
Paentio Olew
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar hanfodion sylfaenol paentio olew gan ganolbwyntio yn yr wythnosau cynnar ar sgiliau sylfaenol paentio megis cymysgu lliwiau, arwynebau, dewis brwsh ac ati. Wrth i'r wythnosau fynd yn eu blaen bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i agweddau damcaniaethol o ymarfer Celfyddyd Gain ac i wneud delweddau gydag ymarferion a gynlluniwyd i gynyddu hyder myfyrwyr yn araf. Bydd y darn olaf yn y cwrs yn gyfle i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi deall damcaniaethau iaith weledol yr ydym wedi'u trafod yn ogystal â gallu mwy medrus gyda'r cyfrwng. Bydd ymarfer cydweithredol hefyd yn cael ei annog i hyrwyddo deinameg grŵp yn ogystal â thasgau gwaith cartref wythnosol a fydd yn cael eu trafod yn yr adran 'trafodaeth' ar ddechrau'r dosbarth.
Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Yn gyfnodol ar draws y cwrs, cyflwynir myfyrwyr i egwyddor dechnegol wahanol o baentio olew a byddant yn dysgu sut i gymhwyso hynny yn eu gwaith paentio bywyd llonydd bob wythnos.
Yn ogystal, bydd damcaniaeth Celfyddyd Gain yn cael ei chynnwys i ganiatáu i dechneg a damcaniaeth ddatblygu yn gyfun. Bydd amser i drafod ar ddechrau'r sesiwn i ganiatáu i'r grŵp agosáu a rhannu gwaith cartref yr wythnos gynt. Yna bydd ymarferion ymarferol a sesiynau sgiliau mwy trylwyr mewn damcaniaeth.
Cyflwynir myfyrwyr i'r canlynol:
- Amrywiaeth o egwyddorion paentio technegol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gymysgu lliwiau, arwynebau, taenu a thechnegau brwsh.
- Sut i drin y cyfrwng mewn modd sy'n briodol i'r pwnc.
- Dadansoddi eu gwaith a gwaith eraill yn feirniadol i lywio eu hymarfer.
Dyddiadau'r cwrs
24th Hydref 2019 – 12th Rhagfyr 2019, Dydd Iau 6-8.30pm.
23rd Ionawr 2020 – 12th Mawrth 2020, Dydd Iau 6-8.30pm.
14th Mai 2020 – 2nd Gorffennaf 2020, Dydd Iau 6-8.30pm.
Lleoliad
Campws Stryd y Rhaglaw
Credydau
10
Asesu
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn eu hwythnos olaf, gan gynhyrchu darn o waith terfynol ynghyd ag aseiniad llafar o'u dilyniant a'r defnydd o'r wybodaeth y maent wedi'i chaffael yn eu darn ymarferol. Bydd yr asesiad ar sail pasio neu fethu.
Ffioedd
£165
I Archebu'ch lle
I gadw'ch lle ewch i'r siop ar-lein.
Mae archebu yn ddarostyngedig i niferoedd. Mae uchafswm o 12 lle ar y cwrs hwn.