childcare student

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

1 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Os hoffech ddatblygu’r sgìl i helpu pobl i newid mewn lleoliad gofal iechyd, dyma’r cwrs i chi. Gall gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau fod yn anodd pan fo angen i bobl wneud newidiadau. Mae dysgu sut i gynnal cyfweliad sy’n ysgogi yn gallu eich helpu i hwyluso newid mewn ffordd sy’n parchu annibyniaeth yr unigolyn.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyflwyniad i’r sgiliau a’r meddylfryd a fydd o gymorth i chi gynnal sgyrsiau â chleifion sy’n cael trafferth gwneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd. 
  • Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio a’i hwyluso mewn ffordd sy’n sicrhau cyfweliadau ysgogol o safon uchel ac sy’n gallu gweithredu fel sylfaen ar gyfer meithrin sgiliau yn y dyfodol. 
  • Astudio ar-lein yn ddi-dâl. 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Diwrnod Un: Cyflwyniad i’r modiwl ac i ymarfer myfyriol.
  • Diwrnod Dau: Cyflwyniad i gyfweliadau ysgogol- sgiliau micro a’r enaid.
  • Diwrnod Tri: Datblygu Sgiliau cyfweliad ysgogol gydag adborth ffurfiannol.
  • Diwrnod Pedwar: Defnydd cyfweliad ysgogol mewn ymarfer, rhannu profiadau ac asesu crynodol.
    Hanner Diwrnod Pump: Tiwtorialau grŵp

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae angen i chi fod mewn rôl gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu feddyg a gallu ymarfer sgiliau cyfathrebu rhwng sesiynau.

Mae angen i chi fod eisoes wedi ymgymryd ag astudiaeth Lefel 6.

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer dyddiadau yn y dyfodol. 

Addysgu ac Asesu

  • Ffurfiannol: Darpariaeth adborth ynghylch ymarfer cyfweliad ysgogol.
  • Crynodol: Cynnal asesiad chwarae rôl a gaiff ei recordio ymlaen llaw ar-lein.
    Cyflwyno traethawd myfyriol (1500 gair)

Oriau cyswllt: 31 – mae disgwyl i chi ymarfer a myfyrio ar eich defnydd o gyfweliadau ysgogol rhwng sesiynau.

Ffioedd a chyllid

Am ddim