Spanish Flag

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

13 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae dysgu unrhyw iaith newydd yn brofiad gwerth chweil, llawn hwyl. Ac nid yw dysgu Sbaeneg yn eithriad. A dweud y gwir, o’r holl ieithoedd y gallwch chi eu dysgu, mae Sbaeneg yn ddewis arbennig o dda. Mae Sbaeneg yn iaith swyddogol mewn dros 20 o wledydd ledled y byd. Felly bydd yn agor drysau i chi weithio, teithio, neu fyw dramor. 

Prif nodweddion y cwrs

  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith. 
  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y Sbaeneg. 
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad. 

Beth fyddwch chin ei astudio

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn medru:

  • cyfnewid cyfarchion syml
  • cyflwyno eu hunain ac eraill
  • Rhoi gwybodaeth bersonol ynglŷn â theulu, swydd neu astudiaethau, lle maent yn byw
  • Rhoi'r un wybodaeth am bobl eraill
  • Defnyddio rhifau 1-100, dyddiadau, amser, prisiau
  • Siopa am fwyd a dillad
  • Archebu bwyd a diod
  • Rhoi cyfarwyddiadau
  • Siarad am y tywydd
  • Defnyddio amser presennol berfau rheolaidd a rhai afreolaidd, er enghraifft ser, estar, tener, poner ayyb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

I gadw eich lle ar y cwrs hwn, ewch i’r siop ar-lein.

Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau. Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:

  • sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
  • sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
  • sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
  • sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg

Ffioedd a chyllid

£195 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol nad ydynt yn Wrecsam

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@glyndwr.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.