Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

10 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r modiwl hwn yn galluogi ymarferwyr i weithio’n effeithiol ac yn effeithlon o fewn cyfyngiadau darpariaeth gofal iechyd gyfoes wrth reoli mân anhwylderau, er mwyn gwella arbenigedd ymarferwyr wrth asesu a rheoli mân anhwylderau.

Prif nodweddion y cwrs

  • Meithrin eich hyder fel ymarferydd sy’n asesu ac yn rheoli mân anhwylderau, drwy gyfuno a gwerthuso’r ffordd y rheolir mân anhwylderau drwy becyn addysgu sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 
  • Dull dysgu cyfunol. 
  • Cael 20 credyd ar lefel 6/7 ar ôl ei gwblhau. 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cymryd hanes clinigol, cyfathrebu proffesiynol ac atgyfeirio cyflwyniadau mân salwch ym mhob lleoliad perthnasol.
  • Rhesymu diagnostig
  • Ymyriad therapiwtig a phresgripsiynu ffordd o fyw.
  • Dehonglir profion gwaed sylfaenol
  • Asesu a rheoli cymryd hanes clinigol, holistiaeth therapiwtig, rheoli comorbidrwydd a gwella clwyfau, rheoli anhwylderau trwyn, clust a gwddf, arholiadau chwarennau lymff, dermatoleg, anhwylderau anadlol, abdominyddol, cur pen, rheoli poen cefn, cyflwyniadau pediatrig cyffredin
  • Bydd angen i ymgeiswyr gael mynediad at amgylchedd clinigol addas a mentor clinigol sy'n barod i'w goruchwylio'n ymarferol.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae'n ofynnol bod myfyrwyr gyda dwy flynedd o brofiad ôl-gofrestru fel Gweithiwr Gofal Iechyd Cofrestredig mewn lleoliadau gofal heb ei drefnu neu wedi'i drefnu.

Addysgu ac Asesu

Cyflwyno poster.

Ffioedd a chyllid

£750 ar Lefel 6 (am bob 10 credyd) 

£500 ar Lefel 7(am bob 10 credyd) 

Modiwl 20 credyd yw Asesu a Rheoli Mân Salwch