
Elizabeth Wakely
Mae Elizabeth yn astudio BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Darllenwch ei story yma.
Beth oeddech chi’n ei gwneud cyn dod yma i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?
Roeddwn i’n ysgrifenyddes i nifer o reolwyr a chyfarwyddwr mewn adran HR brysur gwmni cenedlaethol.
Beth ddenoch chi i PGW ac i’r cwrs?
Roeddwn i eisiau cwblhau newid gyrfa ac i gael mwy o amser i fod gyda’n teulu. Mae Glyndŵr, gan ei fod yn lleol, yn ddelfrydol ac mae gan y brifysgol enw da. Cymerais i olwg ar gyrsiau prifysgolion eraill gerllaw, ond roedd Glyndŵr oedd y mwyaf addas i mi.
Sut awyrgylch sydd ar y campws?
Mae’r awyrgylch yn gyfeillgar a hwylus. Mae gan fyfyrwyr a staff gwên ar eu hwynebau bob amser, a phryd bynnag roeddwn i angen cymorth neu gyngor mae staff yn hawdd mynd atyn nhw. Mae mor wahanol i beth wnes i ddychymyg yn fy nyddiau ysgol.
Sut awyrgylch sydd ar y campws?
Rwy’n mwynhau’r frawdoliaeth gyda myfyrwyr eraill ac mae brwdfrydedd y staff academaidd yn afaelgar iawn, fell mae’r cwrs yn ddiddorol a phrofoclyd.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud unwaith ichi raddio?
Ar ôl gwneud cwrs ysgrifennu creadigol, mi hoffwn barhau i ysgrifennu straeon a barddoniaeth. Fy mhrif uchelgais ydy cyhoeddi lyfr.
Sut fu’r gefnogaeth?
Mae fy narlithwyr a PAT bob amser ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ar ôl darlithoedd/seminarau neu gyfarfodydd un ac un, sydd yn arwydd o barch a gwerthfawrogiad.
Sut yn eich barn chi rydych chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?
Mae gen i lawer mwy o hyder yn fy ngallu ar ôl derbyn adborth positif eithriadol gan ddarlithwyr, gan annog fy uchelgais a pharhau i ysgrifennu. Hefyd, rwyf wedi canfod diddordeb mewn pynciau eraill o few adran y Dyniaethau, fel hanes, na fyddwn i byth wedi rhoi llawer o sylw iddynt o’r blaen.
Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam gydag un gair, beth fyddai hynny a pham?
Bywiogus: Fel myfyrwraig hŷn mae fy null o ddysgu wedi newid ers fy nyddiau ysgol, gan fod gen i syched am wybodaeth, gydag anogaeth a brwdfrydedd y staff academaidd am eu pwnc. Mae dod i Glyndŵr wedi bod yn agoriad llygaid i faes diddordeb newydd i mi.