
Egwyddorion Trin Clwyfau
Trosolwg
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adeiladu ar eu gwybodaeth am glwyfau yn eu maes clinigol a nodi cymhlethdod eu rheoli yn y system gofal iechyd fodern sydd ohoni. ydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu meddwl beirniadol wrth ystyried opsiynau gofalu am glwyfi yn y lleoliad acíwt a chymunedol, gan wella eu hyder yn eu gallu i ddarparu gofal cyfannol, unigol o fewn eu maes ymarfer proffesiynol.
Mae hwn yn gwrs rhan-amser ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i wella gofal clwyf yn eu hamgylchedd clinigol.
Yr hyn y byddwch yn astudio
- Asesu clwyfau
- Iachau clwyfau a ffactorau cysylltiedig
- Clwyfau aciwt
- Clwyfau cronig
- Wlserau pwyso
- Mathau a dewisiadau rhwymo
- Clwyfau heriol/cymhleth
- Gwneud penderfyniadau a diogelu
- Symptomau cysylltiedig (e.e. poen)
Mae hwn yn fodiwl rhan-amser annibynnol ar gyfer myfyrwyr sydd am gael mwy o wybodaeth ym maes gofal clwyf. Bydd elfennau craidd y gofal clwyf yn cael eu harchwilio trwy amrywiaeth o arddulliau addysgu a bydd siaradwyr arbenigol y tu allan yn cael eu defnyddio i annog dysgu ehangach.
Dyddiadau a lleoliad cwrs
I'w gadarnhau.
Prifysgol Glyndwr Wrecsam, campws Ffordd yr Wyddgrug.
Asesu
Mae'r asesu'n cael ei gwblhau mewn dwy ran:
- Cyflwyniad 10 Munud
- Portffolio hyfforddi gofalu am glwyfau
- Gan ganolbwyntio ar un math perthnasol o glwyf o'ch maes clinigol, bydd y cyflwyniad yn archwilio natur ac asesiad y math o glwyf rydych chi wedi ei ddewis.
Bydd y portffolio (3000 o eiriau) yn parhau o'r cyflwyniad ac yn cynnwys dadansoddiad beirniadol o reoli symtomau, yn ogystal a'r diogelu/risgau a gysylltir â'r math o glwyf.
Credyd
20 credyd yn lefel 6.
Gofynion mynediad
Gall myfyrwyr â chanddynt astudiaethau ar Lefel 5 neu uwch wneud cais i ddilyn y cwrs. Mae hwn yn gwrs rhan-amser ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i wella gofal clwyfau yn eu hamgylchedd clinigol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'r modiwl annibynnol hwn wedi cael ei gynllunio i alluogi gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig gael mynediad ar Lefel 6, ac mae'n rhedeg yr un pryd â'r Rhaglen Ymarfer Arbenigol Cymunedol.
Ffioedd
Mae cyllid ar gael i rai staff BIPBC. Cysylltwch â Jenny Jacobsen am fanylion pellach.
Am ragor o wybodaeth a gwneud cais cysylltwch â Jenny Jacobsen
ebost: j.jacobsen@glyndwr.ac.uk
Ffôn: 01745 448788 est 3877 neu 01978 293474