
Strategaethau ac Arloesiadau ar gyfer Datblygu Iechyd, Iechyd Meddwl a Llesiant
Mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym lle mae heriau iechyd cyhoeddus, iechyd meddwl a llesiant yn gynyddol gymhleth ac yn esblygu'n barhaus, mae angen dull gweithredu strategol ac arloesol. Ond sut ydym yn datblygu dull gweithredu o'r fath? Sut ydym yn goresgyn yr heriau sy'n wynebu'r sector iechyd a llesiant? A sut ydym yn adeiladu iechyd cyhoeddus cryf, ymatebol a gwydn ar gyfer y dyfodol?
Bydd y cwrs cyffrous a heriol hwn yn darparu cyfranogwyr â gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n gysylltiedig â strategaethau newydd a chyfredol ar gyfer datblygu iechyd, iechyd meddwl a llesiant ar lefel unigol, cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd yn archwilio'r sylfaen dystiolaeth a'r agweddau ymarferol sy'n gysylltiedig â gwahanol strategaethau, yn ogystal ag annog cyfranogwyr i feddwl yn arloesol a chreadigol mewn perthynas â gwella a hyrwyddo iechyd, iechyd meddwl a llesiant.
Bydd y cwrs yn galluogi'r rheiny sy'n gweithio yn y sector iechyd a llesiant i atgyfnerthu eu harbenigedd, cyfnewid syniadau ac archwilio'r sylfaen dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg mewn amgylchedd agored, chwilfrydig a chefnogol.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r pynciau canlynol:
- Modelau, strategaethau ac arloesiadau hyrwyddo iechyd: Y tirlun newidiol
- Datblygu cymunedol: Rhesymeg a dulliau gweithredu
- Cyd-gynhyrchiad: Buddion a pheryglon
- Addysg iechyd
- Presgripsiynu cymdeithasol
- Ymyriadau seicolegol cryno
- Astudiaethau achos
- Datblygu strategaethau ac arloesiadau ar gyfer y byd newidiol?
Credydau
Mae hwn yn gwrs Meistr Lefel 7. Bydd y 20 awr o gynnwys cydamseredig (h.y. y ddarpariaeth wyneb yn wyneb) yn digwydd dros bum dydd Gwener, ac mae disgwyl i gyfranogwyr ymgymryd ag astudiaeth annibynnol dan gyfarwyddyd o gwmpas hyn.
Asesu
Bydd gofyn i gyfranogwyr gynhyrchu adroddiad 5,000 gair sy'n darparu unrhyw un o'r canlynol:
- Rhesymeg ar gyfer strategaeth newydd i ddatblygu iechyd, iechyd meddwl a/neu lesiant
- Gwerthusiad o strategaeth gyfredol i ddatblygu iechyd, iechyd meddwl a/neu lesiant
Dyddiadau'r Cwrs
Dyddiadau 2021 i'w cadarnhau. Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn hysbysiad o ddyddiadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost admissions@glyndwr.ac.uk i nodi'ch diddordeb.
Ffioedd
£950.00 yn cynnwys TAW.