Italian Flag

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

12 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Gyda 65 miliwn o siaradwyr ledled y byd, mae gan Eidaleg statws iaith swyddogol yn yr Eidal, Malta, San Marino, y Fatican a’r Swistir. Boed chi eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa neu eisiau ymgolli yn niwylliant yr Eidal wrth deithio, mae hi’n iaith ardderchog i’w dysgu.

Prif nodweddion y cwrs

  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith.
  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am yr Eidaleg.
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad.

Beth fyddwch chin ei astudio

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn medru:

  • Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.
  • Arddangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion dydd i ddydd cyfarwydd a brawddegau sylfaenol iawn, Cyflwyno eu hunain a gofyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â gwybodaeth bersonol fel ble mae rhywun yn byw, beth yw swydd rhywun ayyb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:
• sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
• sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
• sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
• sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg

Ffioedd a chyllid

£150 ffi i'r cyhoedd a £50 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Wrecsam.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

I gael ei gadarnhau