A comics student sketches out ideas

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

9 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn yn mynd â bywluniadu yn ôl i’w ddamcaniaethau sylfaenol gan ganolbwyntio ar sut mae’r corff wedi’i adeiladu – yn ei rannau unigol ac yn ei gyfanrwydd.

Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i ddarlunio’r ffurf ddynol mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan ddysgu sut i drin y cyfrwng sy’n briodol i’r pwnc dan sylw yn ogystal ag astudio damcaniaethau creu delweddau.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cael eich cyflwyno i egwyddor dechnegol wahanol ar fywluniadu a dysgu sut i ddefnyddio hwn yn eu darluniadau o’r model bob wythnos.
  • Mae damcaniaethau Celfyddyd Gain yn cael eu cynnwys ar draws y cwrs er mwyn i dechneg a damcaniaeth ddatblygu gyda’i gilydd.
  • Cymryd rhan mewn trafodaeth ar ddechrau pob sesiwn.
  • Datblygu eich sgiliau gydag ymarferion ymarferol.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Amrywiaeth o egwyddorion bywluniadu technegol a fydd yn canolbwyntio ar gydrannau unigol y corff a'r corff cyfan.
  • Sut i drin eu cyfrwng dewisol mewn modd sy'n briodol i'r pwnc.
  • Dadansoddi eu gwaith a gwaith eraill yn feirniadol i lywio eu hymarfer.

Addysgu ac Asesu

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn eu hwythnos olaf, gan gynhyrchu darn o waith terfynol ynghyd ag aseiniad llafar o'u dilyniant a'r defnydd o'r wybodaeth y maent wedi'i chaffael yn eu darn ymarferol. Bydd yr asesiad ar sail pasio a methu.

 

Ffioedd a chyllid

£195

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.