
Hyfforddiant Awyrennau Di-beilot
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i'r rhai sy'n awyddus i fynd i'r sector diwydiant hwn neu sydd yn dymuno datblygu dealltwriaeth drylwyr o Technoleg UAS.
Bydd yn helpu i adeiladu'ch hyder fel gweithiwr awyrennau di-beilot, gan eich galluogi i ymgymryd â theithiau awyren ddi-beilot gan wybod eich bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol perthnasol. Yn ystod y cwrs hwn, cewch gynnig y cyfle i hyfforddi ar gyfer tystysgrif Awdurdod Hedfan Sifil [CAA] Caniatâd ar gyfer Gweithrediadau Masnachol (PfCO) ar gyfer Awyrennau Di-beilot Bach.
Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn astudio:
- Cyfraith a Chyfrifoldebau'r Awyr
- Egwyddorion Gweithredu Gofod Aer UAS
- Diogelwch Awyrenwriaeth a Hedfan Awyrennau
- Ffactorau Dynol
- Meteoroleg
- Siartiau Llywio
- Gwybodaeth Awyrennau
- Gweithdrefnau Gweithredu
Hyd y cwrs
Amgylchedd Dysgu Rhithwir chwe wythnos (VLE) gyda 3 diwrnod o fynychu'r campws.
Dyddiadau'r cwrs
Bydd y cwrs yn rhedeg dair gwaith y flwyddyn dros fisoedd Awst, Hydref, Ebrill a Mehefin.
- Dydd Llun, Ebrill 17 - Dydd Mercher, Ebrill 19 2018
- Dydd Mercher, 26 Mehefin - Dydd Gwener, Mehefin 28 2019
Lleoliad
Campws Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Credydau
20
Asesu
- Arholiad aml-ddewis
- Adroddiad Taith Ysgrifenedig
- Arddangosiadau ymarferol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill trawsgrifiad cwblhau modiwl ENG 481 PGW a thystysgrif cymhwysedd peilota awyren ddi-beilot a gyhoeddir gan Endid Cymwys Cenedlaethol (NQE) y CAA .
Ffioedd
£595
I Archebu'ch lle
I gadw'ch lle ewch i'r siop ar-lein.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rob Bolam, r.bolam@glyndwr.ac.uk