Close up of hands on a potters wheel

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Ydych chi wastad wedi bod eisiau cael tro ar olwyn crochenwaith? Mae ein cwrs deg wythnos yn mynd â chi trwy hanfodion paratoi a chanoli’r clai i sut i daflu eich powlenni a’ch llestri eich hun. Dan arweiniad ceramegwyr proffesiynol, cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau a chynhyrchu gwrthrychau i’w defnyddio adref.

Prif nodweddion y cwrs

  • Sesiynau ymarferol yn ein gweithdai yn Ysgol Gelf Stryt y Rhaglaw.
  • Astudio amrywiaeth o dechnegau cerameg.
  • Dylunio a chynhyrchu eich creadigaethau personol eich hun.
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i rai o brosesau taflu cerameg ar olwyn crochenwaith. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu tywys trwy amrywiaeth o ddulliau cerameg, o baratoi’r clai amrwd i ddarnau wedi’u gwydro terfynedig.

Cewch arweiniad i gynhyrchu eich syniadau dylunio eich hun gan ddefnyddio dulliau arbrofol wedi’u harwain gan arddangosiadau.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae’r cwrs yn amodol ar isafswm o gyfranogwyr a bydd taliadau yn cael eu talu’n ôl yn llawn os na fydd y cwrs yn recriwtio’r isafswm yma.

Addysgu ac Asesu

Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU.  

 

 
 

Ffioedd a chyllid

£195

Mae’r ffi yn cynnwys mynychu a thiwtora, gan gynnwys asesu a deunyddiau sylfaenol. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd y cyfranogwyr yn dewis gweithio gyda deunyddiau ansafonol neu’n defnyddio llawer ohonynt neu mewn diwyg mawr.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau cyrsiau

6yh-8:15yh unwaith yr wythnos am 8 wythnos, gan ddechrau ar unrhyw un o’r dyddiadau canlynol:

Dyddiadau cychwyn yn y dyfodol:

•    Dydd Llun 15 Ebrill 2024
•    Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
•    Dydd Mercher 17 Ebrill  2024
•    Dydd Iau 18 Ebrill 2024


•    Dydd Llun 24 Mehefin 2024
•    Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024
•    Dydd Mercher 26 Mehefin 2024
•    Dydd Iau 27 Mehefin 2024