A forensics student examining a skeleton's remains

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein, Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sut mae ffosilau’n cael eu ffurfio a’u cadw’n ddiogel? Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad holistig i wyddoniaeth taffonomi; sut mae gweddillion creaduriaid yn pydru ac yn mynd yn olion archaeolegol a phalaeontolegol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dod i wybod am egwyddorion craidd gwyddor taffonomi 
  • Dysgu am fathau o gadwraeth a’r prosesau sy’n dinistrio 
  • Dulliau archwilio ac ymarferion arbrofol sydd ynghlwm â gwybodaeth daffonomi mewn astudiaethau fforensig, archaeolegol a phalaeontolegol. 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Egwyddorion taffonomi - pydru a llwybrau cadwraeth
  • Hanes a chyflwr presennol y wyddoniaeth
  • Taffonomi mewn amser dwfn
  • Ystyriaethau palaeontolegol
  • Cadwraeth mwnyddol
  • Prosesau dinistriol
  • Dehongli gweddillion creaduriaid Arwyddion a sŵn yn y cofnod ffosil
  • Taffonomi ac archaeoleg
  • Prosesau perimortem/postmortem
  • Meddal yn erbyn Caled cadwraeth rannol
  • Taffonomi arbrofol
  • Biasau

Addysgu ac Asesu

Byddwch yn cynhyrchu portffolio o ddeunydd sy'n gysylltiedig ag agweddau o gadwraeth a phydredd yr ymdrinnir â nhw drwy gydol y modiwl. Bydd y portffolio'n cynnwys:

• Darn ysgrifenedig byr (uchafswm o 1000 o eiriau) yn egluro egwyddorion taffonomi
• Cofnodion a asesiadau ar weddillion biolegol ac arsylwadau arbrofol

Byddwch hefyd yn cael eich asesu ar dystiolaeth atodol arall a gasglwyd o weithdai ac aseiniadau ymarferol a wnaed yn y modiwl.

Byddwch hefyd yn cael eich asesu ar dystiolaeth gefnogol arall a gasglwyd o weithdai ac ymarferion ymarferol a gynhaliwyd ar draws y modiwl.

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.