GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Campws Diogel Rhag Coronafeirws: Gwybodaeth ar sut rydym yn cadw'n campysau'n ddiogel.

WGU Logo
Goruchwyliwr Ymarfer Nyrsio

Goruchwyliwr Ymarfer Nyrsio

Cynnig hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig i ddod yn oruchwylwyr ymarfer ar gyfer myfyrwyr nyrsio. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y canllawiau’r Safonau ar gyfer Goruchwylio ac Asesu Myfyrwyr (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2018).

Beth fyddwch yn ei astudio?

Rolau a Chyfrifoldebau

  • Amlinelliad o rolau Goruchwyliwr Ymarfer, yr Asesydd Ymarfer a'r Asesydd Academaidd.
  • Helpu’r myfyriwr i ddeall sut i gynnig tystiolaeth tuag at ddatblygiad a llwyddiant ar gyfer yr Asesydd Ymarfer a’r Asesydd Academaidd. Pwysigrwydd cadw cofnodion cywir.
  • Trosolwg o Safonau goruchwyliaeth ac asesu ar gyfer myfyrwyr NMC (2018). Swyddogaeth y rôl wrth gynnig tystiolaeth ar gyfer yr Asesydd Ymarfer a’r Asesydd Academaidd i bennu datblygiad a llwyddiant y myfyrwyr.
  • Atebolrwydd mewn perthynas â dirprwyo priodol yn unol â’r Cod - Safonau ymarfer ac ymddygiad proffesiynol ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chydweithwyr nyrsio’r NMC (2018) a chanllaw Dirprwyo ac Atebolrwydd NMC (2018).
  • Ymddwyn fel model rôl wrth feithrin egwyddorion Cod - Safonau ymarfer ac ymddygiad proffesiynol ar gyfer nyrsys, bydwragedd a chydweithwyr nyrsio’r NMC (2018)

Dysgu Myfyrwyr

  • Datblygu perthynas gefnogol a phroffesiynol effeithiol â myfyrwyr.
  • Modelau goruchwylio.
  • Annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a’u datblygiad.
  • Datblygu dealltwriaeth o sut i hwyluso dysg myfyrwyr i fodloni anghenion ystod eang o ddysgwyr myfyrwyr.
  • Pennu, ar y cyd â'r Asesydd Practis, lefel briodol o oruchwyliaeth sy'n gymesur
  • â lefel cymhwysedd / hyfedredd, gwybodaeth a sgiliau a chyfnod rhaglen y myfyrwyr.
  • Annog ymarfer myfyriol i hwyluso datblygiad myfyrwyr unigol o allu a hyder
  • Cynllunio profiad dysgu myfyrwyr gan gynnwys addasiadau rhesymol neu ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth a allai fod angen eu bodloni.
  • Rhoi adborth effeithiol i alluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu harfer a'i wella.
  • Helpu myfyrwyr i ddatblygu gwytnwch.
  • Cefnogi myfyrwyr sy’n codi unrhyw bryderon yn yr amgylchedd dysgu.

Rheoli Pryderon

  • Sut i godi pryderon ynghylch ymddygiad, gallu a pherfformiad myfyriwr.
  • Cefnogi myfyrwyr sy’n profi anhawster wrth fodloni cynnydd disgwyliedig.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ac adolygu cynlluniau gweithredu i hwyluso gwelliant mewn ymarfer myfyrwyr.
  • Trosolwg o Brotocol Cynllunio Gweithredu Cymru Gyfan

Asesu

Mae’r asesu’n cael ei wneud drwy ddogfen cymhwysedd lle maent yn goruchwylio Myfyriwr NMC yn ymarferol ar gyfer hyd lleoliad y myfyrwyr nyrsio, bydd angen asesydd practis ar yr ymgeiswyr i lofnodi'r llyfryn cymhwysedd a bydd o leiaf 500 gair o fyfyrio.

 

Dyddiadau'r cwrs

Tbc.

 

Dulliau astudio

Ar-lein

 

Ffiodd

Am ddim

 

I gadw lle

I archebu lle, ewch i'n siop ar-lein.

Diwrnod Agored y Brifysgol 2021Noswaith Agored y Brifysgol 2021
Top