Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd ein hecolegwyr ac arbenigwyr cadwraeth yn eich cyflwyno chi i amrywiaeth ac ystod y mamaliaid, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid sy’n byw ym Mhrydain. Cewch ddysgu pam fod gan Brydain yr ystod o rywogaethau sydd ganddi a dod i ddeall sut mae hyn wedi newid dros amser yn sgil cyflwyno nifer o rywogaethau newydd ac eraill yn marw.

Prif nodweddion y cwrs

Bydd ein hecolegwyr ac arbenigwyr cadwraeth yn eich cyflwyno chi i amrywiaeth ac ystod y mamaliaid, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid sy'n byw ym Mhrydain. Byddwch yn dysgu pam fod gan Brydain yr ystod o rywogaethau sydd ganddi a dod i ddeall sut mae hyn wedi newid dros amser gyda nifer o rywogaethau yn cael eu cyflwyno ac eraill yn cael eu colli. Canfyddwch ddosbarthiad ac ecoleg y rhywogaethau hyn a dysgwch y nodweddion ac arwyddion a fydd yn eich helpu chi i'w hadnabod yn eu cynefin.

Cewch eich arwain ar daith rithwir o'r ardal leol i weld amrywiaeth o rywogaethau prin a rhywogaethau sydd mewn perygl. Byddwch yn canfod pa rywogaethau sy'n byw yng nghaeau, gwrychoedd a choetiroedd y rhanbarth, gan gynnwys pathewod, gwiwerod coch a moch daear. Yn ogystal, cewch ddysgu am y twyni tywod, sydd ag arwyddocâd rhyngwladol, ar hyd arfordir gogledd Cymru a dysgu am fadfallod cyffredin a madfallod y twyni, môr-wenoliaid bach a llyffantod cefnfelyn.

Cewch ddysgu gyda hyfforddwyr cymwys a phrofiadol:

  • Denise Yorke MSc BSc (Anrh) FHEA MCIEEM, Uwch Ddarlithydd ac Ymgynghorydd Ecolegol
  • Liam Blazey BSc (Anrh) Swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Ecoleg ystod o famaliaid, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid ym Mhrydain - dosraniad, gofynion cynefin, diet, ymddygiad, nodweddion corfforol/biolegol.
  • Ecoleg amrywiaeth o blanhigion a choed ym Mhrydain - dosraniad, gofynion cynefin.
  • Arwyddion cae: tyllau, geudai, baw, gorsafoedd bwydo, printiau, olion, samplau gwallt, galwadau, gweithgareddau.
  • Rhywogaethau brodorol ac anfrodorol, Adnabod fflora a ffawna, Defnyddio allweddi adnabod.
  • Defnyddio termau a diffiniadau ecolegol allweddol sylfaenol gan gynnwys brodorol, rhywogaeth, poblogaeth, cymuned.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Addysgu ac Asesu

  • Cwestiynau amlddewis - a fydd yn cynnwys cwestiynau ynglŷn ag ecoleg fflora a ffawna. Efallai bydd hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, arwyddion yn y caeau, diet, ymddygiad, gofynion eu cynefin, nodweddion (corfforol ac ymddygiadol) a dosraniad (gan gynnwys ffactorau dylanwadu).
  • Arholiad ymarferol ar-lein - bydd myfyrwyr yn adnabod ystod o rywogaethau fflora a ffawna o arwyddion yn y caeau ac o sbesimenau.

Ffioedd a chyllid

£95

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Dyddiad cychwyn: Dydd Mercher 17 Ionawr 2024