Applied art student in workshop

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

9 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

O gerflunio i chandeliers, teils addurniadol i waith ffigurol. Mae ein dosbarth nos 9 wythnos yn eich cyflwyno i fyd cerameg wedi'i wneud â llaw. Byddwch yn cael eich addysgu mewn dosbarthiadau bach ac yn cael eich arwain trwy bob agwedd ar serameg a adeiladwyd â llaw, o baratoi'r clai amrwd i ddarnau gwydrog gorffenedig

Prif nodweddion y cwrs

  • Sesiynau ymarferol yn ein gweithdai yn Ysgol Gelf Stryt y Rhaglaw.
  • Astudio amrywiaeth o dechnegau cerameg.
  • Dylunio a chynhyrchu eich creadigaethau personol eich hun.
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i rai o brosesau cerameg Adeiladu â Llaw. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu harwain trwy amrywiaeth o dechnegau cerameg, o baratoi'r clai amrwd i ddarnau gwydrog gorffenedig.

Byddwch yn cael eich arwain i gynhyrchu eich syniadau dylunio unigol eich hun gan ddefnyddio dulliau arbrofol a arweinir gan arddangosiadau.

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae’r cwrs yn amodol ar isafswm o gyfranogwyr a bydd taliadau yn cael eu had-dalu'n llawn os na fydd y cwrs yn recriwtio’r isafswm yma.

 
 

Addysgu ac Asesu

Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU.  

 

 
 

Ffioedd a chyllid

£195

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

dyddiadau cyrsiau

6yh-8yh 

Dyddiadau cychwyn yn y dyfodol:

  • Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
  • Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024