An illustration student works in his sketchbook

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn yn cyfuno elfennau technegol arlunio â damcaniaethau ymarfer Celf Gain. Drwy hyn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i sicrhau manwl gywirdeb technegol ar yr un pryd â datblygu dealltwriaeth nad yw arlunio wedi’i ddiffinio’n llwyr gan ffiniau dynwared.

Prif nodweddion y cwrs

  • Darganfod egwyddorion technegol gwahanol wrth arlunio a dysgu defnyddio’r rhain wrth i chi ddarlunio bywyd llonydd.
  • Theori Celf Gain wedi’i chynnwys er mwyn i dechneg a theori ddatblygu gyda’i gilydd.
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau.
  • Datblygu eich doniau mewn ymarferion ymarferol a sesiynau sgiliau manylach mewn theori.

Beth fyddwch chin ei astudio

Cyflwynir myfyrwyr i'r canlynol:

  • Ystod o egwyddorion technegol gan gynnwys persbectif, cyfansoddiad, tôn a ffurf.
  • Amrywiaeth o gyfryngau a'u cymhwysiad priodol.
  • Dadansoddi eu gwaith a gwaith eraill yn feirniadol i lywio eu hymarfer.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae archebu yn ddarostyngedig i niferoedd.

Addysgu ac Asesu

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn eu hwythnos olaf, gan gynhyrchu darn o waith terfynol ynghyd ag aseiniad llafar o'u dilyniant a'r defnydd o'r wybodaeth y maent wedi'i chaffael yn eu darn ymarferol. Bydd yr asesiad ar sail pasio a methu.

 

Ffioedd a chyllid

£195

Mae’r ffi yn cynnwys mynychu a thiwtora gan gynnwys asesu a deunyddiau sylfaenol. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd y cyfranogwyr yn dewis gweithio gyda deunyddiau ansafonol neu’n defnyddio llawer ohonynt neu mewn diwyg mawr.

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.