Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

12 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae dysgu unrhyw iaith newydd yn brofiad gwerth chweil, llawn hwyl. Ac nid yw dysgu Sbaeneg yn eithriad.  Mae astudio Japaneg yn golygu dysgu iaith sydd mor wahanol i'r Saesneg felly gwneud ichi ailfeddwl am eich rhagdybiaethau mwyaf sylfaenol am sut mae iaith yn gweithio.

Prif nodweddion y cwrs

  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith. 
  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y Sbaeneg. 
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad. 
  • Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn derbyn 20 credyd HE y DU (10 ECTS)

Beth fyddwch chin ei astudio

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn medru:

  • cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth mewn ffordd syml
  • dangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion cyfarwydd bob dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn
  • cyflwyno eu hunain
  • gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth bersonol fel lle mae rhywun yn byw, beth mae rhywun yn ei wneud ar gyfer bywoliaeth ac ati

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag shortcourses@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:
• sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
• sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
• sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
• sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg

Ffioedd a chyllid

£195 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr nad ydynt yn Wrecsam

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@glyndwr.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.