
Cyflwyniad i Siarad Cyhoeddus
*DARPERIR Y CWRS AR-LEIN*
Trosolwg
Mae siarad cyhoeddus yn sgil allweddol yn broffesiynol ymhlith pob sector ac yn bersonol, er mwyn gallu magu hyder ac ymwybyddiaeth.
Gydag arweinyddiaeth ragorol yn hanfodol i wytnwch busnes, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd ati i siarad yn gyhoeddus yn effeithiol!
Bydd y cwrs yn cyflwyno'r egwyddorion allweddol wrth wraidd siarad cyhoeddus effeithiol. Archwiliwch amrywiaeth o ddulliau, technegau ac enghreifftiau sy'n gysylltiedig â phob egwyddor. Gwahoddir myfyrwyr i fyfyrio ar gymhwyso'r egwyddorion hynny i'w gwaith eu hunain
Yr hyn y byddwch chi'n ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r pynciau canlynol:
- Naratif a strwythur
- Offer
- Technegau traddodi
- Nerfau
- Gwrando a chwestiynau
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein, dros Moodle. Bydd yn cynnwys:
- 20x podlediadau 30 munud: yn cynnwys Mike Corcoran ynghyd â gwesteion arbenigol fel y bo'n briodol, gan drafod yr egwyddorion allweddol y tu ôl i siarad cyhoeddus effeithiol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wrando ar 1 podlediad bob diwrnod gwaith ar gyfartaledd dros gyfnod y cwrs, sef 4 wythnos.
- Dolenni i ddeunydd darllen a chyfryngau eraill argymelledig: darparu cyd-destun a manylion ychwanegol i gynnwys y podlediadau.
- 8x seminar byw 1 awr: lle bydd myfyrwyr yn trafod cynnwys y cwrs ac yn adlewyrchu arno.
- Fforwm trafodaeth: lle bydd disgwyl i'r myfyrwyr ymgysylltu â'r naill a'r llall.
- Briffiau tasgau ymarferol: tasgau wythnosol argymelledig wedi'u hunan-gyfeirio i fyfyrwyr allu cymhwyso sgiliau.
- 4x sesiwn 'Gofynnwch Unrhyw Beth i Mi': lle gall myfyrwyr neilltuo 15 munud o sesiynau un i un gyda Mike Corcoran i drafod unrhyw agwedd ar y cwrs.
Asesiad
Cyflwyniad Rhithiol
Credydau
10 credyd ar lefel 4.
Dyddiadau cychwyn y cyrsiau
Cwrs 1 - 5ed Ebrill 2021
Cwrs 2 - 17eg Mai 2021
Ffioedd
Am ddim
Ewch i'n siop ar-lein.
*Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs. Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk