Group of students

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn am ddatblygu dealltwriaeth o’r prif gysyniadau sy’n gysylltiedig â mentora effeithiol, pwyso a mesur sgiliau a rhinweddau mentor effeithiol, a gwerthuso canlyniadau perthynas fentora cadarnhaol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Esbonio egwyddorion a chysyniadau allweddol perthynas fentora. 
  • Dadansoddi’r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu perthynas lwyddiannus rhwng y mentor a’r person sy’n cael ei fentora. 
  • Gwerthuso canlyniad perthynas rhwng mentor a’r person sy’n cael ei fentora. 
  • Astudio ar-lein yn eich amser eich hun. 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:

Archwiliad o egwyddorion a chysyniadau allweddol mentoriaethau effeithiol, megis:

  • Diffiniadau o fentora
  • Pwrpas a manteision mentora
  • Sgiliau a Nodweddion mentor effeithiol
  • Rôl y mentor
  • Cyfnodau allweddol y cylch mentora
  • Y berthynas fentora

Sgiliau a Rhinweddau Mentor Effeithiol:

  • Rhagdybiaethau, Agweddau a gwerthoedd
  • Ymddygiad rhyngbersonol
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Cyfleoedd cyfartal a pharchu amrywioldeb
  • Gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau ac amcanion
  • Adolygu cynnydd tuag at gyflawni amcanion
  • Delio gyda datganiadau heriol
  • Adeiladu perthynas
  • Datblygu empathi
  • Arddulliau holi
  • Gwrando gweithgar

Deall y berthynas mentora:

  • Ffactorau pwysig wrth gychwyn ar berthynas fentora
  • Rheolau sylfaenol mewn mentora
  • Diffinio ffiniau
  • Cyfrinachedd
  • Terfynau perthnasau mentora
  • Dod â pherthynas fentora i ben mewn ffordd drefnus a chadarnhaol.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Cofrestrwch eich diddordeb.

 

 

 

Addysgu ac Asesu

Bydd myfyrwyr yn gweithio i baratoi cyflwyniad poster 10 munud yn egluro cysyniadau ac egwyddorion allweddol mentora. Bydd hyn yn cynnwys poster academaidd o 1000 o eiriau, ac yna cyflwyniad 10 munud. Bydd y cyflwyniad yn cael ei recordio gan y myfyriwr a'i lanlwytho i'r amgylchedd dysgu rhithwir.

Bydd myfyrwyr yn gweithio'n unigol ar sefyllfa astudiaeth achos ac yn dadansoddi'r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu perthynas mentora effeithiol ac yn gwerthuso canlyniad y berthynas mentora mewn sefyllfa astudiaeth achos.

Rhagolygon gyrfaol

Mae bod yn fentor effeithiol yn sgìl gwych i’r rheiny sy’n dymuno astudio ymhellach ar raglenni Ieuenctid a Chymuned, Gwaith Cymdeithasol, Addysg a Theuluoedd a Phlentyndod.

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Dyddiad cychwyn 2 Mehefin 2023.

Dyddiadau rhedeg:

9 Mehefin 2023

16 Mehefin 2023

23 Mehefin 2023

30 Mehefin 2023

 

7 Gorffennaf 2023

14 Gorffennaf 2023

 

Cofrestrwch eich diddordeb.