(Cwrs Byr) Ffiniau Hanesyddol: O Fur Hadrian i'r Ffin Rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico

Hadrians Wall

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae trafodaethau am ffiniau ac ardaloedd ar y ffin yn dod yn fwy a mwy perthnasol. Ymunwch â’n cwrs i ddysgu mwy ynghylch sut y mae’r materion hyn wedi cael eu trin a’u trafod yn y gorffennol a sut y gall hyn helpu i lywio ein dyfodol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Ystyried cyfres o astudiaethau achos yn ymwneud â ‘ffin’, gan amrywio yn ddaearyddol ac yn gronolegol – o Fur Hadrian i’r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico – ynghyd â’u heffaith ar gymdeithas a diwylliant.
  • Pwyslais ar werthuso ffynonellau a meddwl yn feirniadol.
  • Llwybr gwych ar gyfer astudio pellach, yn enwedig i’n rhaglen BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Byddwch yn dysgu am leoli ffiniau, gororau a rhwystrau llinellol mewn amser a lle a bydd cyfle i chi archwilio materion nid yn unig ar raddfa leol, ond hefyd ar raddfa ryngwladol.

  • Mur Hadrian a ffiniau Rhufeinig ym Mhrydain.
  • Clawdd Offa a Chlawdd Wat: Gwaith ffin yr Oesoedd Tywyll ar y Gororau Cymreig.
  • Wal Fawr Tsieina: ffin amddiffynedig yn Asia.
  • Wal Berlin a Ffens y  Ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico: atebion modern i her oesol?

Addysgu ac Asesu

Asesir myfyrwyr trwy bortffolio a fydd yn dogfennu'r gweithgareddau a gyflawnir yn ystod y cwrs. Bydd y rhain yn cynnwys ymarferion ar ffynonellau ysgrifenedig a dadansoddiad o dystiolaeth weledol a dogfennol.

Bydd y portffolio hefyd yn ystyried adroddiadau cyfoes o agweddau cadarnhaol a negyddol ffiniau a ffiniau.

 

Ffioedd a chyllid

£150

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.