Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae rheoli newid yn faes allweddol o ran y sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol mewn oes pan fo sefydliadau’n mynd trwy newidiadau mawr a chymhleth sy’n ddibynnol ar ei gilydd.

Trwy ddysgu sgiliau rheoli newid a sut i fynd ati’n effeithiol i arwain newid sefydliadol, bydd myfyrwyr yn medru cryfhau eu gallu i fynd i’r afael â sawl newid ar yr un pryd, a rhoi’r offer a’r technegau sydd eu hangen ar eu sefydliad i ymateb yn fwy effeithlon i amgylchiadau sy’n newid.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dysgu sgiliau rheoli newid busnes a sut i adnabod cyfleoedd ar gyfer newid a’u rhoi ar waith.
  • Astudio ffyrdd i helpu eich busnes i ddatblygu ei arlwy mewn marchnadoedd cystadleuol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:

  • Cyflwyniad i reoli newid a newid sefydliadol
  • Theorïau newid a sut maent yn llywio ymarfer
  • Defnyddio chi eich hun fel offeryn ar gyfer newid
  • Egluro ymddygiad a gweithredoedd unigol mewn ymateb i newid
  • Datblygu pecyn cymorth newid - Diagnosis
  • Datblygu pecyn cymorth newid - Gweithredu
  • Arferion rheoli newid a newid sefydliadol
  • Gwerthuso newid a'i effaith ar ganlyniadau sefydliadol

Bydd y ddarpariaeth ar gyfer y cwrs byr wyth wythnos yn cynnwys:

  • 1 x darlith wedi'i recordio bob wythnos
  • Cefnogi atgyfeiriadau i ddeunydd dysgu ar Moodle, dolenni i fideos (e.e. sgyrsiau TED), llyfr Moodle os yw'n briodol a darllen pellach
  • Deunydd i gefnogi darpariaeth 6 x tiwtorial anghydamserol
  • Darpariaeth 2 x fforwm deialogaidd 2 awr o hyd

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

 

Addysgu ac Asesu

Portffolio - Cofnod dysgu a Dyddlyfr

 

Ffioedd a chyllid

£75

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau Cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.