Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae rheoli gweithrediadau busnes yn faes sy’n gofyn am sgiliau a gwybodaeth allweddol mewn oes pan fo sefydliadau yn wynebu newidiadau mawr a chymhleth sy’n ddibynnol ar ei gilydd.

Prif nodweddion y cwrs

• Dysgu sgiliau rheoli gweithrediadau busnes a sut i arwain gwaith o’r fath.
• Astudio ffyrdd i helpu eich busnes i sefydlu ei arlwy mewn marchnadoedd cystadleuol, a thyfu’r arlwy hwnnw.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:

  • Cyflwyniad i Reoli Gweithrediadau Busnes
  • Llif prosesau a rheoli capasiti
  • Gweithrediadau darbodus a rheoli ansawdd
  • Rheoli cadwyn gyflenwi
  • Asesu a lliniaru risg
  • Pecynnau cymorth a thechnegau ar gyfer cynllunio gweithrediadau busnes
  • Rhoi cynllun gweithrediadau busnes ar waith sy'n blaenoriaethu adnoddau dynol a deunyddiau
  • Addasu i risgiau a chyfleoedd sy'n newid

Caiff y cwrs ei gyflwyno fel hyn:

  • 1 x darlith wedi recordio’r wythnos.
  • Deunydd cefnogi ar Moodle, megis dolenni at fideos (e.e. TED talks), llyfr Moodle os yw'n briodol a darllen pellach
  • Deunydd i gefnogi'r gwaith o gyflwyno tiwtorialau 6 x Asyncronig
  • 2 x fforwm fyw yn para dwy awr yr un. 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Bwriad yr asesiad yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso fframwaith eu dysgu i'w busnes. Mae'r aseiniad 2,000 o eiriau yn cyfeirio'n uniongyrchol at fusnes a gweithredoedd busnes y myfyrwyr eu hunain i wella Rheoli Gweithrediadau Busnes.

Mae tair tasg sy'n ffurfio'r Log Dysgu, sy'n cynnwys y gofyniad i gyflwyno o leiaf 200 o eiriau bob wythnos i'r tiwtorialau asyncronig.  Bydd y Log Dysgu yn darparu tystiolaeth o ddatblygiad dysgu a sgiliau'r myfyrwyr eu hunain. Mae'n gofnod o'r hyn sydd wedi'i ddysgu, ei roi ar brawf a'i adlewyrchu'n feirniadol ac oherwydd, dylai ddatblygu a thystiolaethu dysgu'r myfyriwr ei hun ar bwnc Rheoli Gweithrediadau Busnes.

Ffioedd a chyllid

£75

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.