A group sitting outside a wrexham cafe

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae polisi a deddfwriaeth yng Nghymru yn cydnabod fwy a mwy yr angen am gysylltu unigolion â ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned a gwerth hynny er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles. Mae hyn wrth wraidd rhagnodi neu bresgripsiynu cymdeithasol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad o ragnodi cymdeithasol ac a fyddai’n hoffi datblygu eu gyrfa yn y maes hwn neu sydd am wella neu ddatblygu’r gwasanaeth y maent yn gweithio ynddo.
  • Bydd y cwrs yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o elfennau cyd-destunol, damcaniaethol a chymhwysol yn ymwneud â rhagnodi cymdeithasol, o gamau cynnar ymgysylltu â’r gymuned i werthuso llwyddiant rhaglenni.
  • Caiff y cwrs ei addysgu trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, a fydd yn cynnwys sleidiau darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp.
  • Cewch gymorth gyda thasgau a gwaith darllen annibynnol, ynghyd â thiwtorialau unigol fel y bo’n briodol a chael deunyddiau ar-lein trwy’r amgylchedd dysgu rhithwir.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cyflwyniad i fodelau iechyd meddygol a chymdeithasol
  • Tirwedd wleidyddol a deddfwriaethol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol
  • Modelau rhagnodi cymdeithasol
  • Ymgysylltiad cymunedol
  • Gweithgareddau rhagnodi cymdeithasol
  • Gwerthuso cynlluniau rhagnodi cymdeithasol
  • Y daith o asesu angen at werthuso llwyddiant

Addysgu ac Asesu

Ar ddiwedd y cwrs bydd myfyrwyr yn dangos beth maen nhw wedi dysgu mewn astudiaeth achos rhagnodi.

 

Ffioedd a chyllid

£295

dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.