
Y dysgwr hyderus
Trosolwg
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch galluogi i gynyddu'ch hyder wrth i chi gymryd y cam nesaf i addysg israddedig ... boed ichi'n dychwelyd i astudio ar ôl cyfnod i ffwrdd, ar fin cychwyn yn y brifysgol neu'n ystyried thinking ymgymryd â chwrs proffesiynol neu ran amser, bydd y cwrs yn eich galluogi chi i:
- Gwneud ymchwil a dod o hyd i wybodaeth oddi wrth ystod o ffynonellau
- Gwella eich sgiliau cyflwyno
- Paratowch ar gyfer lefel uwch o astudio
- Gwella a mireinio eich sgiliau
- Adeiladu eich hyder er mwyn i chi allu cyflawni'ch potensial
Yr hyn y byddwch chi'n ei astudio
Erbyn diwedd y modiwl bydd dysgwyr yn gallu:
- Lleoli, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau
- Dangos yr angen am eglurder a chydlyniad wrth gyflwyno safbwyntiau
- Mabwysiadu arddulliau ysgrifennu a chyflwyno academaidd ar lefel AU
- Rhoi cyflwyniad gan ddefnyddio confensiynau ar gyfer nodi a chyfeirio ffynonellau
- Cefnogi a goruchwylio
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro a chofnodi
- Blaenoriaethu materion
- Deall credoau, gwerthoedd ac agweddau personol
Ar gyfer pwy y mae'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy'n:
- Pontio rhwng lefel 3 a 4
- Cychwyn yn y Brifysgol ym Medi (waeth beth fo'r Brifysgol)
- Meddwl am ddechrau cwrs Rhan Amser neu broffesiynol ond nad yw'n 100% yn siŵr oherwydd cymwysterau isel
- Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais i'r Brifysgol ond y mae angen iddyn nhw gynyddu eu graddau mynediad
Asesiad
Asesiad Un (Gwaith Cwrs 50%):
Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio sy'n dangos eu cymhwysedd wrth leoli, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o gyrsiau. Disgwylir iddynt ysgrifennu dau ddarn o waith byr (500 o eiriau) sy'n eu galluogi i gyflwyno eu barn mewn ffordd eglur a chydlynol, yn unol â chonfensiynau academaidd.
Asesiad Dau (Cyflwyniad 50%): Bydd myfyrwyr yn paratoi ac yn ymgymryd â chyflwyniad deg munud; gan ddefnyddio adnoddau a meddalwedd TGCh i ddangos sut y defnyddiwyd y sgiliau sydd eu hangen i ddod yn ddysgwr hyderus i ddatblygu eu camau nesaf eu hunain i astudio.
Credydau
20 credyd ar lefel 4.
Dyddiadau cychwyn y cyrsiau
Ionawr 30, Chewfror 6, 13, 20, Marwth 6 & 13 9.30am - 12pm
Mawrth 4, 11, 18, 25, Ebrill 1 & 8 5.30pm - 8.30pm
Mai 1, 8, 15, 22, Mehefin 5 & 12 9.30am - 12pm
Lleoliad
Campws Wrecsam
Ffioedd
Am ddim
I archebu lle, ewch i'n siop ar-lein.