAIDD
- Meddwl yn Strategol
- Rheolaeth Ariannol Uwch
- Cyllid Strategol
- Traethawd Estynedig
MODIWLAU DEWISOL
- Rheolaeth Adnoddau Dynol Rhyngwladol
- Cynaliadwyaeth a Thwf Busnes
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
BA (Anrh) Cyfrifeg a Cyllid*
Côd UCAS: 4J68
Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs yw 112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Level UG a Sgiliau Allweddol 3 priodol eu hystyried hefyd.
Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.
Myfyrwyr Rhyngwladol - BA Cyfrifeg a Chyllid*
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ewch i'n tudalen gwledydd a dewis eich gwlad i gael gweld y gofynion mynediad academaidd a Saesneg perthasnol.
Yn rhan o'n ymroddiad i baratoi ein graddedigion at y gweithle proffesiynol, rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu gwahanol ddulliau asesu sy'n cynnal trylwyredd academaidd, ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr eu datblygu eu hunain mewn ffyrdd amrywiol. O ganlyniad, yn y rhan fwyaf o'r modiwlau, caiff myfyrwyr eu hasesu gan ddulliau megis arholiadau traddodiadol, arholiada llafar, gwerthuso astudiaethau achos, cyflwyniadau, ysgrifennu blog ac ysgrifennu adroddiadau rheoli.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a'r Zon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r galw am raddedigion gyda'r radd hon o fantais i chi yn y farchnad swyddi. Mae'r cwrs hwn yn llwybr delfrydol at yrfa mewn cyfrifeg, cyllid, rheolaeth, bancio, cyllid personol a chorfforaethol a TG - mewn sefydliadau sector preifat a chyhoeddus. Mae ein graddedigion yn Gyfrifwyr, Archwilwyr, Dadansoddwyr Busnes, Ymgynghorwyr Buddsoddi, Rheolwyr Stoc, Cynorthwywyr Treth ac Athrawon.
Mae ein lleoliad gwaith yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu eu CV, adeiladu perthynas gorfforaethol a gwella eu hyder mewn amgylchedd proffesiynol. Rydym yn annog ein holl fyfyrwyr busnes i wneud lleoliad yn rhan o'u hastudiaethau ac yn ymdrechu i ddod o hyd i sefydliad perthnasol i bawb sydd â diddordeb.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ar gyfer 2019/20, bydd ffioedd hyfforddi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn £9,000 y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amser.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn cael hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'ch ffioedd yn talu amdano yn adran Cwestiynau Cyffredin y tudalennau hyn.
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
Gall y rhai sy’n astudio yn ein campws Ffordd Yr Wyddgrug ddewis rhwng Pentref Wrecsam neu Neuadd Snowdon, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.