Student wearing breathing apparatus in the Human Performance Lab

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

7 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r wybodaeth i fyfyrwyr iddynt fedru integreiddio dadansoddi perfformiad yn eu timau. Bydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a fydd yn amhrisiadwy yn eu sefydliadau ond sydd hefyd yn drosglwyddadwy i amgylcheddau chwaraeon eraill drwy ddefnyddio rhaglenni a phrosesau meddalwedd o safon diwydiant.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dysgu rhagor am ddadansoddi perfformiad a sut y gall helpu i greu hyfforddiant effeithiol.
  • Mae’r modiwl yn cynnwys 5 awr o addysgu wyneb yn wyneb, 7 awr o dasgau dan gyfarwyddyd, 9 awr o diwtorialau fideo a goruchwyliaeth prosiect a 3 awr ar gyfer asesiad ar-lein.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyflwyniad i Ddadansoddi Perfformiad
  • Amlinellu eich Amgylchedd Presennol
  • Dangos Dadansoddiad Perfformiad Cymhwysol
  • Casglu a Symud Data (Gan Ddefnyddio Technoleg)
  • Llunio eich Dadansoddiad o Anghenion
  • Cyflwyniad i'r Cyd-Actifau Perfformiad
  • Cyflwyniad i Hudl Sportscode a Nacsport Scout+
  • Dylunio Eich Ffenestr Cod eich Hun
  • Datblygu Eich Llinell Amser: Codio’r Gêm
  • Creu Trefnwyr and Threfnu Gwybodaeth.
  • Dylunio eich Ffenestr Allbwn / Dangosfwrdd
  • Creu Rhwydweithiau Ad-Hoc
  • Blaenoriaethu Gwybodaeth ar gyfer Adborth Dadansoddi Byw
  • Dilysrwydd a Dibynadwyedd Data a Gasglwyd

Gofynion mynediad a gwneud cais

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar brosiect. Bydd y myfyriwr yn cael senario a ffilm gêm. Bydd myfyrwyr yn dangos eu gallu i greu system dadansoddi perfformiad ac yn codio gêm yn seiliedig ar ddyluniad eu system. Bydd disgwyl iddynt ddadansoddi'r perfformiad yn feirniadol, ac yn seiliedig ar y dadansoddiad, darparu mecanweithiau adborth priodol i hysbysu'r hyfforddwr. Mae hyd at 3 awr wedi'i neilltuo ar gyfer cwblhau'r prosiect.

 

Ffioedd a chyllid

£99

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.